Môn: Galw am gyfarfod brys yn sgil 'malu awyr' dros Wylfa
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Môn wedi galw am gyfarfod brys gyda Llywodraeth y DU yn sgil diffyg eglurder dros unrhyw ddatblygiad niwclear ar yr ynys.
Ym mis Mai fe gyhoeddodd llywodraeth Geidwadol Rishi Sunak mai safle Wylfa oedd y dewis cyntaf a gorau fel lleoliad i godi adweithydd niwclear mawr.
Daeth hyn fisoedd wedi i'w lywodraeth brynu'r safle am £160m.
Ond gydag adroddiadau bod y llywodraeth Lafur newydd yn adolygu cynlluniau i godi atomfa niwclear fawr, mae'r diffyg sicrwydd wedi bod yn destun pryder i rai.
Yn ôl un cyngor cymuned sydd eisoes wedi anfon llythyr i'r gweinidog Ed Miliband, os nad yw gorsaf niwclear yn cael ei gwireddu, dylid darparu "cyllid sylweddol" i ogledd Môn er mwyn darparu cyfleon gwaith a hyfforddi.
Dywed Adran Ynni Llywodraeth y DU y byddan nhw'n gweithio gyda Great British Nuclear i asesu a datblygu opsiynau, a bydd penderfyniadau'n cael eu gwneud maes o law.
Ddydd Mawrth gwnaeth cyfarfod o Gyngor Môn gefnogi galwadau am gyfarfod brys gyda Mr Miliband i drafod y sefyllfa.
Yn ôl y Cynghorydd Derek Owen, a gyflwynodd y cynnig, mae'r drafodaeth dros ail orsaf niwclear yn yr ardal wedi bod yn rhygnu 'mlaen ers degawdau.
'Dim gwaith yma'
"'Da ni 'di bod i i fyny ac i lawr, mae Wylfa'n dod... dydy o ddim yn dod, a mae pobl Llanbadrig wedi cael llond bol o ddim yn cael gwybod yn union be' sy'n mynd ymlaen," meddai.
"Dwi'n cofio pan oedd Horizon yma, mi wnaethon nhw roi hogia ifanc yn y coleg a, chwarae teg iddyn nhw, wnaethon nhw ddilyn y cyrsiau a gweithio'n galed.
"A be gafon nhw'n y diwedd? Dim byd.
"Mae'n bechod i'r hogia ifanc - mae angen cadw nhw yn Sir Fôn."
Y disgwyl oedd y byddai atomfa newydd ar yr ynys yn creu tua 1,000 o swyddi parhaol.
Ond cyhoeddodd Hitachi yn Ionawr 2019 eu bod yn atal yr holl waith ar gynllun Wylfa Newydd - a fyddai wedi costio hyd at £20bn - yn sgil methiant i gyrraedd cytundeb ariannol.
Mae effaith hynny'n dal yn cael ei deimlo ar lawr gwlad.
Ym mis Gorffennaf fe wnaeth adroddiad gan y cyngor sir nodi fod rhannau o ogledd Môn "ddirfawr angen buddsoddiad" yn sgil pryderon fod pobl o oed gwaith yn diflannu oherwydd diffyg cyfleoedd.
"Mae gogledd Môn yn serious... does 'na ddim gwaith yma ac mae'r gwaith sydd yma yn cynnig tâl bychan," ychwanegodd y Cynghorydd Owen.
"Pan oedd Octel, Wylfa a Rio Tinto o gwmpas roedd gogledd Môn yn thrivio. Rŵan dydy o ddim.
"Fyswn yn licio i'r llywodraeth stopio malu awyr... seiniwch y papur, stopiwch gicio'r can i lawr y lôn a get it done."
'Wedi colli'r cwch hefo ynni adnewyddadwy'
Ond nid pawb sy'n gefnogol o ynni niwclear o bell ffordd, gyda grŵp lleol wedi bod yn brwydro yn erbyn ail orsaf ers degawdau.
Dywedodd llefarydd ar ran mudiad Pobl Atal Wylfa B (PAWB) nad ynni niwclear yw'r ateb.
