Dirwy i gwmni arwerthu wedi i ddyn gael ei ladd gan fuwch

Huw EvansFfynhonnell y llun, Llun Teulu/Yr Awdurdod Iechyd a Diogelwch
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Huw Evans o'i anafiadau wedi i fuwch ddianc o fart Hendy-gwyn ar Daf a'i sathru

  • Cyhoeddwyd

Mae cwmni arwerthu adnabyddus sy'n rhedeg dau fart yn y gorllewin wedi ei ddedfrydu i dalu mwy na £82,000 mewn dirwy a chostau, yn dilyn marwolaeth dyn yn Sir Gaerfyrddin.

Cafodd Huw Evans, 75, ei sathru gan fuwch oedd wedi dianc o farchnad Hendy-gwyn ar Daf fis Tachwedd 2022.

Bu farw o'i anafiadau yn yr ysbyty chwe diwrnod yn ddiweddarach.

Daw’r ddedfryd ar ôl i un o gyfarwyddwyr cwmni JJ Morris bleidio'n euog mewn gwrandawiad blaenorol.

Mae'r cwmni annibynnol yn gyfrifol am farchnadoedd Hendy-gwyn ar Daf a Chrymych.

Ar 19 Tachwedd 2022, dihangodd buwch naw oed a oedd yn groesfrid o Limousin, wrth gael ei dadlwytho o drelar ym marchnad da byw Hendy-gwyn ar Daf.

Ceisiodd sawl unigolyn gael rheolaeth ar y fuwch cyn iddi gyrraedd man cyhoeddus, gydag un aelod o staff yn dioddef anaf i’w goes ar ôl cael ei daro ganddi.

Wrth groesi’r ffordd y tu allan i archfarchnad yn y dref, cafodd Huw Evans, cyn-weithiwr cyngor a oedd yn byw’n lleol, ei sathru gan y fuwch.

Cafodd ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, lle bu farw chwe diwrnod yn ddiweddarach.

Cafodd y fuwch, a oedd yn eiddo i Paula Wilson, ei difa gan yr heddlu.

'Ymosodol' wrth ei llwytho

Clywodd Llys Ynadon Llanelli i Ms Wilson ddweud mewn sgwrs anffurfiol wrth un o weithwyr y mart bod y fuwch wedi bod "yn siarp" ac yn "ymosodol" tuag ati, wrth iddi ei llwytho i’r trelar y bore hwnnw.

Heb i’r gweithiwr gael cyfle i drosglwyddo’r neges i’w gyd-weithwyr, roedd un ohonynt wedi agor y trelar a rhyddhau’r fuwch.

Dywedodd y bargyfreithiwr Anthony Vines, ar ran y Gweithgor Iechyd a Diogelwch, nad oedd mesurau priodol mewn lle ym mart Hendy-gwyn ar Daf - fel grid gwartheg - i atal anifeiliaid fel da byw rhag dianc o'r safle.

Cyfeiriodd at ddigwyddiad arall hefyd, lle roedd buwch wedi dianc o’r mart yn Hendy-gwyn ar Daf i ganolfan ailgylchu gyfagos ddiwedd 2021, er na chafodd neb eu hanafu y tro hynny.

Dywedodd nad oedd prawf fod unrhyw newidiadau wedi cael eu gwneud rhwng y digwyddiad hynny â’r digwyddiad lle bu farw Mr Evans.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae grid gwartheg wedi cael ei osod erbyn hyn ar safle mart Hendy-gwyn ar Daf

Dywedodd Alun Williams, bargyfreithiwr ar ran JJ Morris, fod y cwmni yn un adnabyddus sydd wedi bod yn rhedeg y mart yn Hendy-gwyn ar Daf ers dros 30 mlynedd.

Dyma’r tro cyntaf, meddai, yn hanes y mart iddyn nhw wynebu digwyddiad fel hyn, "sydd yn awgrymu rhywbeth i ni am arfer da'r cwmni".

Ychwanegodd bod dros filiwn o wartheg wedi cael eu trin yn y mart dros y 30 mlynedd, a bod y fuwch benodol hon, yn ôl gweithwyr, yn amlwg mewn cyflwr "ymosodol" cyn iddi gyrraedd yno.

'Dad oedd fy ffrind gorau'

Roedd meibion Huw Evans yn bresennol yn y llys, ynghyd ag aelodau arall o’r teulu.

Mewn datganiad a gafodd ei ddarllen gan eu bargyfreithiwr, dywedodd Dafydd John Evans, ei fod mewn "anghrediniaeth" pan glywodd y newyddion am ymosodiad y fuwch ar ei dad.

"Mae ei farwolaeth wedi cael effaith aruthrol arna' i a fy mrawd. Dad oedd fy ffrind gorau," meddai.

Dywedodd fod ei dad yn ddyn oedd yn mwynhau darllen papur newydd a chael peint dyddiol yn y dafarn leol.

"Byddai’n eistedd yn yr un sedd bob dydd," meddai.

Aeth ymlaen i ddweud fod landlord y dafarn wedi symud y sedd erbyn hyn, gan nad oedd yn medru wynebu gweld y sedd yn wag, heb fod Mr Evans yn eistedd ynddi.

"Bydd wyrion Dad byth yn ei adnabod yn llawn," ychwanegodd Dafydd John Evans.

"Fydd e ddim yno i’w gweld nhw’n tyfu’n hŷn."

Beth oedd y ddedfryd?

Ar ôl pledio’n euog i ddau gyhuddiad yn ymwneud â iechyd a diogelwch mewn gwrandawiad blaenorol, cafodd cwmni arwerthu JJ Morris ei dedfrydu i dalu cyfanswm o £82,047 - dirwy o £75,000, £5,047 mewn costau a swm ychwanegol o £2,000.

Roedd y ddedfryd yn ymwneud â methu sicrhau iechyd, diogelwch a lles aelod o staff, ynghyd â methu sicrhau iechyd a diogelwch aelod o’r cyhoedd.

Roedd y ddau gyfarwyddwr, David Arwel Thomas a John Cecil Estcourt Nicholas, yn bresennol yn Llys Ynadon Llanelli ddydd Iau.

Ers y digwyddiad mae grid gwartheg wedi cael ei osod ym mart Hendy-gwyn ar Daf, yn dilyn gorchymyn gan y Gweithgor Iechyd a Diogelwch.

"Roedd modd rhagweld ac atal y digwyddiad trasig hwn," meddai'r Arolygydd Iechyd a Diogelwch Rhys Hughes.

"Fe ddylai'r risg pe tai gwartheg yn dianc o'r mart fod wedi ei adnabod, a mesurau rheoli effeithiol wedi'u cyflwyno.

"Mae'r achos hwn yn tanlinellu pwysigrwydd dilyn canllawiau'r diwydiant, sy'n hawdd eu canfod ac sy'n amilnellu'r gofynion i reoli gwartheg yn ddiogel."

Pynciau cysylltiedig