Swydd newydd i Geraint Thomas ar ôl ymddeol o seiclo ym mis Medi

Fe wnaeth Geraint Thomas ymddeol wedi ras y Tour of Britain ym mis Medi
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-enillydd y Tour De France, Geraint Thomas wedi cael ei benodi yn gyfarwyddwr rasio gyda thîm Ineos Grenadiers.
Fe wnaeth Thomas ymddeol o seiclo ar ôl cystadlu yn y Tour of Britain fis Medi - a oedd yn gorffen eleni yn ei ddinas enedigol, Caerdydd.
Fe fydd nawr yn gweithio'n agos gydag uwch-dîm reoli Ineos ac yn rhoi cyngor ar faterion sy'n cynnwys tactegau rasio a dewis seiclwyr.
"Mae'r tîm yma wedi bod yn gartref i mi o'r cychwyn cyntaf ac mae symud i'r rôl yma yn teimlo fel y cam naturiol nesaf," meddai.
"Rydw i wedi dysgu gymaint gan y bobl o' nghwmpas - fy nghyd seiclwyr a'r staff - a nawr rydw i eisiau helpu adeiladu ar ein llwyddiant yn y gorffennol wrth ganolbwyntio ar y dyfodol."
Dywedodd y Cymro Dave Brailsford, cyfarwyddwr chwaraeon Ineos fod Thomas "yn gwybod beth sydd ei angen ar lefel uchaf y gamp a'i fod yn barod iawn i rannu ei wybodaeth a'i brofiad gydag eraill".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Medi

- Cyhoeddwyd2 Medi
