'Diffyg parch' - pryder am ddifrod troseddol i safleoedd hanesyddol

Bryn Celli Ddu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cadw yn dweud bod tua 40 i 50 marc paent wedi cael eu gadael y tu mewn i Siambr Gladdu Bryn Celli Ddu ar Ynys Môn, safle sy'n dyddio nôl dros 5,000 o flynyddoedd

  • Cyhoeddwyd

Mae difrod troseddol i adeiladau hanesyddol cofrestredig yng Nghymru ar gynnydd, yn ôl y corff sy'n amddiffyn treftadaeth y wlad.

Mae Cadw, dolen allanol yn dweud y gallai 2025 weld y nifer uchaf o droseddau o'i gymharu â blynyddoedd blaenorol, gyda difrod a fandaliaeth wedi ei gofnodi ar rai o'n safleoedd mwyaf hynafol.

Maen nhw'n rhybuddio bod nifer o droseddau treftadaeth yn dal i fod heb eu cofnodi, ac yn annog pobl sy'n byw ger adeiladau hanesyddol neu safleoedd treftadaeth a sy'n gweld ymddygiad amheus i gysylltu â'r awdurdodau i nodi hynny.

Mae'n drosedd i ddifrodi neu ddinistio henebion neu ddefnyddio datgelwyr metel heb ganiatâd ar safleoedd sydd wedi eu gwarchod.

'Teimlo fel byncer oherwydd y graffiti'

Un o'r henebion sydd wedi ei ddifrodi yn ddiweddar ydi Siambr Gladdu Bryn Celli Ddu ger Llanddaniel Fab ar Ynys Môn.

Mae'n un o'r safleoedd neolithig enwocaf yng Nghymru, ac mae'n dyddio yn ôl 5,000 o flynyddoedd.

Mae pobl yn heidio yno bob blwyddyn, yn enwedig ym mis Mehefin ar hirddydd haf, pan fydd yr yr haul yn codi ac yn goleuo tu mewn i'r siambr.

Mae marciau paent, crafiadau ac eitemau'n cael eu gadael y tu mewn i Bryn Celli Ddu
Disgrifiad o’r llun,

Mae marciau paent, crafiadau ac eitemau'n cael eu gadael y tu mewn i Bryn Celli Ddu

Ond yn ôl Ffion Reynolds, sy'n Rheolwr Treftadaeth a'r Celfyddydau i Cadw, mae pobl yn ddiweddar wedi dechrau rhoi paentiadau a chrafiadau ar gerrig o fewn y siambr.

"Mae pobl yn dod a mae nhw moyn rhoi rhyw fath o offrwm yn y safle", meddai.

"Mae pobl yn gadael offrwm, ond hefyd beth mae pobl wedi tueddu dechrau wneud yw peintio tu mewn yr heneb, a mae hwn falle ddim yn rhoi difrod gormodol, ond os chi'n dechrau rhoi paent, a wedyn mae rhywun arall yn dod a does dim paent gyda nhw, a wedyn ma nhw'n pigo carreg a wedyn scratcho y cerrig a wedyn mae hwnna yn ddifrod i'r heneb."

Ychwanegodd bod na tua 40 i 50 marc paent yn yr heneb a'i fod yn "teimlo fel byncer oherwydd gymaint o graffiti neu gelf sydd yna".

Fe gafodd Cadw drafferth tynnu paent o waliau Llys yr Esgob, Tyddewi heb ddifrodi'r waliau ymhellach
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Cadw drafferth tynnu paent o waliau Llys yr Esgob, Tyddewi heb ddifrodi'r waliau ymhellach

Mae Abaty Nedd ger Castell-nedd hefyd wedi gweld cyfres o achosion o ddifrod yn 2025, gan gynnwys difrodi arwyddion newydd, glaswellt yn cael ei rwygo o'r ddaear a'i ddefnyddio fel trac beicio, ac arddangosfa o gyfnod y Tuduriaid yn cael ei fandaleiddio.

Dywedodd Jon Berry o Cadw bod yna "40 i 50 digwyddiad y flwyddyn" o droseddau treftadaeth ar eu safleoedd nhw, ac mae "rhai cannoedd" ar draws safleoedd hanesyddol yng Nghymru.

