Antur Americanaidd Steff Hughes
- Cyhoeddwyd
Bydd Nadolig eleni’n dipyn gwahanol i’r arfer i Steff Hughes a’i deulu. Tan yn gymharol ddiweddar roedd y chwaraewr rygbi'n meddwl mai dathlu ym Mhenylan yng Nghaerdydd gyda’i deulu fyddai’r drefn ynghyd â pharatoi ar gyfer y gêm ddarbi ddwyreiniol ar Ŵyl San Steffan.
Bellach, mae’r cyfan wedi ei droi ar ei ben a gorwelion canolwr y Dreigiau wedi troi at yr Unol Daleithiau, a bydd Steff a’i deulu’n treulio'r Nadolig yn Efrog Newydd.
Ymhen rhyw fis bydd Steff, ei gymar Aneura, a’u mab blwydd oed Lefi a Boris y ci’n symud i Washington D.C ar ôl derbyn cynnig i chwarae dros Old Glory.
“Pan benderfynais i fynd amdani y peth cyntaf 'wedodd Anuera oedd bod rhaid ni ddathlu’r Dolig yn Efrog Newydd, a dathlu yn debyg i’r hyn chi’n weld yn y ffilmiau.
"Dyma’r tro cyntaf i fi gael Dolig bant ers blynyddoedd - bydd cael cyfle i gerdded rownd Central Park a Times Square yn dipyn gwahanol i gêm ar Rodney Parade, ac mae’n rhaid cyfaddef bod ni gyd yn edrych ymlaen.”
'Mynd bant i ddysgu'
Mae’r gŵr diymhongar o Lanelli’n cyfaddef y bu’n rhaid pendroni dros y penderfyniad ond yn y pen draw roedd yn gyfle euraidd nad oedd modd ei wrthod.
“Fi wastad wedi bod yn awyddus i fynd bant i ddysgu rhywbeth newydd a gwahanol. Mae chwarae am 14 tymor yng Nghymru’n siapio dy feddylfryd rhywfaint, ond fe weithiodd hwn fel cyfle i chwarae rhywfaint a gwneud bach o hyfforddi.
"Ro’n i ar dipyn o groesffordd o ran fy ngyrfa, ac fel teulu ifanc roedd yr amseru’n berffaith ac yn gyfle rhy dda i golli ac mae wedi gweithio mas ar yr adeg cywir.”
Y dyfodol a sicrwydd teuluol oedd y brif ystyriaeth wrth wneud penderfyniad o’r fath, ac roedd mentro yn bosib wedi i’w gymar, Aneura, dderbyn cynnig swydd â chwmni pensaernïaeth. Mae mab y cwpl, Lefi, yn flwydd oed ac mae Steff yn teimlo bod digon o amser i ddysgu sgiliau yn America a dod 'nôl i Gymru i bellhau ei yrfa yn y dyfodol.
“Un o’r prif bethe oedd yn atyniad oedd y cyfle i wneud mwy o hyfforddi - roedd hynny sicr yn apelio. Gobeithio galla’ i ddod â’r sgiliau hynny nôl i Gymru, ond rwy’n credu fod e’n bwysig mynd bant a dysgu rhywbeth gwahanol.
"Nes eich bod chi’n gadael a dysgu efallai chi’n edrych ar bethe yn fewnblyg – mi fydda i wrth gwrs yn gwneud camgymeriadau ond bydd hynny’n rhan o’r daith. Pwy a ŵyr ble fydd e’n mynd â fi ond rhyw ddydd alla i ddod â’r sgiliau hynny nôl i Gymru.”
Yn chwaraewr cyson dros y Scarlets a’r Dreigiau, roedd yr elfen o berthyn i dîm bob tro’n bwysicach na’i ddyhead personol. Cafodd brofiad o arwain y rhanbarthau hynny ynghyd â thîm dan 20 Cymru, heb anghofio ei ddawn naturiol yn y blwch sylwebu!
Er y daeth yn agos, yr un peth na ddaeth i’w feddiant oedd cap rhyngwladol, ond wrth iddo baratoi ar gyfer yr her nesa dyw hynny ddim yn ei boeni o gwbl.
“Dwi ddim yn difaru llawer, fydde cap rhyngwladol wedi bod yn grêt ond ma’r bois sydd wedi chwarae dros Gymru yn y blynyddoedd diwethaf yng nghanol cae wedi bod yn rhai corfforol a chydnerth. Sai’n foi enfawr ac o’n i’n ceisio bod yn chwaraewr mwy creadigol a cheisio helpu chwaraewyr eraill."
Falch o gapteinio'r Scarlets a'r Dreigiau
“Dwi ddim yn ddig o gwbl, dyna oedd arddull Cymru a dyna ni. Dwi’n falch iawn o’r hyn dwi wedi ei wneud, dwi ‘di chwarae dros 100 gêm i’r Scarlets ac wedi bod yn gapten arnyn nhw a’r Dreigiau.
"Da’th y cyfle yna (i ennill cap dros Gymru) fyth fel chwaraewr yn anffodus, ond dyw hynny ddim yn rhywbeth sydd yn poeni fi, ac efallai gaf i’r cyfle fel hyfforddwr rhyw ddydd.”
Wrth i’r amser agosáu at yr amser i ffarwelio mae Steff yn cydnabod fod ‘na lot eto i’w drefnu, a rhan fwyaf o’r gwaith papur yn ymwneud â Boris y ci fydd yn symud gyda’r teulu.
“Mae gymaint o stwff ‘da ni dal i drefnu, hyd yma mae e wedi bod yng nghefn y meddwl ond nawr mae’n dechrau dod yn realiti.
“Yr un peth sy’n fy mhoeni bach yw dylanwad yr acen, nid arna i ond ar y crwt - mae e’n flwydd oed ac felly’n siŵr o bigo cwpwl o bethe lan o ran yr acen. Ond ni’n siarad Cymraeg fel teulu a dwi’n siŵr fydd e’n iawn, er falle fydd e’n siarad Cymraeg ag acen Americanaidd!”
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd21 Hydref
- Cyhoeddwyd17 Hydref
- Cyhoeddwyd13 Hydref