Pwy fydd yn cipio cynghrair merched Cymru eleni?

Merched Caerdydd yn dathlu wedi iddynt ennill y gynghrair y tymor diwethafFfynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Merched Caerdydd yn dathlu ar ôl ennill y gynghrair y tymor diwethaf

  • Cyhoeddwyd

Gydag Uwch Gynghrair Adran Genero yn dechrau dros y penwythnos, fe fydd y pencampwyr presennol, Caerdydd, yn gobeithio ennill y brif adran am y trydydd tro yn olynol.

Roedd y tymor diwethaf yn un cofiadwy a hanesyddol i dîm merched y brifddinas, wrth i'r Adar Gleision ennill y gynghrair, Tlws Genero a Chwpan Cymru.

Dros yr haf mae Caerdydd wedi bod yn cystadlu yng Nghynghrair y Pencampwyr, ac er iddyn nhw golli dwy gêm yn yr Iseldiroedd, roedd y profiad yn un gwerthfawr, yn ôl yr amddiffynnwr Megan Bowen.

Er bod sawl newid wedi bod i'r garfan yn ystod yr haf, fe fydd Caerdydd yn sicr yn gobeithio gorffen ar frig y tabl unwaith eto eleni.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Abertawe yn ail yn yr Adran Genero y tymor diwethaf

I Abertawe, roedd y tymor diwethaf yn achos arall o foddi wrth ymyl y lan.

Pwynt yn unig oedd yn gwahanu nhw a’r pencampwyr ar ddiwedd yr ymgyrch, ac fe gollodd yr Elyrch i Gaerdydd yn rownd derfynol Tlws Genero hefyd.

Maen nhw wedi arwyddo Nia Jones, cyn-chwaraewr rhyngwladol Cymru, wrth iddi ddewis canolbwyntio ar bêl-droed yn hytrach na phêl-rwyd.

Wrecsam, heb os, sydd â’r proffil mwyaf ymhlith yr wyth tîm yn y gynghrair - a hynny oherwydd eu perchnogion, sêr Holywood Ryan Reynolds a Rob McElhenney a llwyddiant cyfres Welcome to Wrexham.

Roedd y Dreigiau yn chwarae yn yr Uwch Gynghrair - yn ei fformat presennol - am y tro cyntaf y llynedd, ac fe orffennodd tîm Steve Dale yn drydydd, yn ogystal â chyrraedd rownd derfynol Cwpan Cymru.

Bu’r tîm ar daith hanesyddol i’r Unol Daleithiau dros yr haf, a'r disgwyl yw mai mynd o nerth i nerth fydd y clwb.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Carfan Wrecsam yn ystod eu taith i'r Unol Daleithiau

Gall Aberystwyth hefyd edrych yn ôl ar dymor cadarnhaol iawn ar ôl gorffen yn y pedwar uchaf – tipyn o gamp o ystyried maint ac adnoddau rhai o’r clybiau eraill.

Mae’r Seintiau Newydd wedi dilyn esiampl Abertawe, Caerdydd a Wrecsam drwy fynd yn lled-broffesiynol, ac mae gan y clwb o Groesoswallt ddyheadau mawr.

Mae Met Caerdydd wedi bod yn bencampwyr Cymru chwe gwaith - y tro diwethaf nôl yn 2019.

Ond roedd hi’n dymor siomedig i’r myfyrwyr y llynedd, tra bod Y Barri hefyd yn y pedwar isaf ar gyfer ail hanner y tymor.

Fel yng nghynghrair y dynion - y Cymru Premier - mae Llansawel yn newydd ddyfodiaid.

Roedd Llansawel wedi colli allan i Wrecsam am le yn y brif adran flwyddyn yn ôl, ond fe wnaeth buddugoliaeth yn erbyn Llandudno yn rownd derfynol y gemau ail gyfle y tro hwn sicrhau eu bod yn hawlio eu lle yn y brif adran o’r diwedd.

Ffynhonnell y llun, CBDC/John Smith
Disgrifiad o’r llun,

Cynrychiolwyr o'r wyth tîm fydd yn cystadlu yn yr Uwch Gynghrair eleni mewn digwyddiad lansio yng Nghaerdydd

Gemau'r penwythnos agoriadol

Dydd Sul, 15 Medi

Aberystwyth v Llansawel

Met Caerdydd v Abertawe

Y Barri v Y Seintiau Newydd

Wrecsam v Caerdydd