Beth sydd ei angen ar Gymru yn erbyn Gwlad yr Iâ?
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru'n wynebu Gwlad yr Iâ yng Nghynghrair y Cenhedloedd nos Fawrth gyda'u gobeithion o ennill y grŵp dal yn fyw.
Yn eistedd yn ail yng ngrŵp B4 cyn y gêm, mae'n dal yn bosib i Gymru orffen yn gyntaf, ail neu drydydd yn dibynnu ar ganlyniadau eraill.
Dydy tîm Craig Bellamy heb golli gêm yn yr ymgyrch eleni, gan ennill dwy a chael gemau cyfartal mewn tair.
Di-sgôr oedd hi eto yn erbyn Twrci nos Sadwrn, wrth i Gymru gipio pwynt gwerthfawr gyda pherfformiad amddiffynnol arwrol yn Kayseri.
I ennill y grŵp, mae Cymru angen buddugoliaeth yn erbyn Gwlad yr Iâ yng Nghaerdydd, a gobeithio bod Twrci yn colli ym Montenegro.
Byddai hynny'n golygu bod Cymru yn codi i haen uchaf y gystadleuaeth - cynghrair A - unwaith eto, a sicrhau gemau yn erbyn rhai o dimau mwyaf Ewrop.
Petai Twrci a Montenegro yn cael gêm gyfartal, yna byddai'n rhaid i Gymru guro Gwlad yr Iâ o bedair gôl.
Ond dydy Montenegro heb ennill pwynt yn y grŵp hyd yn hyn, ac maen nhw'n sicr o ddisgyn i haen C y tymor nesaf - felly byddai'n dipyn o sioc gweld unrhyw beth ond triphwynt i Dwrci yma.
Petai Cymru'n gorffen yn ail yn y grŵp, mae dal cyfle i esgyn i'r haen uchaf drwy gêm ail-gyfle.
Byddai hynny'n golygu gêm ym mis Mawrth yn erbyn un o'r timau o gynghrair A sy'n gorffen yn drydydd yn eu grŵp.
Mae disgyn i gynghrair C dal yn bosib hefyd - os fydd Cymru'n colli yn erbyn Gwlad yr Iâ ac yn gorffen yn drydydd yn y grŵp.
Byddai hynny'n golygu gêm ail-gyfle yn erbyn un o dimau gorau'r haen is i weld pwy sy'n cael y lle yng nghynghrair B y flwyddyn nesaf.
Fe fyddai gêm ail-gyfle yn golygu bod ymgyrch Cwpan y Byd Cymru yn dechrau'n hwyrach y flwyddyn nesaf.
'Ond yn poeni am ennill'
Ond dydy'r rheolwr Bellamy ddim yn canolbwyntio ar ganlyniadau'r grŵp, meddai, a'r "gwir plaen" yw ei fod ond yn poeni am ennill y gêm.
"Mae beth bynnag sy'n digwydd mewn gemau eraill yn mynd i ddigwydd", meddai.
"Os ydyn ni'n cael gêm gyfartal fe wnawn ni ddelio gyda hynny, ac os ydyn ni'n colli fe wnawn ni ddelio gyda hynny.
"Does ond tri chanlyniad. Sut allwn ni roi ein hunain yn y sefyllfa orau i ennill y gêm? A dyna ni."
Roedd Cymru ar y droed ôl am y rhan fwyaf o'r gêm yn Nhwrci brynhawn Sadwrn.
Dywedodd Bellamy bod ei dîm wedi cael "cyfiawnder" pan fethodd Twrci â sgorio cic o'r smotyn ym munudau olaf y gêm.
Er ei bod yn ymddangos bod amddiffynnwr Cymru Neco Williams wedi cyffwrdd y bêl wrth daclo Yunus Akgun, pwyntio at y smotyn wnaeth y dyfarnwr.
Tarodd Kerem Akturkoglu ei gic yn erbyn y postyn, a dywedodd Bellamy nad oedd y tîm cartref yn "haeddu ennill yn y ffordd yna".
Un a gafodd gêm brysur yn Nhwrci oedd yr amddiffynnwr canol Joe Rodon - a allai ennill ei 50fed cap nos Fawrth.
Er iddo gael anaf wrth iddo fynd am yr un bêl â Mark Harris, fe frwydrodd Rodon ymlaen a chwarae rhan allweddol i Gymru.
Dywedodd Bellamy bod amddiffynnwr Leeds United wedi creu argraff, gan danlinellu ei bwysigrwydd i'r tîm cenedlaethol.
2-2 oedd hi pan chwaraeodd Cymru a Gwlad yr Iâ ym mis Hydref, gyda goliau cynnar gan Brennan Johnson a Harry Wilson i Gymru.
Dydy Cymru heb golli gartref ers wyth gêm bellach, ac fe fydd y tîm yn awyddus i barhau â'r record honno a record ddiguro Bellamy nos Fawrth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd
- Cyhoeddwyd14 Hydref
- Cyhoeddwyd11 Hydref