"Mae'r cyngor wedi bod yn gwthio hwn, fel Llywodraeth Cymru, ers dau ddegawd a rhagor," medd Robat Idris.
"Lle mae'r ateb? Pam 'da ni'n dibynnu ar yr atebion allanol 'ma?"
Ychwanegodd y dylai fod pwyslais ar "ynni gwyrdd go iawn" dan berchnogaeth pobl leol.
"'Da ni wedi dweud ers blynyddoedd fod angen swyddi, 'da ni wedi datblygu cynlluniau i egluro sut all hynny ddigwydd," meddai Mr Idris.
"'Da ni isio atal ein pobl ifanc rhag gadael a drwy harnesu be sydd ganddon ni yma a rhoi perchnogaeth leol, gymaint â sy'n bosib... mae hynny'n rhan o'r ateb i'r broblem, yn dydy?
"Mae isio ynni cymunedol sydd er lles pobl yr ynys ac yn datblygu swyddi yn sgil hynny.
"'Da ni wedi colli'r cwch hefo ynni adnewyddadwy wrth sôn am Wylfa dro ar ôl tro."
Yn ôl adroddiadau ym mhapur newydd y Telegraph ym mis Medi, roedd yr ysgrifennydd ynni Ed Miliband wedi gofyn i weision sifil adolygu cynllun Wylfa, gyda sôn ei fod yn ffafrio adweithyddion llai a all gynhyrchu ynni yn gynt.
'Mwy o bobl ifanc yn gadael'
Wedi codi pryderon am ddiffyg eglurder dros Wylfa yn San Steffan yr wythnos ddiwethaf, pwysleisio'r angen i gefnogi'r economi leol wnaeth Aelod Seneddol yr ynys.
“Mae dyfodol y prosiect hwn yn hanfodol i Ynys Môn," medd Llinos Medi.
"Mae’n cynnig y potensial ar gyfer creu swyddi sylweddol a hwb mawr sydd ei hangen ar ein heconomi leol.
“Heb y cyfleoedd rhain, mi fydd hyd yn oed mwy o bobl ifanc yn gadael Ynys Môn i chwilio am waith yn rhywle arall.”
Yn y cyfarfod brynhawn Mawrth roedd cefnogaeth gref i'r cynnig am wahodd y llywodraeth i drafodaethau.
Er hynny roedd peth gwrthwynebiad, gyda'r cynghorydd Llafur Pip O'Neill, a'r cynghorydd Plaid Cymru, Ken Taylor, yn penderfynu atal eu pleidlais oherwydd pryderon cyffredinol dros niwclear.
Yn dilyn y cyfarfod dywedodd yr arweinydd, y Cynghorydd Gary Pritchard, fod yr awdurdod eisoes wedi ysgrifennu at yr Arglwydd Hunt, y gweinidog sy'n gyfrifol am niwclear, yn ei wahodd i'r ynys.
"Fel cyngor sir 'da ni'n awyddus iawn i gael sicrwydd pendant," meddai.
"Mae'n hollbwysig i ni fel awdurdod lleol fod y gallu ganddon ni i baratoi yn strategol ac i ogledd yr ynys a'r cic i'r economi sydd ei angen yn y rhanbarth honno.
"Mae'r sicrwydd o be' sy'n dod a phryd mae'n dod yn hollbwysig i ni gael sicrhau y gorau i bobl ac economi Ynys Môn."
'Dim penderfyniadau eto'
Dywedodd llefarydd ar ran Adran Ynni Llywodraeth y DU: "Bydd ynni niwclear â rhan bwysig o ran ein helpu i sicrhau diogelwch ynni ac ynni glan, tra'n sicrhau miloedd o swyddi medrus.
"Fel safle ble bu atomfa eisoes, byddwn ni'n gweithio gyda Great British Nuclear i asesu a datblygu opsiynau atomfa newydd yn Wylfa.
"Does dim penderfyniadau hyd yma o ran projectau a thechnolegau ar gyfer gwahanol safleoedd.
"Bydd unrhyw benderfyniadau yn cael eu gwneud maes o law."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Medi
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd