Dyn yn gwadu rasio ei frawd cyn gwrthdrawiad angheuol

Bu farw'r tad i ddau, Rhys Jenkins, yn y gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae dyn sydd wedi'i gyhuddo o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus wedi dweud nad oedd yn rasio ei frawd a'i fod yn gyrru'n "ofalus" cyn y gwrthdrawiad.
Bu farw Rhys Jenkins, tad i ddau o Ddeuddwr ym Mhowys, wedi'r gwrthdrawiad ger Y Trallwng ar 16 Tachwedd y llynedd ac fe gafodd ei fab naw oed, Ioan, ei anafu'n ddifrifol.
Mae'r brodyr o Fanceinion, Umar Ben Yusaf, 34, ac Abubakr Ben Yusaf, 29, yn gwadu achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus, achosi niwed difrifol trwy yrru'n beryglus ac achosi marwolaeth tra'n gyrru heb yswiriant.
Dywedodd Umar Ben Yusaf wrth y rheithgor ei fod ef a'i frawd wedi gadael y fflat yr oedden nhw'n ei rannu yn Aberystwyth yn ystod yr wythnos i fynd yn ôl i Fanceinion ar noson y gwrthdrawiad.
Roedden nhw mewn cerbydau ar wahân, oedd wedi'u parcio mewn gwahanol leoliadau, a heb adael yr un pryd â'i gilydd, meddai.
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl
Dywedodd nad oedd ganddyn nhw gytundeb i rasio ar hyd y ffordd ac nad oedd unrhyw "banter" wedi bod cyn iddyn nhw gychwyn ynglŷn â phwy fyddai'n cyrraedd adref gyntaf.
Yn ei dystiolaeth, dywedodd Umar Ben Yusaf ei fod wedi gweld BMW X3 ei frawd am y tro cyntaf ar y noson dan sylw ar yr A483 ger Y Drenewydd, yn mynd heibio cerbyd.
Aeth ymlaen i dderbyn ei fod hefyd wedi mynd heibio nifer o gerbydau yn ei Audi A4, ond dywedodd nad oedd yn torri'r terfynau cyflymder.
Gofynnwyd i Umar Ben Yusaf am luniau dashcam a gafodd eu dangos i'r llys yn gynharach yn yr achos, oedd yn dangos car yn cael ei basio gan dri cherbyd.
Dywedodd wrth y rheithgor ei fod yn derbyn mai ei gar ef oedd y trydydd car yn y lluniau, ond dywedodd nad oedd wedi gweld ar y pryd mai car ei frawd oedd y car o'i flaen.

Mae Abubakr Ben Yusaf (chwith) a'i frawd Umar Ben Yusaf yn gwadu'r cyhuddiadau yn eu herbyn
Yn cael ei groesholi, gofynnwyd i Umar Ben Yusaf pam ei fod wedi mynd heibio cymaint o gerbydau y noson honno.
Dywedodd mai dim ond cerbydau "a oedd yn gyrru'n arafach na'r terfyn cyflymder" yr oedd wedi mynd heibio, ac ychwanegodd nad oedd wedi mynd yn gynt na'r terfyn cyflymder.
Wedi'r gwrthdrawiad rhwng car ei frawd a char Mr Jenkins, dywedodd Umar Ben Yusaf ei fod wedi arafu, a gosod ei gar ar ochr arall y ffordd er mwyn rhybuddio gyrwyr am y digwyddiad.
Gofynnwyd iddo hefyd am yr eiliadau yn dilyn y gwrthdrawiad, pan symudodd Ioan Jenkins allan o'r car Toyota a'i osod ar y gwair ar ochr y ffordd.
Gofynnodd bargyfreithiwr yr erlyniad, John Philpotts, iddo pam nad oedd wedi siarad â'r plentyn ac awgrymu iddo "ddianc i ffwrdd cyn gynted â phosibl" pan sylweddolodd pa mor ddifrifol oedd y sefyllfa.
Atebodd ei fod "wedi mynd i banig ar ôl gweld fy mrawd mewn cyflwr gwael".

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A483 ger Y Trallwng
Dywedodd Umar Ben Yusaf iddo yrru i ffwrdd o'r lleoliad gyda'r bwriad o fynd â'i frawd i'r ysbyty yn Amwythig, ond iddo stopio mewn maes parcio Tesco ger y Trallwng er mwyn iddo allu "meddwl yn glir".
Dywedodd ei fod wedi defnyddio'r toiled yn yr archfarchnad, cyn mynd yn ôl tuag at safle'r gwrthdrawiad a chael ei atal gan heddwas a oedd yn dargyfeirio traffig oherwydd y gwrthdrawiad.
Gofynnodd Mr Philpotts pam nad oedd wedi aros am ambiwlans yn y fan a'r lle.
"Ro'n i'n panicio," meddai, gan ychwanegu nad oedd "unrhyw arwydd" o'r gwasanaethau brys.
"Eich meddwl cyntaf oedd 'dianc cyn gynted ag yn bosibl?'" gofynnodd Mr Philpotts. "Anghywir," atebodd.
Ychwanegodd ei bod yn "anghywir" ei fod ef a'i frawd yn "gwybod beth roedden nhw wedi'i wneud," a bod eu ffordd o yrru wedi arwain at "ganlyniadau trychinebus".
Mae'r achos yn parhau.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.