Eisteddfod yn ymddiheuro am 'anghyfleustra' maes parcio

Roedd ciwiau hir yn wynebu teithwyr oedd yn ceisio gadael maes Eisteddfod yr Urdd nos Lun
- Cyhoeddwyd
Mae Eisteddfod yr Urdd wedi ymddiheuro am yr "anghyfleustra" wrth i nifer gael trafferthion wrth geisio gadael y maes nos Lun.
Dywedodd rhai wrth Cymru Fyw eu bod yn aros dros awr mewn ciw i adael y maes ym Meifod, gan symud ychydig fetrau yn unig yn y cyfnod.
Dywedodd un oedd yn aros bod y ciw wedi "difetha diwrnod da i ni", wrth i filoedd geisio gadael ar ddiwedd y diwrnod cyntaf o gystadlu.
Mewn datganiad ar wefannau cymdeithasol, dywedodd yr Eisteddfod bod timau'n "gweithio'n galed i gael pawb allan cyn gynted â phosib".
- Cyhoeddwyd27 Mai 2024
- Cyhoeddwyd27 Mai 2024
'Difetha diwrnod da'
Dywedodd Wendy Davies, sy'n athrawes yn Ysgol y Dderwen: "Ni 'di bod yn aros yn y car am dros awr ac 20 munud ar hyn o bryd.
“Da ni wedi symud ryw 20 metr, falle, felly ddim yn hapus iawn.”

Roedd Owena o Bwllheli yn y car gyda thri o blant yn cynnwys babi bach, a dywedodd bod "dim trefn o gwbl".
Ar ôl bron i awr yn y ciw, dywedodd bod ceir yn "ymuno o bob cyfeiriad yma".
“Mae’n difetha diwrnod da i ni."
Roedd Nia Griffith wedi bod yn disgwyl dros 45 munud: “Mae hi’n dechrau peryglu yma 'swn i’n d'eud.
"Mae ‘na lot o geir yn trio mynd trwy le reit gyfyng i weld a phawb yn trio mynd gwahanol ffyrdd.
“Ia bechod fod o’n ddiweddglo fel hyn i ddiwrnod mor dda fel arall.”
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mewn datganiad, diolchodd Eisteddfod yr Urdd i bobl am eu hamynedd wrth i "gannoedd adael y maes yr un pryd".
"Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra", ychwanegodd y datganiad.
"Mae ein timoedd yn gweithio yn galed i gael pawb allan o'r meysydd parcio yn ddiogel a chyn gynted â phosib."
'Trio datrys y broblem'
Roedd diwrnod agoriadol yr eisteddfod yn mynd yn "arbennig o dda, tan tua 17:30," meddai Sian Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd.
Dywedodd fod y maes yn "orlawn" a'n "llawn iawn o gynnwrf gan bobl ifanc, llawn iawn o deuluoedd yn mwynhau" dydd Llun, ond ei bod yn "cydnabod ddoe ar ddiwedd y dydd oedd 'na broblemau yn y maes parcio".
Yn siarad ar raglen Dros Frecwast, ymddiheurodd i'r "nifer helaeth o deuluoedd oedd yn aros yn y ceir am awr neu ddwy ddoe".
Dywedodd y prif weithredwr: "Dio ddim yn rhywbeth 'da ni'n hapus fod o 'di digwydd ond 'da ni wedi ymateb.
"Mae trafodaethau wedi digwydd hefo Cyngor Sir Powys, hefo'r heddlu a hefo'r Urdd neithiwr... 'Da ni'n trio datrys y broblem."