Hen waith dur Brymbo i droi'n ganolfan dreftadaeth
- Cyhoeddwyd
Mae cymuned yn y gogledd o gollodd ei gwaith dur dros dri degawd yn ôl ar fin ailafael yn eu hanes.
Fe gollodd dros 1,000 o bobl eu swyddi pan gaeodd gwaith dur Brymbo, ger Wrecsam, ym 1990 ac mae’r safle wedi bod yn segur ers hynny.
Ond nawr bydd yr hyn sy'n weddill yn cael ei ddatblygu'n ganolfan dreftadaeth.
Mae'r datblygwyr yn credu y bydd ffosiliau o goed 300 miliwn o flynyddoedd yn ôl yn gwneud y safle'n atyniad unigryw.
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2020
Cafodd Brymbo ei droi'n bentref diwydiannol gyda'r gwaith glo yn 1796.
Ond gyda datblygiad y diwydiant haearn ac yna dur fe dyfodd y pentref a'r pentrefi cyfagos wrth i'r safle gyflogi dros 2,000 yn ei anterth.
Cafodd Avril Smith ei geni a'i magu ym mhentref cyfagos Lodge.
Fe gollodd hi a'i theulu eu cartref wrth i safle'r gwaith ehangu a gorchuddio adeiladau yn y cwm islaw.
Mae Avril yn disgrifio'r profiad fel un "trist", ond yn dweud ei fod yn "aberth" ar gyfer swyddi.
Yn ddiweddarach, aeth hi ei hun i weithio yn ffreutur y gwaith dur am 12 mlynedd, ac mae hi'n cofio cymuned agos.
"Roedd y lle yn fwrlwm - roedd 'na wastad rywun o gwmpas," meddai.
"Efo'r shiffts, clywed pobl yn cerdded lawr y ffordd, clywed sŵn y bŵts yn clacio ar y ffordd. Roedd y lle yn fyw.
"Roedd y gwaith yn anodd, ond yn lot o hwyl hefyd. Roedd o fel teulu mawr.
"Doedd o ddim yn berffaith, ond roedd o'n lle braf i weithio ac mae pobl yn dal yn ffrindiau heddiw."
"Pan nes i glywed y cyhoeddiad [bod y lle'n cau] doeddwn i ddim yn gallu credu.
"Ac am fisoedd, blynyddoedd wedyn roeddwn i'n meddwl 'Na, mae rhywbeth yn mynd i ddod. Dydy o ddim yn cau.'
"Roedd o mor drist."
Cafodd y gwaith ei symud dramor gyda'r adeiladau hynaf, yn cynnwys y ffwrnais wreiddiol, yn cael eu gadael.
Wedi ymdrech hir gan drigolion lleol a chyn-weithwyr, bydd yr adeiladau yma yn cael eu trawsnewid yn ganolfan dreftadaeth Stori Brymbo, gan adrodd hanes y diwydiant glo, haearn a dur.
Ond bydd yr hanes yn mynd ymhellach na hynny diolch i ddarganfyddiad ‘coedwig ffosil’ mewn craig gerllaw, yn dyddio'n ôl 314 miliwn o flynyddoedd pan roedd y tir yng Nghymru yn nes at y cyhydedd o dan hinsawdd drofannol.
Yn ôl palaeontololegydd sy’n gyfrifol am y rhan hwn o'r prosiect, Dr Tim Astrop, mae'r safle'n "eithriadol o bwysig".
"Dyma'r unig safle o'i fath trwy'r wlad ble mae modd ei gyrraedd yn hawdd, ac mae nifer y ffosiliau yma yn anhygoel - miloedd ar filoedd," meddai.
"'Dach chi'n llythrennol yn baglu drostyn nhw fyny fan 'na!”
Bydd craig y ‘goedwig ffosil’ yn cael ei gorchuddio gan adeilad newydd fydd yn ailgreu'r hinsawdd drofannol, lle bydd modd i ymwelwyr gerdded ymysg y ffosiliau wrth i balaeontololegwyr weithio.
Bydd y ganolfan dreftadaeth felly'n adrodd hanes carbon - o sut cafodd ei amsugno gan y planhigion a’i gloi yn y tir am filiynau o flynyddoedd, ac yna ei ryddhau'n ôl i'r amgylchedd am 200 mlynedd wedi'r chwyldro diwydiannol.
"Mae carbon yn rhywbeth mae angen i blant fod yn ymwybodol ohono, ond falle nad ydyn nhw'n ei ddeall yn iawn," medd Dr Astrop.
"Mae gennym gyfle i ddweud yr hanes yn fa'ma."
Mae disgwyl i'r datblygiad greu 25 o swyddi ac mae Avril Smith yn falch bod y safle'n cael ei ailddatblygu.
"Dwi'n teimlo'n reit gyffrous i feddwl bod rhywbeth wedi cael ei safio o'n hanes ni," meddai.
"Dydy popeth ddim wedi diflannu.
"Does dim llawer ar ôl ond mae'n job fawr nawr."