Diwrnod olaf i etholwyr Caerffili gofrestru i bleidleisio

Arwydd gorsaf bleidleisioFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd etholwyr yn pleidleisio ar 23 Hydref i ddewis cynrychiolydd nesaf etholaeth Caerffili yn Senedd Cymru

  • Cyhoeddwyd

Mae'n rhaid i bobl sydd am bleidleisio yn is-etholiad y Senedd yng Nghaerffili gofrestru erbyn 23:59 nos Fawrth.

Gall etholwyr - sydd ddim eisoes ar y gofrestr etholiadol - wneud cais ar-lein cyn i'r cyfnod cofrestru gau am hanner nos.

Mi fydd pleidleiswyr yn etholaeth Caerffili yn penderfynu pwy fydd yn olynu Hefin David fel cynrychiolydd yr ardal yn y Senedd, wedi ei farwolaeth ym mis Awst.

Mae'n rhaid gwneud ceisiadau post yn ysgrifenedig erbyn 17:00 dydd Mercher, tra bod modd gwneud ceisiadau am bleidlais drwy ddirprwy tan 17:00 ar 15 Hydref.

Gall pobl sy'n 16 oed neu'n hŷn ac yn ddinasyddion Prydeinig, Gwyddelig neu o'r Undeb Ewropeaidd, gymryd rhan ar ddiwrnod yr etholiad.

Os nad ydych eisoes wedi cofrestru i bleidleisio, gallwch wneud cais ar-lein ar wefan Llywodraeth y DU., dolen allanol

Mae'r etholaeth yn ymestyn o dref Caerffili i Fachen yn y dwyrain a Bargoed yn y gogledd. Mae Nelson, Bedwas a Llanbradach ymhlith y cymunedau o fewn ei ffiniau.

Bydd y rhai sy'n bwrw eu pleidlais mewn goraf bleidleisio yn gwneud hynny ar ddydd Iau, 23 Hydref - gyda'r gorsafoedd ar agor rhwng 07:00 a 22:00.

Yn wahanol i etholiad San Steffan, ni fydd angen dogfen adnabod ar bleidleiswyr.

Rhestr lawn yr ymgeiswyr

Ceidwadwyr - Gareth Potter

Democratiaid Rhyddfrydol Cymru - Steve Aicheler

Gwlad - Anthony Cook

Llafur - Richard Tunnicliffe

Plaid Cymru - Lindsay Whittle

Reform UK - Llŷr Powell

UKIP - Roger Quilliam

Y Blaid Werdd - Gareth Hughes

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig