'Fydd gen i fyth berthynas gyda mam ar ôl iddi ddwyn fy etifeddiaeth'

Jessica Thomas a Gemma Thomas Ffynhonnell y llun, Jessica Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jessica (chwith) a Gemma Thomas yn dweud na fydden nhw wedi gallu goroesi'r 10 mlynedd diwethaf heb ei gilydd

  • Cyhoeddwyd

Ar ôl i fam ddwyn etifeddiaeth o £50,000 gan ei dwy ferch, mae'r chwiorydd yn dweud eu bod nhw rŵan yn teimlo'n bryderus ac yn methu ymddiried mewn pobl.

Cafodd Katherine Hill, 53 oed, o Alltwen ym Mhontardawe, Castell-nedd Port Talbot, a'i thad 93 oed, Gerald Hill, o Fairwood yn Abertawe, eu canfod yn euog o dwyll trwy gamddefnyddio pŵer ar ôl achos llys y llynedd.

Cafodd Katherine Hill ddedfryd 30 mis o garchar, ac fe gafodd Gerald Hill ddedfryd 12 mis wedi ei ohirio am 18 mis.

Gadawyd yr etifeddiaeth o £50,000 i Gemma a Jessica Thomas gan eu nain, Margaret Hill, fu farw yn 2013.

Ddydd Llun, cafodd Katherine Hill orchymyn i ad-dalu'r £50,000 y gwnaeth hi ei ddwyn.

"Fydd gen i fyth berthynas gyda fy mam nawr," meddai Jessica.

Y fam gyda'r ddwy ferchFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Gemma a Jessica Thomas eu bod yn agos hefo'u mam pan oedden nhw'n blant

Cafodd y chwiorydd eu magu'n ardal Castell-nedd Port Talbot gyda'u rhieni, a dywedon nhw fod Hill yn "fam dda".

"Roedd hi fel fy ffrind gorau," meddai Gemma, sydd bellach yn 26 oed.

"Byddai fy ffrindiau yn mynd ati hi'n hytrach na'u mamau eu hunain ar adegau. Gwelodd neb mo hyn yn dod," meddai.

Dywedodd Gemma nad oedd gan ei mam berthynas dda gyda'i mam ei hun, Margaret.

Ychwanegodd hi bod ei mam wedi gwahanu oddi wrth eu tad pan oedd Gemma yn ei harddegau - er nad oedd hi'n gwybod pam.

Pan fu farw Margaret Hill, roedd Katherine Hill yn mynd trwy ysgariad gyda thad y merched, Chris Thomas.

Ar y pryd roedd y merched yn 12 a 15 oed, a chafodd £50,000 ei roi mewn cronfa ymddiriedolaeth i'r ddwy ei gael pan yn troi'n 25 oed - gyda'u mam fel ymddiriedolwr.

"Roedd llawer o emosiynau ar unwaith," meddai Jessica, sydd bellach yn 22 oed.

"Doeddwn i ddim yn ymwybodol ohono [yr etifeddiaeth] o gwbl. Ces i erioed wybod," meddai.

Ychwanegodd Gemma ei bod hi "ychydig yn hŷn na Jess, felly roeddwn i'n deall ychydig mwy".

Gerald a Katherine Hill
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Katherine Hill (dde) ddedfryd 30 mis o garchar, ac fe gafodd Gerald Hill (yn eistedd) ddedfryd 12 mis wedi ei ohirio

Yn dilyn yr ysgariad cafodd eu mam bartner newydd, a buodd y ddwy chwaer yn cael cyfnodau gyda'u tad a'u mam.

Dywedodd y ddwy chwaer, wrth edrych yn ôl, bod arwyddion bod Hill a'i phartner newydd yn byw y tu hwnt i'w gallu - fel adeiladu bar yn yr ardd gefn, gosod twba poeth, a mynd ar wyliau.

Ond doedd dim arwyddion digon mawr i greu pryder, gan fod y merched yn gwybod fod eu mam hefyd wedi derbyn swm mawr o arian gan ei diweddar fam.

'Dyw'r arian ddim yn eiddo i ti'

Dywedodd y ddwy eu bod nhw erbyn hyn yn gwybod mai nhw oedd yn talu am bob anrheg gan eu mam mewn gwirionedd.

Daeth honiadau gan Hill nad oedd yr etifeddiaeth erioed wedi bodoli - dim ond pan ffoniodd Gemma ei mam i ofyn am gael mynediad at yr arian yn gynnar, gan ei bod hi'n bwriadu prynu'r cartref ble tyfodd i fyny gan ei thad.

Dywedodd bod ei mam wedi dweud wrthi "nad yw'r arian yn eiddo i ti" a'i blocio rhag ei ffonio eto - gyda Hill yn honni'n ddiweddarach yn y llys ei fod wedi cael ei bostio trwy flychau post y merched.

Y merched gyda'u tad, Chris ThomasFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y merched y bydden nhw bob amser yn ddiolchgar am y gefnogaeth gan eu tad, Chris Thomas

Trwy'r cyfan, mae'r merched yn dweud eu bod nhw mor ddiolchgar o gael cefnogaeth ei gilydd.

"Dydw i ddim yn gwybod sut y byddwn i wedi ymdopi hebddi," meddai Jessica am Gemma.

Dywedon nhw mai eu tad, Chris Thomas, wnaeth eu cefnogi'n emosiynol ac yn ariannol trwy'r broses hir a arweiniodd at yr achos.

Dywedodd Mr Thomas y byddai'n cynghori unrhyw un mewn sefyllfa debyg i beidio ildio, hyd yn oed os ydyn nhw'n teimlo bod cyfiawnder yn amhosib.

Ar ôl cael y canlyniad yr oedden nhw wedi gobeithio ei gael, dywedodd Jessica ei bod yn gobeithio gweld yr arian rhyw ddydd, ond bod y broses hir yn gwneud iddi deimlo'n ansicr am y peth.

"Nawr gallwn ni symud ymlaen o'r rhan yma o'n bywydau oherwydd, er hoffwn anghofio, alla'i ddim - achos mae rhywbeth yn fy atgoffa o hyd."