Lluniau: Gŵyl Cefni yn dathlu'r 25

Elin FflurFfynhonnell y llun, Ceirios Bebb
Disgrifiad o’r llun,

Y gantores o Fôn, Elin Fflur oedd yn cloi noson gynta'r ŵyl

  • Cyhoeddwyd

Dros y penwythnos roedd Gŵyl Cefni yn dathlu carreg filltir arbennig.

Mae'r ŵyl wedi bod yn cael ei chynnal ar Ynys Môn ers 25 mlynedd a bellach yn un o brif ddigwyddiadau cerddoriaeth Cymraeg.

Dechreuodd yn Llangefni yn 2000 fel rhan o weithgareddau Menter Iaith Môn yn sgil sefydlu Menter Môn yn 1995.

Ers hynny mae wedi datblygu a thyfu mewn maint, o fod yn denu cannoedd ar y dechrau i ddenu miloedd dros ddeuddydd erbyn heddiw.

Dyma rai lluniau o'r ŵyl.

Tesni HughesFfynhonnell y llun, Ceirios Bebb
Disgrifiad o’r llun,

Tesni Hughes, sy'n dod o Ynys Môn, oedd yn agor yr ŵyl ar y nos Wener

Y Moniars Ffynhonnell y llun, Ceirios Bebb
Disgrifiad o’r llun,

Plant yn mwynhau'r Moniars ar y nos Wener

Abi ac Elin Fflur ar y llwyfanFfynhonnell y llun, Ceirios Bebb
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Abi Jade Lewis, oedd ar raglen S4C Y Llais, ymuno gydag Elin Fflur ar y llwyfan i gyd-ganu

Plant yn sioe SbarcFfynhonnell y llun, Ceirios Bebb
Disgrifiad o’r llun,

Mae mwy na cherddoriaeth yn yr ŵyl - a digon i gadw'r plant yn brysur ar fore Sadwrn, gan gynnwys sioe Sbarc

Rhwydwaith ar y llwyfanFfynhonnell y llun, Ceirios Bebb
Disgrifiad o’r llun,

Un o'r cyntaf ar y llwyfan ar y dydd Sadwrn oedd Rhwydwaith

Plant yn mwynhauFfynhonnell y llun, Ceirios Bebb
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ŵyl yn denu cynulleidfa o bob oed

Morgan Elwy ar y llwyfanFfynhonnell y llun, Ceirios Bebb
Disgrifiad o’r llun,

Morgan Elwy yn dod a theimlad o'r haul a'r haf i'w set

Criw wrth fwrdd picnic yn mwynhau Ffynhonnell y llun, Ceirios Bebb
Disgrifiad o’r llun,

Cyfle i ddal fyny a chymdeithasu

Y band Gwilym ar y llwyfan Ffynhonnell y llun, Ceirios Bebb
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddaeth y band Gwilym ag egni i'w set nos Sadwrn

Fleur De LysFfynhonnell y llun, Ceirios Bebb
Disgrifiad o’r llun,

Fleur De Lys ddaeth a'r ŵyl i ben

Y dorf yn mwynhau Fleur De LysFfynhonnell y llun, Ceirios Bebb
Disgrifiad o’r llun,

Y dorf yn mwynhau Fleur De Lys cyn i'r ŵyl ddod i ben am flwyddyn arall

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig