Cychwyn ar y broses o sefydlu ysgol uwchradd Gymraeg ym Mhowys

Byddai'r ysgol newydd yn cael ei lleoli ar gampws presennol Ysgol Calon Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Sir Powys wedi dechrau ar y broses ffurfiol o sefydlu ysgol Gymraeg newydd yn Llanfair-ym-Muallt ar gyfer disgyblion pedair i 18 oed, y cyntaf yng nghanolbarth a de Powys.
Byddai'r ysgol newydd yn cael ei lleoli ar gampws presennol Ysgol Calon Cymru.
Mae disgyblion yr ardal sy'n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg ar hyn o bryd yn mynd i ysgolion dwy ffrwd, ond dros y blynyddoedd mae llawer wedi teithio allan o'r sir i fynd i ysgolion Cymraeg penodedig.
Dywedodd adroddiad i gabinet y cyngor y byddai sefydlu ysgol gyfan gwbl Gymraeg yn gwella darpariaeth ysgolion uwchradd Cymraeg gan fod "pryderon sylweddol" am lefel y ddarpariaeth yn yr ardal ar hyn o bryd.
Yn dilyn penderfyniad ddydd Mawrth fe fydd ymgynghoriad ar y mater ar ôl y Pasg.

"Mae 'na deuluoedd wedi symud allan o'r ardal er mwyn cael addysg cyfrwng Cymraeg," meddai Iwan Price
Roedd Iwan Price, o Lanwrtyd, yn arfer wynebu taith gron o 80 milltir i fynd i ysgol Gymraeg - Ysgol Maes yr Yrfa yn Sir Gaerfyrddin - oherwydd diffyg ysgolion uwchradd Cymraeg ym Mhowys.
Roedd ei rieni yn ei yrru i'r ysgol ac yn ôl pob dydd, penderfyniad oedd yn golygu aberthu llawer iawn o amser.
"Mae'n galonogol, 'dy'n ni wedi bod yn aros am yr ysgol yma am bron i 40 mlynedd," meddai.
"Mae 'na dwf a galw am addysg cyfrwng Cymraeg ond does dim ysgol uwchradd Gymraeg yn yr ardal."
'Pam nad yw Powys wedi gwneud hyn yn gynt?'
Bellach mae gan Iwan ddau o blant – un ohonynt yn mynd i'r ffrwd Gymraeg yn yr ysgol gynradd yn Llanelwedd – a chroesawodd benderfyniad cabinet Cyngor Powys.
"Mae 'na siroedd eraill yng Nghymru sy'n fwy Seisnigaidd na Phowys ac maen nhw wedi sefydlu llwyth o ysgolion Cymraeg," ychwanegodd.
"Sai'n deall pam nad yw Powys wedi gwneud hyn yn gynt.
"Mae 'na deuluoedd wedi symud allan o'r ardal er mwyn cael addysg cyfrwng Cymraeg a ry' ni wedi colli'r rheiny yn barod, sy'n biti."

"Does prin neb yn siarad Cymraeg yn yr ardal yma felly does dim galw am ysgol Gymraeg," yn ôl Rhys Field
Os aiff y cynllun yn ei flaen ar ôl yr ymgynghoriad o fis Medi 2027, byddai disgyblion cynradd cyfrwng Cymraeg a rhai hyd at flwyddyn naw yn mynd i gampws Llanfair-ym-Muallt, a fyddai'n gwbl ddwyieithog o 2029.
Byddai disgyblion cyfrwng Saesneg yn mynd i gampws Llandrindod yn Ysgol Calon Cymru, a fydd yn cael ei ail-strwythuro.
'Does dim synnwyr yn y peth'
Ond dydy'r posibilrwydd o orfod teithio yn bellach i gael yr addysg Saesneg ddim yn plesio perchennog siop gigydd Llanfair-ym-Muallt.
"Does prin neb yn siarad Cymraeg yn yr ardal yma felly does dim galw am ysgol Gymraeg," meddai Rhys Field.
"A beth am y costau ychwanegol o orfod cario plant i Landrindod ar fysys i gael addysg Saesneg? Does dim synnwyr yn y peth."
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Pete Roberts: "Mae hyn yn ganlyniad dwy flynedd o waith helaeth sy'n ceisio mynd i'r afael â heriau a gofynion Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CSGA) ac yn ceisio cyflwyno cynnig ar gyfer ymgynghoriad a fydd yn mynd i'r afael â'r bwlch mewn addysg cyfrwng Cymraeg yng nghanol Powys."
- Cyhoeddwyd17 Mawrth
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd21 Chwefror
Mae Gareth E Jones yn gynghorydd annibynnol sy'n cynrychioli ward Llanelwedd.
Yn siarad ar ran yr aelodau lleol a'r Pwyllgor Dysgu a Sgiliau, fe ddywedodd ei fod yn croesawu'r cynnig yn fras, ond fe gododd bryderon hefyd am "ddiffyg" cynllun strategol i ddarparu addysg Gymraeg yn Sir Frycheiniog.
Dywedodd y Cynghorydd Elwyn Vaughan, arweinydd grŵp Plaid Cymru a llefarydd ar ran y Fforwm Addysg Gymraeg fod y "penderfyniad unfrydol (gan y Fforwm) yn un oedd ei angen ers blynyddoedd i sicrhau darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn y rhan hon o Bowys".
Ychwanegodd y byddai hyn yn golygu bod llai o blant o'r ardal yn gorfod teithio pellteroedd mawr bob dydd i fynychu addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg y tu allan i'r sir.