Cartrefi newydd i bobl o Wcráin 'ddim yn cyd-fynd â'r ardal'
- Cyhoeddwyd
Ers ffoi o’i chartref yn Kyiv, Wcráin mae Kateryna Gorodnycha a’i mab wedi bod yn byw gyda noddwyr ac mewn hostel.
Bellach maen nhw'n rhai o'r cyntaf i symud i unedau yn Llanilltud Fawr, Bro Morgannwg.
"Rwy’n dwli ar y lle. Dyma’n cartref cyntaf ni yng Nghymru," meddai Ms Gorodnycha.
Ond mae'r 90 uned - a fydd yn gartref i ffoaduriaid a theuluoedd digartref - wedi bod yn ddadleuol ymysg trigolion lleol gyda rhai yn honni eu bod yn "hagri'r ardal".
Yn ôl rhai trigolion nid oedd y broses ymgynghori gan Gyngor Bro Morgannwg yn ddigonol.
Dywedodd y cyngor bod "galw brys" ar gyfer tai i ffoaduriaid a theuluoedd digartref a bod y "broses ymgynghori" gyda thrigolion wedi’i chynnal.
Fe wnaeth y cyngor ddefnyddio hawliau caniatáu datblygu i'w hadeiladu sy'n golygu nid oedd angen i’r awdurdod lleol dderbyn caniatâd cynllunio ar gyfer y 90 uned.
Cafodd y prosiect ei chymeradwyo gan Gyngor Bro Morgannwg, gyda chaniatâd i'r unedau aros ar y safle am gyfanswm o bum mlynedd.
- Cyhoeddwyd14 Awst 2022
- Cyhoeddwyd10 Awst 2022
- Cyhoeddwyd31 Mawrth
Cyn ffoi Wcráin, roedd Ms Gorodnycha yn byw ac yn gweithio yn Kyiv fel cynhyrchydd teledu.
“Roedd gen i fflat hyfryd yn Kyiv ar y 17eg llawr nes at afon Dnipro. Roedd bywyd yn dda ond newidiodd popeth dros nos," meddai.
Dywedodd ei bod hi'n "ddiolchgar iawn" am y llety yn Llanilltud Fawr ac am garedigrwydd pobl leol.
Mae Kateryna wedi byw gyda noddwyr ger y Bontfaen ac mewn hostel yn y Barri ond mae’n dweud ei bod hi'n hapus gyda lleoliad ei chartref newydd.
“Mae Timur [ei mab] mor mor hapus, achos o’n ni’n arfer byw mewn un ystafell gyda hanner medr rhwng y gwelyau. Mae’n hapus iawn i gael ei ystafell ei hun gyda drws.
“Ry'n ni’n dwlu ar Lanilltud Fawr, mae’n dref ond ar y traeth, mae fel breuddwyd achos yn Wcráin does dim llawer o lefydd ar yr arfordir."
'Ddim yn cyd-fynd gyda'r ardal'
Yn ôl Kate Hollinshead o Gyngor Bro Morgannwg, mae tua 300 o bobl yn byw ar y safle gyda theuluoedd yn symud mewn yn raddol.
"Fe fydd ffoaduriaid Wcráin yn cael eu rhoi yma yn gyntaf ac yna fe fyddwn ni’n clustnodi teuluoedd sy’n ddigartref o Fro Morgannwg sydd wedi bod yn byw mewn llety dros dro."
Mae’r unedau yn gymysgedd o gartrefi sengl, dau, tri a phedwar gwely i’w defnyddio yn y byr dymor tan bod cartrefi mwy parhaol yn cael eu sicrhau, medd y Cyngor.
Ychwanegodd Kate bod yr unedau yma yn gallu cael eu symud sawl gwaith a'u hail-osod ar safleoedd gwahanol.
Ond yn ôl rhai pobl nid oedd y cyngor wedi cynnal yr ymgynghoriad priodol.
Mae Mr McGranaghan, sy’n byw ger y safle, yn croesawu’r ffoaduriaid o Wcráin ond yn dweud bod y cabanau ddim yn "cyd-fynd" gyda'r ardal.
"Mae wedi effeithio ar fy iechyd ac wedi achosi nosweithiau digwsg i mi, roedd hwn yn gytundeb y tu ôl i ddrysau caeedig gan y cyngor.
"Mae'r ffens wedi tynnu'r golau i gyd i ffwrdd o un ochr y tŷ - fyddai dim problem pe bai'r rhain yn cyd-fynd â'r ardal ond dydyn nhw ddim," meddai.
"Pan dwi'n edrych allan o ffenest, dwi methu credu’r peth.
"Mae wedi costio £25 miliwn, sef y buddsoddiad mwyaf y mae'r dref wedi'i gael ar lefel y llywodraeth, a dyma be' ni'n cael."
Mae cyngor Bro Morgannwg a Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi tua £25m ar hen safle ysgol Eagleswell.
Yn ôl Dave Thomas, sy'n aelod o grŵp gweithredu Eagleswell, nid oedd y cyngor wedi "ystyried" preswylwyr lleol.
"Roedden nhw eisoes wedi penderfynu adeiladu nhw cyn mynd at gynllunio.
"Doedd dim ystyriaeth i unrhyw un sy’n byw yma.
"Maen nhw wedi trio cael cymaint o unedau ag sy’n bosib, gwasgu nhw i mewn a chael cymaint o bobl ag y gallen nhw a heb boeni am faint mae’n ei gostio."
Mae cyngor Bro Morgannwg yn dweud bod yna "angen digynsail am dai".
Dywedodd llefarydd ar ran y safle, sydd bellach yn cael ei adnabod fel Heol Groes, bod y cyngor wedi bod yn rhan o “drafodaethau helaeth gyda thrigolion” ynglŷn â'r datblygiad.
"Aeth y datblygiad drwy'r broses gynllunio arferol ac fe gafodd ei gymeradwyo gan bwyllgor ar ôl cwrdd â'r gofynion angenrheidiol.
"Cymerwyd camau i gynnal preifatrwydd a mynd i'r afael â phryderon eraill a godwyd fel rhan o'r broses honno."
Ychwanegodd y llefarydd bod yna "ganiatâd i’r unedau aros yn eu lle am uchafswm o bum mlynedd a bydd cynlluniau ynglŷn â'u symud yn cael eu cyhoeddi yn y 12 mis nesaf.
"Bydd y gwaith i symud y safle yn dechrau 18 mis cyn diwedd y pum mlynedd, gyda lleiniau 21-27, rhai o'r adeiladau agosaf at eiddo preswyl eisoes, yn cael eu tynnu oddi ar y safle yn gyntaf."