Cymeradwyo cais am ganolfan dreftadaeth
- Cyhoeddwyd
Mae cynllun i sefydlu atyniad i dwristiaid ar hen safle gwaith dur ger Wrecsam wedi ei gymeradwyo'n unfrydol gan y cyngor lleol.
Cafodd gwaith dur Brymbo ei gau yn 1990 gan arwain at golli 1,100 o swyddi yn yr ardal.
Ers hynny mae cyn weithwyr ar y safle a haneswyr lleol wedi bod yn cydweithio i chwilio am ffyrdd i ddathlu hanes y lle.
Ddydd Mawrth fe wnaeth cynghorwyr Cyngor Wrecsam bleidleisio i gefnogi'r cynllun o'r enw 'Stori Brymbo: Taith 300 Miliwn o Flynyddoedd'. Mae'r cynllun yn dibynnu ar gymeradwyo grant o £4.1m o Gronfa Treftadaeth y Loteri.
Mae Ymddiriedolaeth Treftadaeth Brymbo eisoes wedi sicrhau mwy na £3m o arian loteri i adnewyddu un o'r adeiladau o'r 1920au - y Siop Beiriannau - a chreu parc gerllaw.
Ym mis Tachwedd 2019, fe gyflwynwyd cais am gyfanswm o £6.1m er mwyn gwireddu eu breuddwyd yn llawn, gan gynnwys canolfan ymwelwyr, siop ac unedau busnes.
'Ystod eang o fuddion'
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones o Gyngor Wrecsam: "Wedi blynyddoedd lawer o ddatblygu, ymgynghori gyda thrigolion a phartneriaid eraill mae Ymddiriedolaeth Treftadaeth Brymbo yn barod i gyflawni rhan gyntaf y weledigaeth i'r ardal.
"Mae cynllun yr Ymddiriedolaeth yn cefnogi nifer o flaenoriaethau cynllun y cyngor, ac mae ganddo'r potensial i ddod ag ystod eang o fuddion i Wrecsam yn enwedig o safbwynt treftadaeth, twristiaeth ac adfywio.
"Mae'r cynllun yn dibynnu ar gefnogaeth nifer o ffynonellau o arian gan gynnwys Cronfa Treftadaeth y Loteri, Cronfa Gymunedol y Loteri a Llywodraeth Cymru, ac mae'r cyrff yma i gyd yn rhoi pwyslais mawr ar gefnogaeth yr awdurdod lleol."
Cafwyd galwad ar aelodau cabinet Cyngor Wrecsam i gymeradwyo llythyr o gefnogaeth i gyd-fynd â'r cais am arian, gyda disgwyl penderfyniad ym mis Mawrth.
Os fydd yn llwyddiannus gallai'r gwaith adeiladu ddechrau yn ddiweddarach eleni gan fod ceisiadau cynllunio eisoes wedi eu cyflwyno i'r cyngor.
Un o'r prif atyniadau sy'n rhan o'r cynllun yw coedwig ffosiliau. Credir bod hwn yn dyddio nôl 300 miliwn o flynyddoedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2017
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2013
- Cyhoeddwyd24 Medi 2013