Galw am efelychu cynllun taliadau i deuluoedd tlotach

TlodiFfynhonnell y llun, Achub y Plant
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth adroddiad ym mis Mehefin awgrymu bod dros chwarter plant Cymru'n byw mewn tlodi

  • Cyhoeddwyd

Mae 'na alwadau am i daliad ychwanegol sy'n cael ei roi i deuluoedd tlotach yn Yr Alban gael ei gyflwyno yng Nghymru hefyd.

Mae rhai arbenigwyr yn dweud bod Taliad Plant Yr Alban yn cael effaith sylweddol ar lefelau tlodi plant.

Dywed Llywodraeth Cymru na all gyflwyno unrhyw daliad o'r fath, gan nad oes ganddi reolaeth dros nawdd cymdeithasol yng Nghymru.

Ond mae arbenigwr yn dadlau y byddai modd cyflwyno rhywbeth tebyg yng Nghymru pe bai'r awydd yno.

Beth yw'r cynllun?

Dechreuwyd Taliad Plant Yr Alban dwy flynedd yn ôl, a gall unrhyw deulu sy'n derbyn Credyd Cynhwysol ei hawlio.

Ar hyn o bryd mae teuluoedd yn derbyn £25 yr wythnos fesul plentyn, dim ots faint o blant sydd mewn teulu, felly’n rhoi cyfanswm o £1,300 ar gyfer pob plentyn y flwyddyn.

Mae gan deulu pob plentyn o dan 16 oed hawl iddo, ac nid yw budd-daliadau eraill yn cael eu heffeithio gan dderbyn yr arian.

Bellach mae teuluoedd tua 300,000 o blant Yr Alban yn ei dderbyn.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Chris Birt fod y taliad yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn Yr Alban

Dywed Chris Birt, is-gyfarwyddwr Sefydliad Joseph Rowntree yn Yr Alban, ei fod wedi bod yn help mawr.

"Rydyn ni'n clywed gan deuluoedd, 'mae'n caniatáu i ni roi'r gwres ymlaen ym mis Hydref'.

"Bydd unrhyw un sydd â phlant yn deall - maen nhw eisiau mynd i chwarae pêl-droed, dawnsio, gwneud celf, beth bynnag yw e.

"Bydd Taliad Plant Yr Alban hefyd yn rhoi’r neges i rieni, 'mae gennych chi'r ychydig o bunnoedd yn ychwanegol yr wythnos hon i'ch plentyn allu mynd allan gyda'i ffrindiau ddydd Sadwrn', ac felly mae'n gwneud gwahaniaeth go iawn.”

'Y ffordd fwyaf uniongyrchol o helpu'

Dywed yr Athro Danny Dorling o Brifysgol Rhydychen mai taliad Yr Alban yw'r ymgais fwyaf arwyddocaol i fynd i'r afael â thlodi plant a welwyd unrhyw le yn Ewrop ers cwymp Wal Berlin.

"Mae'n amlwg mai dyma'r ffordd fwyaf uniongyrchol o helpu pobl," meddai.

"Rhieni plant yw'r bobl sydd â'u diddordebau fwyaf wrth galon, felly mae unrhyw sôn sy'n dweud bod rhyw ddull arall yn well yn mynd yn groes i'r holl dystiolaeth ry'n ni wedi casglu ers degawdau."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Athro Dorling yn dadlau y gellir cyflwyno cynllun tebyg yng Nghymru pe bai gweinidogion am wneud hynny

Ond mae'r cynllun yn gostus - tua £428m yn y flwyddyn ariannol bresennol, a hynny allan o gyllideb Yr Alban o bron i £60bn.

Ar ben hynny, mae gan Yr Alban ei system fudd-daliadau ei hun, felly’n ei gwneud hi'n haws targedu teuluoedd sydd ei angen, ond nid oes gan Gymru y ffasiwn beth.

Disgrifiad o’r llun,

Mae teuluoedd sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru "angen cefnogaeth ar frys", yn ôl Rocio Cifuentes

Yn ôl Comisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes, byddai cyflwyno system o'r fath yng Nghymru yn "trawsnewid bywydau plant sy'n byw mewn tlodi".

Wrth siarad â rhaglen Politics Wales y BBC, dywedodd Ms Cifuentes ei bod hi wir yn gobeithio gweld y llywodraeth yn ystyried y "galwadau cynyddol" i gyflwyno system daliadau newydd.

"Mae'r sefyllfa yn argyfyngus, ac mae tua thraean o'r plant a theuluoedd sy'n byw yng Nghymru yn cael eu heffeithio," meddai.

"Dydi hi ddim yn bosib i ni aros tan y flwyddyn nesa, neu'r flwyddyn wedyn. Mae'r teuluoedd yma angen cefnogaeth ar frys."

'Dim pwerau'

Wrth ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru: "Yn wahanol i'r Alban, does gan Lywodraeth Cymru ddim y pwerau deddfwriaethol i'n galluogi ni i wneud taliad tebyg i Daliad Plant Yr Alban, gan fod pwerau dros nawdd cymdeithasol yn parhau gyda Llywodraeth y DU.

"Rydym yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi pobl drwy'r argyfwng costau byw trwy ddarparu cymorth wedi'i dargedu i'r rhai sydd ei angen fwyaf.

"Yn ystod 2022-23 a 2023-24 mae'r gefnogaeth hon werth mwy na £3.3bn."

Ffynhonnell y llun, Achub y Plant
Disgrifiad o’r llun,

Mae teuluoedd tua 300,000 o blant Yr Alban yn cael budd o'r cynllun yno

Ond mae'r Athro Dorling yn dweud y gallai gael ei gyflwyno yng Nghymru - efallai’n cael ei dalu drwy gynghorau lleol - pe bai gweinidogion am wneud hynny.

"Yn Yr Alban fe ddechreuodd gyda dim ond £10 yr wythnos a dim ond i blant dan chwech oed, a phe bai'n digwydd yng Nghymru, byddwn i'n disgwyl y byddai'n dechrau yn gyntaf oll gyda hynny.

"Nid yw'n fater o arian mewn gwirionedd."

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar gyfiawnder cymdeithasol, Mark Isherwood AS: "Mae'n bwysig adolygu ac archwilio unrhyw dystiolaeth newydd a gyflwynir i helpu i ddod â thlodi plant i ben, a hyd nes y bydd y dystiolaeth yn cael ei harchwilio'n briodol, ni allwn ddweud a fyddai'r taliad ychwanegol o £25 o fudd ai peidio."

Ychwanegodd llefarydd Plaid Cymru dros gyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb, Sioned Williams AS, fod y blaid yn "gwbl gefnogol o system Taliad Plant, fel sydd wedi digwydd yn Yr Alban"

"Ar yr un pryd, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gyflymu'r gwaith tuag at greu System Budd-daliadau Cymreig hefyd," meddai.