£4.1m i adfywio hen waith dur Brymbo
- Cyhoeddwyd
Mae cynllun i drawsnewid cyn-waith haearn a dur Brymbo ger Wrecsam wedi llwyddo i gael grant o dros £4m o Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Fe fydd y safle'n cael ei droi'n atyniad i ymwelwyr, canolfan gymunedol a gofod busnes newydd.
Bydd y prosiect yn para pum mlynedd ac yn darparu cyfleusterau, swyddi, hyfforddiant a phrentisiaethau newydd i'r ardal, yn ogystal â diogelu'r 'goedwig ffosilau' 300 miliwn o flynyddoedd oed sydd o bwysigrwydd rhyngwladol, a ddarganfuwyd wrth fwyngloddio glo brig yn 2003.
Cafodd y gwaith dur ei gau yn 1990 gan arwain at golli 1,100 o swyddi yn yr ardal.
Fis Chwefror, fe wnaeth cynghorwyr Cyngor Wrecsam bleidleisio i gefnogi'r cynllun o'r enw 'Stori Brymbo: Taith 300 Miliwn o Flynyddoedd', gydag Ymddiriedolaeth Treftadaeth Brymbo yn gyfrifol am y cynllun.
'Brwdfrydedd a momentwm'
Dywedodd Nick Amyes, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Treftadaeth Brymbo: "Ar ôl i'r safle gau 30 mlynedd yn ôl, safai ei graidd hanesyddol yn wag am flynyddoedd.
"Ers 2014 mae'r Ymddiriedolaeth wedi bod yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau dros dro yn y safle sy'n dal i adfeilio, gan greu ymwybyddiaeth, brwdfrydedd a momentwm, a gwrthsefyll y fandaliaeth, llosgi bwriadol ac ymddygiad gwrth-gymdeithasol sydd wedi dechrau.
"Rydyn ni eisoes wedi llwyddo i ddenu buddsoddiad, ond mae'r rhan fwyaf ohono wedi bod yn ddibynnol ar sicrhau'r nawdd pwysig terfynol hwn.
"Bydd yr hwb enfawr hwn gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn ein galluogi ni i roi bywyd newydd i'r cyn-safle diwydiannol pwysig hwn; byddwn ni'n defnyddio Brymbo i helpu creu ymdeimlad newydd o falchder, gobaith a chydweithrediad i'r gymuned leol, a helpu rhoi Wrecsam ar y map yn fwy cadarn ar gyfer pobl sy'n ymweld â gogledd Cymru."
Yn dilyn dirywiad y diwydiant dur yn y 1970au a'r 1980au, dioddefodd Brymbo yn enbyd ac yn y diwedd daeth cynhyrchu i ben yno yn 1990, gan adael y safle fwy neu lai'n wag a'r gymuned leol wedi ei dinistrio ar ôl colli 1,125 o swyddi.
Dechrau newydd
Mae disgwyl i'r safle ddenu hyd at 37,000 o ymwelwyr bob blwyddyn ar ôl cael ei adfer, ac mae'r cynllun yn bwriadu:
Adfer y Siop Beiriannau a'i hailbwrpasu fel canolfan ymwelwyr fydd yn cynnwys arddangosfa treftadaeth, siop a chaffi, gofodau swyddfa/gweithdy i'w rhentu a gofod hyblyg ar gyfer dysgu a chyfarfodydd;
Ailbwrpasu'r Gweithdy Patrwm a Seiri fel gofod arddangos, dehongli a digwyddiadau;
Creu awyrgylch dan do, wedi ei ddiogelu i gloddio a chyflwyno'r goedwig ffosilau, gan alluogi ymwelwyr i fynd ar daith gronolegol drwy hanes Brymbo o ffosilau i lo, haearn i ddur, cau i adnewyddu;
Adnewyddu Tŷ'r Asiant sy'n adeilad Rhestredig Gradd II, cychwyn ar y gwaith trwsio a diogelu'r Glofa Chwyth, a chyfres o adeiladau'r gwaith haearn gan gynnwys y Ffowndri, y Tŷ Castio a'r ffwrnais, yn ogystal â strwythurau hanesyddol pwysig eraill;
Cynnal gweithgareddau ymgysylltu a dysgu ar gyfer gwirfoddolwyr, pobl ag anableddau a phobl sydd ar incwm isel.
Dywedodd y Farwnes Kay Andrews, Ymddiriedolwr a Chadeirydd Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru: "Bydd y prosiect hynod gyffrous hwn yn ailgreu Brymbo ar gyfer cymuned heddiw, a diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol bydd potensial gan y safle unwaith eto i chwarae rhan allweddol yn natblygiad ac adfywiad economaidd yr ardal."
Yn ogystal â nawdd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol mae ailddatblygiad Brymbo hefyd wedi cael cefnogaeth gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol; Cyfoeth Naturiol Cymru; CADW; Amgueddfa Genedlaethol Cymru; Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam; Parkhill Estates Cyf. a Brymbo Developments Ltd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2017
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2013
- Cyhoeddwyd24 Medi 2013