Torïaid yn penodi Paul Davies yn ddirprwy arweinydd grŵp y Senedd

Paul Davies
Disgrifiad o’r llun,

Fe ymddiswyddodd Paul Davies fel arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ym mis Ionawr 2021

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies wedi cael ei benodi yn ddirprwy arweinydd grŵp y blaid yn y Senedd.

Daw'r cyhoeddiad wedi i ddau aelod o'r blaid ymddiswyddo o bwyllgor Covid y Senedd, ar ôl i Lafur wrthod cefnogi eu galwadau i dystion roi tystiolaeth ar lw.

Mae arweinydd y blaid yng Nghymru, Darren Millar hefyd wedi penodi Tom Giffard yn gwnsler cyffredinol cysgodol, yn ogystal â llefarydd ar faterion allanol, cyflawni a'r iaith Gymraeg.

Fe ymddiswyddodd Mr Davies fel arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ym mis Ionawr 2021.

Roedd ymchwiliad wedi dod i'r casgliad ei fod wedi yfed alcohol ar dir y Senedd ddyddiau wedi i waharddiad ddod i rym yng Nghymru i atal lledaeniad coronafeirws.

Daeth ymchwiliad gan gomisiynydd safonau'r Senedd i'r casgliad nad oedd wedi torri cod ymddygiad y sefydliad.

Fe fydd Mr Davies yn parhau fel prif chwip y blaid a'u llefarydd ar faterion cyfansoddiadol.

Dywedodd ei bod yn "fraint" i gael ei benodi yn ddirprwy arweinydd.

Pynciau cysylltiedig