Addysgu yn Gymraeg 'tu allan i arbenigedd' athrawon yn peryglu safon

Dosbarth ysgolFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae pryderon am ansawdd addysgu pan fo athrawon sy'n medru'r Gymraeg yn gorfod dysgu pynciau "y tu allan i'w harbenigedd" am nad oes unrhyw un arall ar gael, yn ôl Aelod o'r Senedd.

Dywed y Ceidwadwr Samuel Kurtz ei fod wedi clywed rhagor o enghreifftiau gan bobl yn ei etholaeth ers iddo rannu yn y Senedd "enghreifftiau o fy addysg fy hun, lle'r oedd athrawon yn cael pynciau y tu allan i'w harbenigedd dim ond oherwydd eu bod nhw'n siarad Cymraeg".

Dywedodd un athrawes wrth Cymru Fyw bod plant weithiau'n gofyn cwestiynau nad oedd hi'n gallu ateb, a'i bod wedi gorfod treulio amser y tu allan i'r gwaith yn dysgu am bwnc nad oedd hi'n arbenigo ynddo cyn gallu rhoi gwersi i blant.

Roedd Mr Kurtz yn aflwyddiannus wrth geisio cyflwyno gwelliant i Fil y Gymraeg ac Addysg oedd, meddai, yn ceisio "sicrhau bod ansawdd addysgu pynciau drwy'r Gymraeg yn cyd-fynd ag ansawdd sgiliau iaith yr athro".

Yn y Senedd, dywedodd Mark Drakeford, yr Ysgrifennydd Cyllid a'r Gymraeg, ei fod yn "cydnabod y ffaith bod rhai pynciau ble mae'n heriol i ffeindio pobl gyda'r sgiliau ymhob cwr o Gymru".

'Doeddwn i'n methu ateb rhai cwestiynau'

Wrth siarad gyda Cymru Fyw, soniodd un athrawes o ogledd Cymru am ei phrofiad o orfod dysgu Addysg Grefyddol yn Gymraeg, yn ychwanegol i'w phwnc arferol - Mathemateg.

Dywedodd yr athrawes, nad oedd am i ni gyhoeddi ei henw am ei bod yn dal yn y maes: "Roedd hyn yn anodd pan oedd y plant yn gofyn cwestiynau estynedig lle nad oeddwn yn gwybod sut i'w ateb - gall fod yn bwnc sensitif i'w ddysgu hefyd.

"Roedd ambell bwnc yn cael ei rannu rhwng athrawon oedd gyda mwy o amser rhydd yn eu hamserlen. Tydi hyn ddim yn deg ar yr athrawon na'r plant."

Ychwanegodd: "Roedd o'n anodd dysgu gwers wedi'i gynllunio gan athro arall gan nad oeddwn wedi gwneud yr ymchwil a hel gwybodaeth fy hun, felly does gen i ddim y ddealltwriaeth sydd gan yr athrawon sy'n dysgu'r pwnc.

"Doedd yna ddim llawer o nodiadau chwaith, felly fyswn i wrthi yn amser fy hun yn trio dysgu fy hun am y pwnc."

Samuel Kurtz
Disgrifiad o’r llun,

Mae perygl o "niweidio ansawdd addysg" meddai Samuel Kurtz

Yn ôl Mr Kurtz, AS Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, "mae gwahaniaeth allweddol rhwng athrawon sy'n siarad Cymraeg a'r rhai sy'n ddigon hyderus i addysgu ynddi", a "gallai anwybyddu hyn niweidio ansawdd addysg".

"Mae angen gwybodaeth pwnc gref ar athrawon yn ogystal â sgiliau yn yr iaith."

Prif amcan Bil y Gymraeg ac Addysg yw "ceisio sicrhau bod pob disgybl yn cyrraedd diwedd oedran ysgol gorfodol fel defnyddiwr iaith Gymraeg annibynnol".

Y gobaith yw y byddai hynny'n cyfrannu at nod Llywodraeth Cymru o sicrhau bod miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050.

Mae'r Bil hefyd yn anelu at ddyblu defnydd dyddiol o'r iaith erbyn 2050.

Yn ôl Mr Kurtz: "Rhaid i'r Bil hwn sicrhau bod gennym ddigon o athrawon cyfrwng Cymraeg wedi'u hyfforddi'n dda i gefnogi myfyrwyr a chynnal safonau addysgu uchel."

Dosbarth ysgolFfynhonnell y llun, Getty Images

Wrth ymateb, dywedodd Mark Drakeford ei fod yn "cydnabod y ffaith bod rhai pynciau ble mae'n heriol i ffeindio pobl gyda'r sgiliau ymhob cwr o Gymru".

"Dydy hwnna ddim yn wir am bob lle yng Nghymru, ond mewn rhai ardaloedd mae'n heriol i ffeindio pobl gyda'r sgiliau yn barod, yn enwedig mewn rhai pynciau.

"Ry' ni'n canolbwyntio, gyda'r arian sydd gyda ni - ac mae mwy o arian yn y cynllun yn y flwyddyn ariannol nesaf - i helpu pobl sydd â rhai sgiliau yn barod, ond ble maen nhw eisiau gwella'r sgiliau - y sgiliau ieithyddol - i'n helpu ni i lenwi'r bylchau lle mae bylchau'n codi."

Cafodd Bil y Gymraeg ac Addysg ei gyhoeddi yn wreiddiol fel rhan o'r cytundeb cydweithio rhwng Llafur a Phlaid Cymru, a ddaeth i ben ym mis Mai 2024.

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar addysg, Cefin Campbell AS, eu bod yn "craffu'n fanwl" ar y Bil ac yn "gweithio ar welliannau i'w gryfhau".

"Rydym eisiau cefnogi ysgolion ac awdurdodau lleol i greu ysgolion cyfrwng Cymraeg gyda gweithlu o'r safon uchaf," meddai.

"Rydym wedi herio'r llywodraeth am yr angen i recriwtio a chadw gweithlu digonol, ac yn parhau i alw am newidiadau i'r system recriwtio."

Laura Doel
Disgrifiad o’r llun,

"Rydym yn annog pwyll wrth annog athrawon i addysgu y tu allan i'w harbenigedd," meddai Laura Doel

Dywedodd Laura Doel, ysgrifennydd cenedlaethol undeb arweinwyr ysgolion NAHT Cymru, bod "arweinwyr ysgol yn ymdrechu i ddatblygu gallu eu staff i siarad ac addysgu Cymraeg, ond mae'r gefnogaeth a gânt i wneud hynny yn annigonol ar hyn o bryd".

"Nid yw Bil y Gymraeg ac Addysg yn gynllun o ddifrif i newid hyn, ac yn hytrach mae'n paratoi ysgolion i fethu ar adeg pan maent yn wynebu heriau difrifol o ran recriwtio a chadw staff, llwyth gwaith anghynaladwy, a chyflymder yr agenda ddiwygio.

"Nid yw'r cynllun grant a gyhoeddwyd yr wythnos hon yn gwneud dim i fynd i'r afael yn sylfaenol â phrinder athrawon cyfrwng Cymraeg ac rydym yn annog pwyll wrth annog athrawon i addysgu y tu allan i'w harbenigedd."

Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Lynne Neagle, bod y "grant hwn yn un o'r cynlluniau arloesol sydd gennym ar waith" i ddenu mwy o athrawon.