Aduniad gyda Beibl William Morgan dros 70 mlynedd ar ôl ei gario

John Tudno Williams (mewn gwyn yn y blaen) yn cario Beibl William Morgan mewn gwasanaeth yn Llundain yn 1954
- Cyhoeddwyd
Bydd cyn-weinidog ac ysgolhaig yn mwynhau aduniad arbennig ddydd Iau pan fydd yn ymweld â Beibl yr Esgob William Morgan yn Nhyddewi.
Yn 1954, fe gariodd y Parchedig John Tudno Williams y Beibl Cymraeg drwy eglwys St Martin in the Fields, Llundain mewn gwasanaeth i nodi 350 o flynyddoedd ers marwolaeth William Morgan.
Mae'r copi prin, gafodd ei argraffu yn 1588, yn cael ei arddangos yng Nghadeirlan Tyddewi yn Sir Benfro ers 17 Mehefin.
Dyma'r tro cyntaf iddo gael ei arddangos yng Nghymru, ar ôl cael ei gadw yng nghasgliad llyfrgell Abaty Westminster.
'Camp anhygoel'
"Fe ges i fy newis, o blith plant yr Urdd yn Llundain, i gludo'r Beibl a oedd wedi ei fenthyg am y tro cynta' erioed o Abaty Westminster," meddai Dr Williams, a oedd yn 15 oed ar adeg y gwasanaeth hwnnw yn 1954.
"Dyma'r copi rwy'n gobeithio ei weld eto - ryw aduniad bach ar ôl 71 o flynyddoedd bron - yn y gadeirlan yn Nhyddewi."
Roedd yr eglwys dan ei sang ar gyfer y gwasanaeth a nifer o Gymry blaenllaw yno.
Rôl Dr Williams oedd cyflwyno'r Beibl i'r offeiriad, L M Charles Edwards a oedd yn ddisgynnydd i Thomas Charles o'r Bala.
"Dwi'n gallu nabod ambell un yn y gynulleidfa. Gwilym Lloyd George yn cynrychioli'r llywodraeth a Megan Lloyd George yn eistedd y tu ôl iddo."

"Mae camp William Morgan yn anhygoel," meddai'r Parchedig John Tudno Williams
Mae'r Beibl Cymraeg wedi chwarae rôl allweddol yn mywyd a gwaith Dr Williams, sy'n gyn-bennaeth ar y Coleg Diwinyddol yn Aberystwyth.
Roedd yn aelod o'r panel oedd yn gyfrifol am y Beibl Cymraeg Newydd gafodd ei gyhoeddi yn 1988.
"Fi wnaeth y gwaith o gyfieithu'r apocryffa i'r Gymraeg. Fe wnaeth William Morgan hynny," meddai.
"Dwi ddim yn siwr a oedd ei galon o yn y gwaith achos Protestant mawr oedd o a doedd Protestaniaid y cyfnod hwnnw ddim yn rhyw hoff iawn o'r apocryffa!"

Mae'r Beibl prin wedi cael ei ddisgrifio fel un o arwyddocâd hanesyddol eithriadol
Cafodd y Beibl ei gyfieithu i'r Gymraeg gan William Morgan fel rhan o ymdrech i ddod ag ysgrythurau i bobl mewn ieithoedd yr oedden nhw'n eu deall.
Ond mae Dr Williams yn dweud fod effaith y gwaith i'w weld hyd heddiw.
"Mae camp William Morgan yn anhygoel," meddai. "'Dach chi'n gallu darllen Beibl William Morgan yn berffaith heddiw am fod yr iaith mor safonol.
"Mae o wedi lliwio ein ffordd ni o siarad ac o ysgrifennu yn Gymraeg hyd at yr unfed ganrif ar hugain - mae'n anhygoel pan 'dach chi'n meddwl am y peth."
Abaty 'wedi gofalu am y llyfr'
Bydd Dr Williams yn mynd â'r llun ohono yn 1954 gydag ef i'r arddangosfa yn Nhyddewi.
Mae yna gopïau eraill o'r Beibl yn y Llyfrgell Genedlaethol ac mae Dr Williams yn fodlon mai Llundain a llyfrgell Abaty Westminster yw cartref parhaol y copi hwn.
"Mae'n rhaid i chi barchu mai dyna oedd ewyllys William Morgan," meddai.
"Mae'n amlwg i mi fod yr Abaty wedi gofalu'n wych am y copi yma ac yn ei theimlo'n fraint fod y copi ganddyn nhw.
"Mae'n bwysig bod yna gopïau tu allan i Gymru i ddangos fod y Cymru ymhell ar y blaen i'r gwledydd Celtaidd eraill o ran cyfieithu'r ysgrythur."
Bydd yr arddangosfa yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn dod i ben ar 9 Gorffennaf.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mehefin
- Cyhoeddwyd15 Mehefin