'Diffyg gwelliannau bwrdd iechyd ar fai am farwolaethau'

Dawn OwenFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Dawn Owen ar Uned Hergest yn 2021

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-aelod o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) yn dweud y gallai marwolaethau dau glaf fod wedi eu hosgoi petai swyddogion wedi gwneud y gwelliannau oedd eu hangen.

Bu farw Ben Harrison a Dawn Owen mewn unedau iechyd meddwl yn 2020 a 2021.

Mae eu teuluoedd wedi dweud wrth BBC Cymru y byddai eu perthnasau wedi byw petai'r bwrdd iechyd wedi gweithredu ar adroddiadau sy'n dyddio'n ôl hyd at ddegawd.

Mae BIPBC wedi ymddiheuro ac yn dweud bod gwelliannau yn digwydd.

Wrth siarad yn ddienw â BBC Cymru, dywedodd cyn-aelod annibynnol o’r bwrdd arweinyddiaeth eu bod wedi ceisio craffu ar wasanaethau iechyd meddwl, cyn cael eu diswyddo gan y Gweinidog Iechyd.

“Gallai marwolaethau Ben a Dawn fod wedi eu hosgoi yn llwyr,” meddai.

Dros y degawd diwethaf mae BIPBC wedi derbyn sawl adroddiad ar sut i wella gwasanaethau iechyd meddwl.

Ond daeth adolygiad gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion (RCP) i’r casgliad fod y bwrdd iechyd wedi gweithredu llai na hanner yr argymhellion o bedwar adroddiad mawr yn llawn.

“Byddai’r ymateb i'r adroddiadau hyn yn hynod o rwystredig,” meddai’r cyn-aelod annibynnol.

Ychwanegon nhw fod y cynllun gwella, sy'n dilyn dau adroddiad o 2018, yn “hynod o anhylaw" a ddim yn mynd i’r afael â’r argymhellion mewn gwirionedd.”

'Tyndra cyson'

“Pan oedd hyn yn cael ei herio fe fydden ni’n cael llawer o siarad gwag tebyg i ‘o wel, mae’n gymhleth iawn ac rydyn ni’n gwneud hyn a hyn."

Roedd “tyndra cyson”, meddai, rhyngddyn nhw fel aelodau annibynnol a rhai swyddogion gweithredol fyddai’n “gwrthsefyll” unrhyw ymyrraeth weithredol.

Daeth adroddiad gan Archwilio Cymru i’r casgliad fod tîm gweithredol y bwrdd iechyd yn “anghydweithredol”.

“Roedd yna rai swyddogion gweithredol a oedd yn gweithio’n dda iawn gydag aelodau annibynnol o’r bwrdd, ond roedd nifer fach o’r swyddogion gweithredol oedd yn gwrthod cydweithio, a ddim yn rhoi gwybodaeth i ni,” meddai'r cyn-aelod.

“Fe fydden nhw’n syml yn anwybyddu cais am wybodaeth.”

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd teulu Ben Harrison y gallai ei farwolaeth fod wedi ei hosgoi

Bu farw Ben Harrison ym mis Rhagfyr 2020 yn Uned Ablett yn Ysbyty Glan Clwyd, 18 mis ar ôl i’r bwrdd iechyd dderbyn dau adroddiad mawr yn 2018.

Daeth crwner i’r casgliad fod esgeulustod gan y bwrdd iechyd wedi cyfrannu at ei farwolaeth.

Wrth siarad â BBC Cymru, dywedodd tad Ben, Paul Harrison: “Mae’n dangos patrwm gan y bwrdd iechyd o fethu â chymryd camau brys mewn perthynas â diogelwch cleifion.”

“Pe bai’r argymhellion wedi’u cyflawni’n gyflym, yna mae’n amlwg na fyddai Ben wedi cael y cyfle i wneud yr hyn a wnaeth ar ward Cynnydd.”

Disgrifiad o’r llun,

Mae Paul Harrison yn dweud bod ei deulu'n cofio amseroedd hapus cyn i iechyd meddwl Ben ddirywio

Roedd dau adroddiad cynharach yn 2013 a 2014 hefyd wedi codi materion am ddiogelwch cleifion a risgiau crogi.

Ond dywedodd yr RCP fod angen “sylw brys” ar risgiau crogi o hyd.

Bedwar mis ar ôl marwolaeth Ben Harrison, bu farw Dawn Owen yn Uned Hergest yn Ysbyty Gwynedd.

Cafodd y bwrdd iechyd ddirwy am fethiannau iechyd a diogelwch yn achos Ms Owen.

Dywedodd ei theulu wrth BBC Cymru fod methiant i weithredu argymhellion yn “sgandal”.

“Mae’n anodd credu bod hyn wedi bod yn digwydd mor hir," meddai teulu Ms Owen.

“Mae adolygiad y coleg brenhinol yn rhy hwyr i ni, ond gobeithio y bydd pethau’n gwella.”

Mae grŵp newydd o aelodau annibynnol wedi eu penodi ers Chwefror 2023.

Bwrdd newydd yn 'derbyn gwybodaeth lawn'

Dywedodd Prif Weithredwr BIPBC, Carol Shillabeer, sy'n rhedeg y sefydliad o ddydd i ddydd, eu bod yn gwario £2m ar welliannau atal-crogi ac y byddan nhw'n cyhoeddi diweddariad bob chwe mis.

“Ni allaf ond ymddiheuro i bobl am brofiad gwael ac am golled drasig eu perthnasau,” meddai Ms Shillabeer.

“Rwy’n adeiladu tîm gweithredol newydd. Mae’n bwysig iawn bod pwrpas craidd a dyna beth rydyn ni wedi bod yn gweithio arno.”

Dywedodd Dirprwy Gadeirydd BIPBC, Gareth Williams, fod adroddiad diweddar yn dangos bod pethau wedi “gwella’n sylweddol”.

“Dwi'n meddwl ein bod ni'n cyd-dynnu. Rydyn ni mewn lle gwahanol i lle roedden ni ddeunaw mis yn ôl.” meddai Mr Williams.

Dywedodd bod aelodau annibynnol yn cael “gwybodaeth lawn” gan swyddogion bellach a phetai hynny ddim yn digwydd y byddai’n “ymddiswyddo”.

“Rwy’n gwybod na fydd dim o hynny yn helpu i ddod a pherthnasau coll yn ôl, ond yr unig beth y gallwn ei wneud yw sicrhau bod popeth yn ei le i osgoi marwolaethau y gellir eu hatal yn y dyfodol.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae gwella gwasanaethau iechyd meddwl yn rhan bwysig o fesurau arbennig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr."

“Mae’r bwrdd iechyd wedi derbyn canfyddiadau'r RCP ac rydym yn disgwyl iddynt gyflawni’r rheini, gan barhau i weithredu polisïau diogel ac effeithiol ar draws ei wasanaethau iechyd meddwl.”

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.