Rheithgor i ystyried achos plismon sydd wedi'i gyhuddo o anafu dyn ifanc

Ellis Thomas yn gadael y llys wedi gwrandawiad blaenorol
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ellis Thomas yn gwadu achosi niwed corfforol i fachgen mewn digwyddiad y tu allan i glwb nos

  • Cyhoeddwyd

Mae'r rheithgor wedi mynd i ystyried eu dyfarniad yn achos plismon sydd wedi ei gyhuddo o anafu dyn ifanc y tu allan i glwb nos ym Mangor.

Roedd y Cwnstabl Ellis Thomas, 25 oed o Ynys Môn, ar ddyletswydd y tu allan i glwb Cube yn y ddinas yn oriau man y bore ar Ionawr 29, 2023.

Mae Harley Murphy, oedd yn 17 oed ar y pryd, yn honni iddo gael anaf difrifol yn dilyn ergyd gan heddwas wrth iddo gael ei arestio y tu allan i'r clwb.

Clywodd y llys fod yr ergyd honedig wedi arwain at rwygiad i un o geilliau Mr Murphy, a bod 50% ohoni wedi'i thynnu'n ddiweddarach mewn llawdriniaeth.

Mae'r Cwnstabl Thomas yn gwadu cyhuddiad o achosi niwed corfforol difrifol.

Mae'r achos yn parhau.