Eurfyl ap Gwilym: Dadlau gyda Paxman a dyddiau cynnar y cyfrifiadur

- Cyhoeddwyd
Y gwestai ar Beti a'i Phobol ar BBC Radio Cymru wythnos yma yw'r economegydd a chyn-Ddirprwy Gadeirydd Cymdeithas Adeiladu'r Principality, Eurfyl ap Gwilym.
Yn gyn-ymgynghorydd ar yr economi i Blaid Cymru, daeth yn wyneb cyfarwydd ledled y cyfryngau cymdeithasol yn 2013 am ei gyfweliad â Jeremy Paxman ar raglen Newsnight, ble dywedodd wrth y newyddiadurwr am 'wneud ei waith cartref' pan oedd yn cael ei holi am wariant Cymru o'i gymharu â gweddill Prydain.
Dyma ambell i beth ddysgon ni o'i sgwrs â Beti George:
Mae dal i gael ei adnabod yn y stryd am ei gyfweliad cofiadwy gyda Jeremy Paxman.
O'n i'n gwybod ei fod e'n heriol iawn, felly o'n i'n ffodus iawn, 'nath e ddechrau'r cyfweliad drwy honni ffeithiau o'dd ddim yn gywir: 'Reit! 'Nawn ni aros ar y pwnc yma'. Felly er iddo ymgeisio dianc, 'nes i ddim gadael iddo fe!
Dwi'n meddwl pan 'nes i ddweud wrtho am 'wneud ei waith cartref', o'dd hynny'n seicolegol bwysig. Damwain oedd hynny ar y pryd, ond o edrych nôl, roedd o'r peth gorau i'w wneud!
Roedd y mwyafrif llethol yn canmol fi, ac yn ddigon hapus i Jeremy Paxman gael amser anodd am unwaith.
Rhai blynydde yn ôl o'n i'n cerdded yn Llundain, a dyma ddyn yn cerdded lawr y palmant y ffordd arall, ac yn aros a dweud 'Paxman – well done!'. Maen nhw dal i gofio.
Mae'n anffodus mewn ffordd, achos dwi'n hoffi meddwl mod i wedi cyflawni mwy mewn bywyd nag un cyfweliad. Ond dyna fe!
Cyfweliad cofiadwy Eurfyl ap Gwilym gyda Jeremy Paxman
Mae ganddo ddoethuriaeth mewn Ffiseg o Goleg y Brenin, Llundain, ond roedd wedi bod â diddordeb mewn gwyddoniaeth o oed ifanc iawn... a allai fod wedi ei gael mewn i drwbl!
O'n i'n benthyg e byth a beunydd o'r llyfrgell yn Aberystwyth, Rockets, Missiles and Space Flight gan Willy Lee. 'Nes i edrych lan yn ddiweddar os 'sen i'n gallu prynu copi achos mae e'n llyfr rhyfeddol; allwn i ddim ei gael e nawr, achos ynddo fe roedd bwydlen o sut i wneud Nitroglycerin a phethau fel'na!
O'dd Dilys [fy chwaer] yn gweithio mewn labordy bio-cemegol, ac – alla i ddweud hyn nawr – o'dd hi wedi cael asidau, ac o'n i wedi eu cymysgu nhw.
Nes i danio fe; doedd gyda fi ddim detonator ond roedd e'n fflamio'n hyfryd!
Y dyddiau hyn, bydde'r bomb squad wedi dod!
Mae wedi bod yn ymgynghori ac ymchwilio i Blaid Cymru ers canol y 60au.
Dechreuais i wneud gwaith iddyn nhw yn 1966/67 pan o'n i'n gneud fy noethuriaeth. O'dd Dafydd Wigley yn Llundain a Phil Williams yng Nghaergrawnt, a dyma ni'n sefydlu grŵp ymchwil.
Yn 1966, pan aeth Gwynfor [Evans] i'r Senedd, doedd ganddo ddim lot o adnoddau tu ôl iddo fe, felly 'naethon ni lawer iawn o waith i'w helpu e yn gosod cwestiynau Seneddol ysgrifenedig. Doedd dim Google bryd hynny, a doedd hi ddim mor hawdd cael gwybodaeth.
Roedden ni wedi codi llawer o gwestiynau, a thri llyfr Black Papers on Wales. Roedd y gwaith yna wedi helpu Gwynfor, ond yn help i'r achos yn gyffredinol hefyd. Yn 1970, 'naethon ni gyhoeddi cynllun economaidd i Gymru; dyna oedd yr ymgais gyntaf i wneud hynny.

Gwynfor Evans, AS newydd Caerfyrddin yn cyrraedd Llundain, Gorffennaf 1966
Mae wedi ymwneud â chyfrifiaduron ers dyddiau cynnar y dechnoleg, ac yn parhau a diddordeb ynddyn nhw.
'Nes i waith cyfrifiadur ac ysgrifennu meddalwedd yn y doethuriaeth a ges i fy hyfforddi i ysgrifennu cod. Roedd gan y brifysgol yn Llundain adran go fawr, ac adeilad lle'r oedd un cyfrifiadur yn llenwi'r adeilad – mor wahanol i nawr!
Tan yn ddiweddar o'n i ar fyrddau nifer o gwmnïau technolegol; rhai mewn meddalwedd, rhai hefyd gyda sglodion silicon, felly dwi 'di bod ym mysg y pethau yna am ddegawdau.
Mae'r datblygiadau wedi bod gymaint, dwi bach ar ei hôl hi nawr. Ond dwi'n ymddiddori mewn gwybodaeth artiffisial nawr – AI – ac os ydych chi'n edrych ar hynny, yn enwedig gyda phethau fel y sglodion silicon, mae rheiny wedi datblygu'n rhyfeddol dros y dair i bum mlynedd diwetha'.
Yr her yw, sut maen nhw'n mynd i'w reoli fe?
Er iddo gael ei eni yn Yr Amwythig, cafodd ei fagu yn Aberystwyth, ac mae wedi bod yn Gymro balch erioed.
O'n i'n ffodus, pryd o'n i tua 15/16, roedd Dilys wedi dechrau mynd allan â dyn dymunol iawn, Rendall Jones, oedd yn athro yn Aberystwyth. Roedd e mewn ffordd dawel iawn yn fy nysgu i am hanes a diwylliant Cymru; dyna pryd ddes i'n llawer mwy ymwybodol o fod yn Gymro a mod i'n byw yng Nghymru.
Buodd e farw rhyw dair blynedd yn ôl, ac o'n i wedi dweud wrtho fe cyn hynny - diolch byth - pa mor werthfawrogol o'n i am beth oedd e wedi 'neud.
[Os yw'r Gymraeg am oroesi], mae hynny i fyny i ni a bydd rhaid i ni ymladd dros y peth a gweithio'n galed iawn. Dwi'n credu, mae cryn dipyn o ewyllys da yng Nghymru tuag at yr iaith, hyd yn oed ymysg y di-Gymraeg; mae angen newid hynny i rywbeth mwy.
Mae eisiau bod yn obeithiol; ddim yn naïf, ond gobeithiol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd9 Mai 2023
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2023