Dyn tân wedi marw 'trwy ddamwain' yn ystod ymarferiad
- Cyhoeddwyd
Mae'r rheithgor mewn cwest yn Hwlffordd wedi dod i'r casgliad mai trwy ddamwain y bu farw diffoddwr tân yn ystod ymarferiad badau achub ei frigâd bron i bum mlynedd yn ôl.
Clywodd y cwest bod gwendidau yn nhrefniadau'r ymarferiad yn 2019.
Bu farw Josh Gardener, 35, oedd yn gweithio i Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, ar ôl dioddef anafiadau difrifol i'w ben.
Mewn datganiad ar ddiwedd y gwrandawiad, dywedodd ei deulu eu bod yn credu bod adroddiad MAIB "yn nodi methiannau systemig lu" y gwasanaeth tân.
Roedd dau gwch wedi taro ei gilydd ar gyflymdra mawr yn ystod yr ymarferiad ar Afon Cleddau ger Lawrenni, Sir Benfro fis Medi 2019.
'Gwendidau' yn y trefniadau
Clywodd y gwrandawiad yn Hwlffordd bod adroddiad gan y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Morol (MAIB) wedi dod i'r casgliad bod y ddau griw wedi methu â chadw golwg ar ei gilydd yn ddigon effeithiol.
Roedd pum person ar fwrdd dau o gychod RIB y gwasanaeth tân pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.
Tra'n ymarfer ar gyflymdra fe darodd y cychod ei gilydd, ac fe gafodd Josh Gardener ei daro yn ei ben a'i daflu i'r dŵr.
Daeth ymchwiliad MAIB i'r casgliad bod yna wendidau o ran y paratoadau ar y môr a'r tir, ac y gallai'r farwolaeth fod wedi ei hosgoi pebai'r ymarferiad wedi cael ei drefnu'n gywir.
Doedd yr ymarferiad ddim wedi cael eu gynllunio, doedd neb â chyfrifoldeb terfynol ac roedd yna ffaeleddau yn yr asesiadau risg.
Dywedodd yr adroddiad nad oedd yn glir pam roedd llywiwr un o'r cychod wedi penderfynu troi ar gyflymder mor agos i'r gwch arall.
Nododd hefyd nad oedd nifer y staff yn bodloni gofynion y gwasanaeth tân ei hun.
Yn dilyn y cwest, dywedodd Iwan Cray, dirprwy brif swyddog tân Gwasanaeth Tân Ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru: "Roedd marwolaeth Josh yn ergyd ddychrynllyd i gymuned gwasanaeth tân a ni'n meddwl am golled Josh yn ddyddiol."
"Y peth pennaf heddi' o'dd meddwl am y teulu a ni'n meddwl am eu colled nhw a'u ffrindiau fydd yn teimlo'r golled yn ddyddiol ac am weddill eu hoes.
"Ry'n ni wedi cael archwiliad yr MAIB a ni wedi derbyn pob un o'r argymhellion."
Mewn datganiad ar ddiwedd y gwrandawiad, dywedodd teulu Josh Gardener eu bod yn croesawu'r ffaith bod ymchwiliadau gan y Gweithgor Iechyd a Diogelwch a'r Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau yn parhau.
Clywodd y cwest ddydd Mawrth bod Mr Gardener yn eistedd ar flaen un o'r cychod adeg y gwrthrawiad, am 11:25.
O'i weld yn "ddi-symud" yn y dŵr, neidiodd yr hyfforddwr i mewn i geisio ei achub, ond roedd yn amlwg bron yn syth bod yr anaf i'w ben wedi ei ladd.
Cafodd ei gludo i Glwb Hwylio Neyland ond roedd cadarnhad am 11:55 ei fod wedi marw.
Clywodd y gwrandawiad nad oedd aelodau'r criwiau yn gwisgo helmedau i amddiffyn y pen am eu bod yn "anghyfforddus", ond yn ôl MAIB fyddai hynny ddim wedi achub bywyd Mr Gardener.
- Cyhoeddwyd30 Medi 2019
- Cyhoeddwyd18 Medi 2019
Clywodd y cwest i Josh Gardener, oedd yn byw yn Aberdaugleddau, ymuno â'r frigâd dân ddiwedd 2018, gan wireddu uchelgais ers yn fachgen.
Roedd wedi cwblhau ei hyfforddiant ym mis Ionawr 2019, wyth mis yn unig cyn ei farwolaeth.
Roedd dros ddwsin o'i berthnasau a'i ffrindiau yn llys y crwner yn Hwlffordd i glywed y dystiolaeth.
Roedd 'na ddagrau wrth i deyrnged gael ei darllen gerbron y rheithgor.
Cafodd y tad i ddau o blant ei ddisgrifio fel "brawd cariadus" a "mab i fod yn falch ohono".
Ymgais gyfreithiol gan y Frigâd Dân i rwystro ymchwiliad MAIB rhag gael ei roi gerbron y rheithgor sy'n rhannol gyfrifol am yr oedi cyn cynnal y cwest llawn.
Dyfarnodd barnwr yr Uchel Lys bod modd cyflwyno ymchwiliad y bwrdd morwrol yn ei gyfanrwydd i reithgor fel tystiolaeth derfynol.
Cafodd casgliadau'r ymchwiliad hwnnw ei gyflwyno ddydd Mawrth i 10 aelod y rheithgor - saith dyn a thair menyw.