Eisteddfod: Mwy o allanfeydd wedi trafferthion parcio

Parcio Eisteddfod
Disgrifiad o’r llun,

Roedd ciwiau hir wrth i bobl geisio gadael maes Eisteddfod yr Urdd nos Lun

  • Cyhoeddwyd

Wedi adroddiadau o oedi hir wrth i bobl geisio gadael maes Eisteddfod yr Urdd nos Lun, mae'r Eisteddfod wedi "dyblu nifer yr allanfeydd".

Dywedodd rhai wrth Cymru Fyw eu bod yn aros dros awr mewn ciw i adael y maes ym Meifod, gydag un ymwelydd yn dweud bod y profiad wedi "difetha diwrnod da".

Mewn datganiad ar wefannau cymdeithasol, dywedodd yr Eisteddfod eu bod yn "ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra" a bod y system newydd yn weithredol o ddydd Mawrth ymlaen.

Dywedodd Cyngor Powys mai "cyfrifoldeb trefnwyr ac unrhyw gwmni rheoli traffig maen nhw’n ei ddefnyddio yw rheoli traffig digwyddiadau".

Mewn cyfweliad ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru, eglurodd Sian Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd, fod diwrnod agoriadol yr eisteddfod yn mynd yn "arbennig o dda, tan tua 17:30".

Dywedodd fod y maes yn "orlawn" a'n "llawn iawn o gynnwrf gan bobl ifanc, llawn iawn o deuluoedd yn mwynhau" dydd Llun, ond ei bod yn "cydnabod ddoe ar ddiwedd y dydd bod 'na broblemau yn y maes parcio".

Fe ymddiheurodd hefyd i'r "nifer helaeth o deuluoedd oedd yn aros yn y ceir am awr neu ddwy", gan ychwanegu eu bod yn "trio datrys y broblem".

datganiad yr EisteddfodFfynhonnell y llun, Eisteddfod yr Urdd

Mewn datganiad ar wefannau cymdeithasol, dywedodd yr Eisteddfod bod y drefn rheoli traffig yn y maes parcio bellach wedi newid.

"Mae ein tîm diogelwch wedi dyblu nifer yr allanfeydd o feysydd parcio Eisteddfod yr Urdd o heddiw ymlaen.

"Wrth adael y meysydd parcio, gofynnwn i bawb ddilyn yr arwyddion at yr allanfeydd newydd yn ogystal â chyngor stiwardiaid a'r heddlu.

"Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra a achoswyd i ymwelwyr ddoe."

Parcio Eisteddfod
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Eisteddfod yn dweud bod arwyddion newydd wedi eu gosod er mwyn cyfeirio pobl at yr allanfeydd newydd

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Powys: “Mae’r cyngor yn ymwybodol o’r anawsterau a gafodd ymwelwyr wrth iddynt adael maes parcio Eisteddfod yr Urdd neithiwr.

“Fodd bynnag, cyfrifoldeb trefnwyr y digwyddiad ac unrhyw gwmni rheoli traffig maen nhw’n ei ddefnyddio, yw rheoli traffig digwyddiadau gan gynnwys rheoli llif traffig allan o faes parcio dynodedig.

“Bydd y cyngor yn cysylltu â threfnwyr Eisteddfod yr Urdd i roi cyngor ac awgrymiadau fel bod rheolaeth llif y traffig sy’n gadael y maes parcio yn fwy effeithiol.”

Pynciau cysylltiedig