Lluniau: Dydd Llun yn y Sioe Frenhinol 2025
- Cyhoeddwyd
Roedd y maes yn Llanelwedd dan ei sang ar gyfer diwrnod agoriadol y Sioe Frenhinol heddiw.
Dyma oriel luniau yn adlewyrchu hynt a helynt diwrnod cyntaf y sioe, sydd bellach yn cael ei gynnal ers dros 120 o flynyddoedd.

Fe gafodd y Sioe ei hagor yn swyddogol am 10am gan y darlledwr adnabyddus Dei Tomos. Yn ôl Dei roedd hi'n "fraint o'r mwyaf cael agor y Sioe".

Yr olygfa o'r sied ddefaid o'r balconi uwchben

Un o enillwyr y dydd, Cai Morgan-Gervis, a gafodd wobr yn y categori Defaid Mynydd Duon Cymreig

Mae 'na gymaint fwy i'r Sioe na chystadlu yn unig. Dyma rai o ymwelwyr y sioe yn trio caiacio yn y pentref chwaraeon

Adam "yn yr ardd" Jones yn arddangos y David Brown Cropmaster - hen dractor sydd wedi bod yn ei deulu ers 1948. Fe gostiodd £333 i'w brynu yn wreiddiol, ac mae'n amlwg fod Adam a'r teulu'n edrych ar ei ôl yn dda!

"Mê-lo!"

Beirniadu wyau yn yr adran Ffwr a Phlu

Tybed a fydd rhai o'r wyau rheiny'n cael eu defnyddio i wneud cacennau blasus fel rhain?

Ian, 5 oed, o Pontsenni yn mwynhau gweld yr holl beiriannau ar faes y Sioe

Fe wnaeth y Dywysoges Anne ymweld â'r Sioe Fawr heddiw am y tro cyntaf ers 2022

Yr hufen iâ oedd uchafbwynt y dydd yn ôl Henry a Bertie o Landrindod

Fe ddaeth Ieuan a'i deulu o Abergele i arddangos eu gwartheg, gydag Annie yn ennill y 3ydd wobr

Lle da i wylio ddigwyddiadau'r prif gylch

Roedd y defaid yma, ynghyd â sawl un arall, wedi blino'n lân ar ddiwedd diwrnod cyntaf llwyddiannus yn Llanelwedd
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol, neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2024