'Llafur angen mynd i'r afael â chenedlaetholdeb Farage'

Neil KinnockFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Neil Kinnock yn arwain y blaid Lafur rhwng 1983 a 1992

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-arweinydd Llafur, Neil Kinnock yn annog y blaid "i fynd i'r afael â'r math o genedlaetholdeb" sy'n cael ei wthio gan Nigel Farage a Reform UK.

Dywedodd y cyn-Aelod Seneddol dros Islwyn fod Reform yn "plannu celwyddau" a bod "angen dechrau rhwystro hynny nawr".

Mae Mr Farage wedi wynebu honiadau fod ei blaid yn "denu pobl hiliol ac eithafol", ond mae o'n mynnu ei fod o wedi tynnu ei gefnogaeth yn ôl o unrhyw ymgeisydd sydd wedi gwneud sylwadau sarhaus.

Wrth siarad gyda phapur newydd y Guardian, dywedodd yr Arglwydd Kinnock fod angen i'r blaid Lafur, os ydyn nhw'n ennill yr etholiad cyffredinol, sbarduno "newid cadarnhaol a gwirioneddol".

Mae arweinydd Reform UK, Nigel Farage, wedi cael ei herio ynglŷn â sylwadau hiliol honedig a gafodd eu gwneud gan un o ymgyrchwyr y blaid mewn ffilm gudd gafodd ei ddarlledu gan Channel 4.

Dywedodd nad yw'r blaid bellach yn cefnogi unrhyw ymgeisydd sydd wedi gwneud sylwadau sarhaus, ac mae o wedi awgrymu mai cynllun neu dric i dwyllo oedd y fideo gafodd ei ddarlledu.

"Mae 'na bobl ymhob plaid sy'n dweud pethau drwg neu bethau anghywir", meddai, gan ychwanegu fod hyn yn gallu digwydd yn sgil gorfod gweithio mor sydyn i ddod o hyd i ymgeiswyr.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na bobl ymhob plaid sy'n dweud pethau "anghywir", meddai Nigel Farage

Mewn cyfweliad â'r Guardian, dywedodd yr Arglwydd Kinnock mai nawr yw'r amser i geisio targedu Reform.

"Bydd rhaid i ni fynd i'r afael â'r math yma o genedlaetholdeb poblyddol gyda geiriau, a drwy egluro beth yn union yw'r bobl yma, dim pwy ydyn nhw yn unig.

"Mae pobl fel Farage wrth eu boddau gyda'r sylw personol... felly mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ar esbonio beth yn union yw'r bobl yma a'r holl anghysonderau a chelwyddau.

"Maen nhw'n plannu ac yn medi celwyddau."

Ychwanegodd fod rhaid delio gyda'r "dde poblyddol yma drwy weithredu, a drwy gyflwyno newid cadarnhaol, gwirioneddol dros amser - a newid sy'n canolbwyntio ar wasanaeth i'r gymuned".

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i'w weld yn rhyngweithiol. Yn agor mewn tab porwr newydd Mwy o wybodaeth am yr etholiadau hyn

Dywedodd llefarydd ar ran Reform UK: "Mae Llafur Mr Kinnock wedi gadael pobl Cymru i lawr drwy lynu yn ormodol at gywirdeb gwleidyddol a'r agenda sero net.

"Mae'r llywodraeth yma ym Mae Caerdydd wedi dangos eu bod nhw'n ddi-glem drwy niweidio'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, a drwy ganmol eu hunain am eu perffeithrwydd moesol tra'n gwthio swyddi a phobl allan o'r wlad."

Dywedodd Llafur Cymru: "Mae'n gwirfoddolwyr a'n ymgeiswyr allan yn ymgyrchu bob dydd er mwyn lledaenu ein neges o 'newid' i bleidleiswyr ar hyd y wlad."

Ar ran y Ceidwadwyr, dywedodd y gweinidog diogelwch, Tom Tugendhat bod yna "batrwm o syniadau hiliol a rhai sy'n dangos casineb at ferched" o fewn Reform UK.

Mae BBC Cymru wedi gwneud cais am gyfweliad gyda'r Arglwydd Kinnock.