'Gormod o siarad, dim digon o ddatrysiad' ar ôl canslo'r Fedal Ddrama
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-enillydd y Fedal Ddrama wedi dweud ei fod siomedig nad yw’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cynnal trafodaethau eto ynglŷn â chanslo’r Fedal eleni.
Yn dilyn y cyhoeddiad am atal y gystadleuaeth ym mis Awst, fe ddywedodd y brifwyl y byddai “cyfle am drafodaeth adeiladol ac aeddfed am hyn oll yn yr hydref”.
Ond mae'r Eisteddfod wedi dweud erbyn hyn y byddai trafodaeth yn cael ei chynnal ym mis Tachwedd.
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, fe ddywedodd Cefin Roberts ei fod wedi gobeithio y byddai’r sector wedi cael cyfle i drafod gyda’r Eisteddfod erbyn hyn.
"Wnes i gytuno i ddod yn ôl [ar Dros Frecwast] achos wnes i ddweud ar Twitter [X] ar Awst 17, na fyddwn i’n trafod y peth eto oherwydd bod yr Eisteddfod wedi cytuno i gynnal fforwm ar hwn ac mi ddeudon nhw fod hynny’n digwydd ym mis Hydref.
"Be dwi’n poeni felly – gan nad ydyn nhw ddim - mae hi’n fis Hydref bellach, ac o'n i’n clywed chi’n dweud fod rhywbeth yn mynd i ddigwydd fis Tachwedd - mae o’n rhy niwlog ar hyn o bryd, yr ateb.
"Mae gormod o siarad yn mynd ymlaen a dim digon o ddatrysiad.”
'Gweithio dan ansicrwydd'
Dywedodd y dramodydd a’r cynhyrchydd ei bod hi’n bwysig i’r sector theatr yng Nghymru dderbyn y manylion er mwyn symud ymlaen.
"Dwi’n meddwl hwnna 'di’r peth pwysica', ond dwi’n meddwl hefyd bod y ddrama mewn trobwll go beryglus erbyn hyn.”
Ychwanegodd: “Mae 'sgwennwyr yn gweithio dan ansicrwydd mawr ar hyn o bryd a dim smic wedi dod o’r Eisteddfod ers mis Awst. Mae'i gyd yn siom.”
Mewn ymateb, dywedodd yr Eisteddfod: "Yn dilyn y brifwyl eleni, nododd yr Eisteddfod y byddai’r sefydliad yn fodlon iawn i gynnal trafodaeth ar y cyd gyda’r sector theatr yn yr hydref.
"Rydyn ni’n ddiolchgar i Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth am eu parodrwydd i arwain symposiwm dan y teitl Cynrychioli Cynrychiolaeth: Theatr a’i Ystyr, ddydd Sadwrn 2 Tachwedd, yn Aberystwyth, fel rhan o raglen Tŷ Trafod.
"Bydd gwybodaeth ar sut i gofrestru a manylion ychwanegol am y sesiwn ar gael yn fuan."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd29 Medi 2024
- Cyhoeddwyd14 Awst 2024