Ateb y Galw: Angharad Lee

Angharad LeeFfynhonnell y llun, Angharad Lee
  • Cyhoeddwyd

Tro Angharad Lee yw hi heddiw i ateb cwestiynau busneslyd Ateb y Galw.

Mae Angharad o'r Porth yn y Rhondda ac erbyn hyn yn byw yn Nhonyrefail.

Mae hi’n gyfarwyddwr theatr, opera a ffilm. Hi yw Cyfarwyddwr Artistig Cynhyrchiadau Leeway a hi hefyd yw Arweinydd Adran Actio yn Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru.

Mae gan Angharad wythnos brysur iawn o’i blaen yn yr Eisteddfod; hi sy’n cyfarwyddo'r addasiad newydd o Nia Ben Aur sy’n cael ei berfformio yn y pafiliwn ac mae hi hefyd yn cael ei hurddo i’r Orsedd.

Beth yw eich atgof cyntaf?

Yr atgof mwyaf clir yw pan es i i wylio Dad yn The Wizard of Oz. Cynhyrchiad amatur oedd hi.

Roedd e’n chwarae The Tin Man ac mae’r foment ‘na yn y sioe ble mae’n rhwdu a methu symud. Wy’n cofio bod mor upset ac yn llefen y glaw, ac yn gweiddi allan i rywun ei helpu achos on i’n meddwl fod Dad wedi mynd yn stuck am byth. On i tua pedair mlwydd oed.

Beth yw eich hoff le yng Nghymru a pham?

Ma cymaint o’r wlad 'wy’n dwli arno. Y lle 'nath roi gwellhad i mi mewn cyfnod anodd iawn yn fy mywyd oedd Gwbert yn Aberteifi, felly wna i ddewis hwn.

Ffynhonnell y llun, Angharad Lee
Disgrifiad o’r llun,

Angharad yn ei hoff le, Gwbert ger Aberteifi

Disgrifiwch eich hun mewn tri gair.

Hwyl, Cariadus, Hael (wedi gofyn i’r teulu am hwn achos 'wy’n siŵr bo' fi’n pethe gwahanol i bobl gwahanol, ond fy nheulu yw FY mhobl).

Pa ddigwyddiad yn eich bywyd sydd o hyd yn gwneud i chi wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?

Trio rhoi tent lan yn Newgale yn ymladd y gwynt a’r glaw a pawb yn chwerthin arna i, a neb yn helpu. Wedyn yn rhoi lan, agor botel o win, rowlio’r tent i mewn i belen a cysgu yn awning fy chwaer yn lle….

Beth yw'r noson orau i chi ei chael erioed?

Eto, ma' cymaint, ond wna i ddewis y noson nes i dyweddio yn Efrog Newydd. 'Nath Mike ofyn i mi ei briodi tu fas i’r Actor’s Studio yn NYC. (Credu mai fluke oedd hwn!)

Aethom ni i far jazz a ddim wedi sylweddoli fod mesuriadau diodydd alcohol yn Efrog Newydd bron i ddwbl ein rhai ni yng Nghymru felly aeth hi bach yn ddwl, ond noson llawn cariad a chyffro i’r dyfodol gyda’r dyn mwyaf hyfryd 'wy’n nabod.

Ffynhonnell y llun, Angharad Lee
Disgrifiad o’r llun,

Noson llawn cariad a chyffro yn Efrog Newydd

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnoch chi erioed?

Os oes rhywun yn delio gyda’r Perimenopause ar hyn o bryd, ma' rhywbeth yn digwydd pob dydd dyddie ‘ma... ond credu mai parcio’r car ar stryd yng Nghaerdydd, yna mynd nôl i chwilio amdano a methu cofio ble ddiawl 'nes i barcio.

Ffonio fy nghariad i ddod i fy nôl, a gorfod gyrru rownd y strydoedd gyda allwedd fy nghar allan o’r ffenest yn gwasgu’r botwm pob dwy eiliad mewn gobaith o ddod o hyd i’r car drwy ei agor.

Pryd oedd y tro diwethaf i chi grio?

Pob tro wy’n gwylio Trying ar Apple TV. Sgript a theledu twymgalon a chwaethus.

Oes gennych chi unrhyw arferion drwg?

'Wy’n dwyn dillad fy merch, Sara. Sai’n lico prynu dillad newydd. 'Wy’n casau siopa ond hefyd yn meddwl dylen ni gyd rannu dillad fwy.

Os 'wy’n rhoi llun o’n hun ar Instagram, fel arfer 'wy’n ca’l tecst gan Sara yn cwyno bo' fi wedi dwyn rhywbeth arall y dydd hwnnw!

Ffynhonnell y llun, Angharad Lee
Disgrifiad o’r llun,

Angharad a Mike hapus yn Efrog Newydd

Beth yw eich hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?

Fy hoff film - hands down - yw The Notebook. 'Wy’n hopeless romantic.

Byw neu farw, gyda phwy fyddech chi’n cael diod a pham?

Tadcu, dad fy mam. Bu farw pan o'n i’n 10 mlwydd oed.

Roedd e’n filwr yn yr Ail Ryfel Byd a fe oedd un o’r milwyr cyntaf i gyrraedd gwersyll-garchar Belsen a’i ryddhau.

'Wy’n cofio roedd PTSD ofnadwy arno a 'wy’n difaru ddim gwbod mwy am beth aeth e trwyddo a dod i ddeall sut 'nath e ddod o hyd i heddwch wrth fyw gweddill ei fywyd.

Dywedwch rywbeth amdanoch chi eich hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

'Wy’n gallu troi fy llaw neu fy nhroed i lot o chwaraeon gwahanol.

Chwaraeon o’dd fy mheth pan o'n i’n ifanc iawn. O’n i’n rhan o griw bach 'nath sefydlu Merched Clwb Rygbi Cymru Caerdydd ar ôl chwarae fel tîm yn y gystadleuaeth Golden Oldies. Ma’r tîm yn mynd o nerth i nerth a newydd ennill Y Powlen Cenedlaethol. Lico’r etifeddiaeth bach ‘na.

Ffynhonnell y llun, Angharad Lee
Disgrifiad o’r llun,

Gall Angharad droi ei llaw at lawer o wahanol gampau

Ar eich diwrnod olaf ar y blaned, beth fyddech chi’n ei wneud?

Bod gyda’r teulu yn yr ardd. Lot o win, BBQ, cerddoriaeth a chwerthin.

Pa lun sy’n bwysig i chi a pham?

Eto ma' 'na lot, ond hwn yw’r un mwyaf diweddar. Nethon ni golli fy Mam yng nghyfraith rai wythnosau yn ôl ar ôl salwch, ac yn gwbod y byddai ddim gyda fi a Mike yn ein priodas.

'Nethon ni cynnal seremoni handfasting wrth ymyl ei gwely gyda’n teulu agos. Gofynnodd hi am dusw o flodau i helpu ni ddathlu. O'dd hi’n anrhydedd gallu 'neud hyn iddi cyn iddi ein gadael ni. Bydd y foment gyda ni am byth.

Ffynhonnell y llun, Angharad Lee
Disgrifiad o’r llun,

Y seremoni handfasting: atgof fydd yn aros gyda Angharad a Mike am byth

Petasech chi’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Shirley Bassey. Achos ma hi’n awesome!