Cyngor i 'beidio gwastraffu dŵr' wrth i'r tywydd sych barhau

Mae lefel y dŵr yng Nghronfa Ddŵr Crai wedi gostwng ychydig
- Cyhoeddwyd
Mae pobl yn cael eu hannog i feddwl am eu defnydd o ddŵr wrth i Gymru baratoi ar gyfer y dechrau Mai poethaf ar gofnod.
Ddydd Iau, fe gododd y tymheredd yng Nghaerdydd i 27.6C, tra bod 23.8C wedi ei gofnodi yn Aberystwyth..
Yn ôl Dŵr Cymru, mae lefelau cronfeydd dŵr "tipyn bach yn llai na beth maen nhw'n arfer bod amser yma'r flwyddyn" ac maen nhw'n annog cwsmeriaid "i fod yn bwyllog gyda'u defnydd o ddŵr".
Mae'r cwmni hefyd yn symud dŵr o gwmpas ac yn rhoi mwy o ddŵr mewn rhai cronfeydd er mwyn cadw'r lefelau yn ddigon uchel.

Mae cyfarwyddwyr gwasanaethau dŵr Dŵr Cymru, Marc Davies, yn dweud ei bod wedi bod yn ddechrau sych i'r flwyddyn
Dywedodd cyfarwyddwr gwasanaethau dŵr cwmni Dŵr Cymru, Marc Davies, bod y tywydd "wedi bod yn eithriadol o sych ar ddechrau'r flwyddyn".
"Mis Mawrth eleni oedd y pedwerydd sycha' ni 'di gweld ar record a ni 'di gweld y diwrnod poethaf ni 'di gweld ar ddechrau mis Mai.
"Ni'n gofyn i gwsmeriaid i fod yn ofalus o faint o ddŵr maen nhw'n defnyddio - defnyddio faint o ddŵr maen nhw angen wrth gwrs, ond i beidio gwastraffu dŵr."
Ychwanegodd eu bod nhw'n annog cwsmeriaid i "ddiffodd y dŵr wrth lanhau dannedd a gwneud yn siŵr bod y peiriant golchi dillad yn llawn wrth ei ddefnyddio".
"Ac os oes rhywun yn defnyddio eu paddling pools dros y penwythnos, gwneud yn siŵr bod nhw'n cadw'r dŵr a'i ddefnyddio yn yr ardd," ychwanegodd.

Mae Chris Rees o Dŵr Cymru yn rhan o'r gwaith o drwsio a gwella pibellau dŵr
Mae gan Dŵr Cymru gynlluniau i sicrhau bod digon o ddŵr ar gael yn ystod tywydd poeth, gan gynnwys addasu lefelau'r dŵr mewn rhai cronfeydd.
"Ni'n cysylltu un network i'r llall - yng nghronfa Crai ni 'di lleihau faint o ddŵr sy'n dod allan o'r gronfa yma yn barod ac wedi cael mwy o ddŵr o'n systemau ni yn Felindre", meddai Marc Davies.
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Mae'r cwmni hefyd yn bwriadu buddsoddi dros £400m dros y pum mlynedd nesaf i wella pibellau dŵr a sicrhau nad yw dŵr yn gollwng.
Yn ôl Chris Rees o Dŵr Cymru: "Rydyn ni wedi gosod dros 15,000 o synwyryddion ar draws ein rhwydwaith sy'n gallu nodi os oes dŵr yn gollwng ac fe allwn ni ddelio gyda hynny'n syth.
"Mae lleihau faint o ddŵr sy'n gollwng yn ein helpu ni wrth i'r tywydd sychu ac mae'n rhan bwysig o'n cynlluniau hir-dymor ni, drwy gydol y flwyddyn."
Beth allwch chi ei wneud?
Peidio â gadael y tap yn rhedeg wrth olchi dwylo neu frwsio dannedd;
Cael cawod yn lle bath;
Sicrhau bod y peiriannau golchi dillad a llestri'n llawn;
Peidio â llenwi'r pwll padlo i'r top – a defnyddio'r dŵr i ddyfrio'r planhigion yn yr ardd ar ôl gorffen â'r pwll;
Osgoi defnyddio taenellwr (sprinkler) i gadw'r lawnt yn wyrdd - daw'r lliw nôl o fewn dim pan ddaw'r glaw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mai 2023
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl