Tanau gwair Ceredigion: 'Amser pryderus i'r ardal'

Ffair-rhosFfynhonnell y llun, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y tân sy'n llosgi yn ardal Ffair-rhos ac Ystrad Fflur yn bum milltir o hyd neithiwr

  • Cyhoeddwyd

Mae tanau gwair wedi bod yn llosgi yng Ngheredigion ers sawl diwrnod, gyda chynghorwyr yn dweud bod hi'n "amser pryderus" i'r ardal.

Mae tân mawr yn ardal Cwm Rheidol, a rhai eraill yn y mynyddoedd yn ardaloedd Ystrad Fflur a Ffair-rhos hefyd.

Yn siarad ar Dros Frecwast fore Mawrth, dywedodd y Cynghorydd Ifan Davies ei fod yn credu bydd "y frigâd dân yma am rai dyddie eto," yn sgil tân Cwm Rheidol.

Mae criwiau tân o sawl ardal wedi bod yno'n cynorthwyo gyda cheisio rheoli'r fflamau, ac wedi bod wrthi ers sawl diwrnod bellach.

Dywedodd y gwasanaeth tân eu bod wedi bod yn brysur yn delio gyda thanau gwair ar draws y canolbarth a'r de dros nos.

Mae gwasanaeth y Canolbarth a'r Gorllewin yn gofyn i bobl ffonio 999 dim ond os ydy eu bywydau neu gartrefi mewn perygl, gan eu bod yn delio â nifer o alwadau.

Disgrifiad,

Fideo o'r fflamau ym mynyddoedd ardal Ystrad Fflur yng Ngheredigion dros nos

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru bod y tân yn ardal Ffair-rhos ac Ystrad Fflur yn ymestyn dros 2,500 hectar o dir bellach.

"Ni 'ma am y trydydd diwrnod nawr," meddai Emyr Jones o'r gwasanaeth.

"Mae'n newid trwy'r amser, mae sawl tân gwahanol yn yr ardal.

"Ar un pwynt neithiwr o'dd pum milltir o dân 'da ni, sy'n dangos faint o waith yw e, a'r tirwedd ni'n gorfod cael y criwiau mewn i."

Emyr Jones
Disgrifiad o’r llun,

"Ar un pwynt neithiwr o'dd pum milltir o dân 'da ni," meddai Emyr Jones

Dywedodd y Cynghorydd Ifan Davies ei fod yn poeni na fydd y fflamau yn cael eu diffodd yn fuan.

"Mae'n edrych yn debyg fydd y frigâd dân yma am rai dyddie eto," meddai.

"Fi'n credu fod pob un [diffoddwr tân] yng Ngheredigion mas yn ceisio rheoli'r sefyllfa."

Ystrad FflurFfynhonnell y llun, Iona Bailey
Disgrifiad o’r llun,

Y fflamau yn y mynyddoedd yn ardal Ystrad Fflur dros nos

Ychwanegodd mai aros am law y maen nhw bellach.

"Debyg iawn bydd dim byd yn newid nawr tan fydd glaw yn dod dros y penwythnos fi'n credu - dydd Sul.

"Felly mae hi'n amser fishi a phryderus yn yr ardal."

Dinas BaglanFfynhonnell y llun, Gareth Kehoe
Disgrifiad o’r llun,

Tu hwnt i Geredigion, roedd y tân gwair yma ar fynydd Dinas Baglan yng Nghastell-nedd Port Talbot dros nos

Hefyd yn siarad ar Dros Frecwast oedd y Cynghorydd Rhodri Davies, a ddywedodd bod y tân wedi gwaethygu nos Lun oherwydd bod y "gwynt wedi troi".

Does neb wedi gorfod gadael eu tai ar hyn o bryd, meddai'r Cynghorydd Davies, oherwydd bod y gwasanaethau brys "wedi bod yn llwyddiannus yn diffodd y tân rownd rhai o'r tai".

Dywedodd y Cynghorydd Davies bod "lot o ddifrod wedi cael ei wneud i fywyd gwyllt, ond mae pobl yr ardal yn saff ar hyn o bryd, sydd bwysicaf oll".