Jon Berry yn dangos difrod i arddangosfa yn Abaty Nedd
Disgrifiad o’r llun,

Mae sawl achos o ddifrod wedi bod yn Abaty Nedd, gan gynnwys difrod i arddangosfa o Oes y Tuduriaid

Mewn rhai achosion, mae'r difrod wedi arwain at orfod cau safleoedd yn rhannol i'r cyhoedd, neu orfod gohirio gwaith cadwraeth oedd eisoes wedi ei gynllunio er mwyn blaenoriaethu gwaith trwsio difrod.

Cafodd rhan o safle Gwaith Haearn Blaenafon ei gau i'r cyhoedd yn ddiweddar ar ôl i arddangosfa gael ei fandaleiddio, a briciau eu taflu o ben tŵr.

'Croesi ffin rhwng parch ac ymyrraeth'

Mae gan Gymru un o'r cyfrannau uchaf yn Ewrop o adeiladau hanesyddol - gyda 30,100 wedi eu rhestru.

Mae yna dros 4,000 o henebion cofrestredig, yn cynnwys olion Rhufeinig, siambrau claddu, cestyll a phontydd, gyda 400 o barciau hanesyddol cofrestredig a phedwar o safleoedd treftadaeth y byd.

Mae'r gosb am ddifrod bwriadol i henebion cofrestredig yn amrywio o ddirwy i gyfnod o garchar.

Rhys Mwyn
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r archeolegydd Rhys Mwyn yn galw ar i bobl ddangos parch a gadael llonydd i safleoedd hanesyddol

Mae'r archeolegydd Rhys Mwyn, sydd hefyd yn mynd â phobl ar deithiau o gwmpas safleoedd hanesyddol, yn galw ar y cyhoedd i ddangos parch tuag at yr henebion.

"Faswn i falle yn gofyn un cwestiwn... er bod ni'n teimlo rhywbeth pan de ni yn y llefydd yma, mae 'na risg ofnadwy bod ni'n trio rhoi ein gwerthoedd ni ar rywbeth falle sydd yn 5,000 o flynyddoedd yn ôl.

"Wedyn hwn ydi'r cwestiwn ynde, lle mae'r llinell rhwng parch, parchu, gadael llonydd a ni heddiw yn dechrau ymyrryd?"

Dywedodd bod yna engrheifftiau amlwg pan mae pobl wedi crafu ar rai o'r cerrig ym Marclodiad y Gawres, sy'n safle arall ym Môn, a hynny ar gerrig sydd wedi cael eu cerfio 5,000 o flynyddoedd yn ôl.

"Mae pobl heddiw yn meddwl bod ganddyn nhw rywsut hawl i ychwanegu at rywbeth sanctaidd.

"Mae 'na linell yn fana wedyn sy'n cael ei chroesi, diffyg parch a'r ymyrraeth ma."

'Gadewch ôl troed yn unig'

Rob Taylor ydy cydlynydd troseddau cefn gwlad a bywyd gwyllt Cymru, ac mae'n dweud bod diffyg gwybodaeth yn aml wrth wraidd y troseddau.

"Mae pobl yn dod i safleoedd ble efallai dydyn nhw ddim yn deall sy'n safleoedd hynafol fel mannau claddu, a allai fod yn ddim mwy na thwmpath."

Dywedodd bod swyddogion ar draws Cymru yn ymwybodol o'r broblem, "ond mae angen i ni edrych ar sut i'w atal rhag digwydd yn y lle cyntaf".

Mae Ffion Reynolds o Cadw yn credu bod addysgu yn allweddol er mwyn atal fandaliaeth yn y dyfodol, ac mae'n gobeithio y gall pobl barhau i fwynhau ymweld â safleoedd.

"Tyda ni ddim isio cau ein henebion ni, yr holl bwynt yw i bobl ddod i fwynhau ac i ddysgu'n hanes a'n treftadaeth ni yma yng Nghymru.

Fy neges i fasa i dynnu dim ond lluniau a gadael dim ond olion troed".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig