Ar daith i Ogledd Macedonia

- Cyhoeddwyd
Taith oddi cartref gyntaf tîm pêl-droed Cymru yn yr ymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd 2026 yw i Skopje i wynebu Gogledd Macedonia ar 25 Mawrth.
Ond beth wyddoch chi am Ogledd Macedonia a'i thîm pêl-droed? Dyma ambell ffaith am y wlad fydd Cymru'n ei wynebu.
Annibyniaeth
Wedi i Iwgoslafia ddymchwel cynhaliwyd refferendwm ar annibyniaeth i Facedonia ar 8 Medi, 1991.
Enillodd y garfan o blaid annibyniaeth gyda 96.46% o'r bleidlais ac fe sefydlwyd 'Gweriniaeth Macedonia' fel gwladwriaeth.
Yn 1993 cafodd y wlad aelodaeth i'r Cenhedloedd Unedig, dan yr enw Cyn-Weriniaeth Iwgoslafaidd Macedonia (Former Yugoslav Republic of Macedonia).

Kiro Gligorov, Arlywydd cyntaf y wlad a oedd yn y swydd o 1991 i 1999, yn annerch ei gefnogwyr yn dilyn y refferendwm am annibyniaeth
'Macedonia' a 'Gogledd Macedonia'
Pan gafodd 'Gweriniaeth Macedonia' annibyniaeth ar ddechrau'r 90au roedd yna densiynau'n syth ynglŷn ag enw'r wlad.
Y prif reswm am y tensiwn oedd am fod ardal hanesyddol Macedonia yn cynnwys ardaloedd o wladwriaethau modern eraill heddiw - gogledd Groeg, gorllewin Bwlgaria, dwyrain Albania, de Kosovo a de Serbia.
Gwlad Groeg oedd y prif wrthwynebwyr i'r defnydd o Macedonia'n unig yn enw'r wlad, gan fod ganddyn beriffereiau sy'n defnyddio'r term - mae Gorllewin Macedonia, Dwyrain Macedonia a De Macedonia i gyd o fewn gwladwriaeth Groeg.
Yn 2008 fe ymgyrchodd Groeg i atal Macedonia rhag ymuno â NATO oherwydd y defnydd o 'Macedonia', ac yn 2018 mewn refferendwm (yn dilyn cytundeb â Groeg) i newid enw'r wlad i Ogledd Macedonia.

Hen ffiniau hynafol Macedonia a'r gwladwriaethau heddiw
Poblogaeth
Yn ôl ystadegau 2025 mae 1,813,791 o bobl yng Ngogledd Macedonia, ond mae'r niferoedd wedi gostwng rhywfaint dros y blynyddoedd diweddar.
O'i gymharu, mae gan Gymru boblogaeth o oddeutu 3,300,000 o bobl heddiw.
Yn ôl cyfrifiad 2021 mae 58.4% o boblogaeth Gogledd Macedonia â hunaniaeth Macedoniaidd, 24.3% yn Albaniaid, 3.9% yn Dwrcaidd, 2.5% yn Roma, 1.3% yn Serbiad a 0.9% yn Bosniacaid.
Yn ôl y cyfrifiad mwyaf diweddar mae 1,344,815 o ddinasyddion Gogledd Macedonia'n siarad Macedoneg, 507,989 yn siarad Albaneg [iaith Albania], 71,757 yn siarad Tyrceg, 38,528 yn siarad Romani a 24,773 yn siarad Serbeg.

Yr olygfa o fynydd Vodno sy'n edrych dros Skopje, gyda'r faner genedlaethol yn chwifio'n gwynt. Mae'r faner wedi'w defnyddio'n swyddogol gan y wladwriaeth ers 1995
Y brifddinas
Yn ardal ehangach Skopje, mae tua 530,000 yn byw, sef dros chwarter poblogaeth y wlad.
Scupi oedd enw gwreiddiol y ddinas pan oedd yn dalaith yn rhan o'r Ymerodraeth Rufeinig.
Yn 1392, dan reolaeth Yr Ymerodraeth Otomanaidd cafodd ei ailenwi'n Üsküb.
Pan goncrodd y Serbiaid y wlad fe enwon nhw'r ddinas yn Skoplje, ond wedi'r Ail Ryfel Byd cafodd y ddinas ei henwi'n Skopje, yr enw rydyn ni'n ei ddefnyddio heddiw.
Mae'r Afon Vardar yn llifo drwy Skopje, ac mae mynydd Vodno'n cysgodi'r ddinas ac arno mae croes Gristnogol fawr.

Yn 1963 roedd daeargryn dychrynllyd yn Skopje, gan ddinistrio hyd at 80% o'r ddinas. Lladdwyd tua 1,100 o bobl ac roedd 120,000 yn ddigartref
Maint
Mae Gogledd Macedonia'n 25,220 cilomedr sgwâr (9,737 milltir sgwâr), sydd yn debyg i maint Rwanda, Burundi ac Albania.
Mae Gogledd Macedonia ychydig yn fwy na Chymru, sy'n 21,218 cilomedr sgwâr (8,192 milltir sgwâr).
Iaith
Mae Macedoneg yn rhan o deulu'r ieithoedd Slafonaidd. Mae'n defnyddio'r wyddor syrilig ac mae'n debyg iawn i'r iaith Fwlgareg.
Amcancyfrir bod rhwng 1.6m a 2m yn siarad yr iaith, ac oherwydd bod rhan mor sylweddol o'r boblogaeth o dras Albaniaid mae Albaneg hefyd yn iaith swyddogol yng Ngogledd Macedonia.

Enghraifft o ysgrifen yn iaith Macedoneg
Perygl o ryfel cartref yn 2001
Yn 2001 fu bron i'r wlad ddioddef rhyfel cartref, gyda'r boblogaeth Albaniaidd yn gwrthryfela. Roeddent yn hawlio bod y gymuned Albaniaidd ddim yn cael eu trin digon da gan y llywodraeth yn Skopje.
Cafodd hyd at 250 o bobl eu lladd a nifer fawr eu hanafu, ond yn dilyn trafodaethau roedd posib osgoi rhyfel cartref ar raddfa ehangach.

Milwyr o gymuned Albaniaidd ym mhentref Radusa, 25km o Skopje -20 Medi, 2001
Alecsander Fawr
Mae Alecsander [Alecsander o Facedon] yn arwr yng Ngogledd Macedonia ac yng Ngwlad Groeg. Cafodd ei eni yn Pella, yn nheyrnas hynafol Macedon yn y flwyddyn 356 Cyn Crist. Mae Pella i'r gorllewin o ail ddinas fwyaf Groeg heddiw, Thessaloniki.
Roedd yn deyrnas â'i hunaniaeth ei hun, ond fe ddaeth yn rhan bwysig o fewn y Groeg Helenistaidd a ddilynodd marwolaeth Alecsander.
Felly, gan mai o'r hen Facedonia y daw Alecsander, Groegaidd oedd ei hunaniaeth, yn wahanol i lawer o'r bobl sydd yng Ngogledd Macedonia heddiw.
Mae rhywfaint o drafod ynglŷn â beth yw gwreiddiau pobl Gogledd Macedonia. Dywed rhai eu bod yn llwyth hynafol Groegaidd o'r 5ed ganrif Cyn Crist, ble mae eraill yn dweud fod y boblogaeth yn fwy cymysg gyda dylanwad enfawr Slafaidd.

Y Cymro Richard Burton yn chwarae rhan Alecsander yn y ffilm 'Alexander the Great' (1956)
Detholion y byd
Mae tîm Gogledd Macedonia yn safle 67 yn y byd yn ôl detholion FIFA, gyda Chymru'n eistedd yn safle rhif 29.
Yr uchaf mae Gogledd Macedonia wedi bod erioed yw 46, ym mis Hydref 2008, a'r safle isaf y tîm oedd 166 ym mis Mawrth 2017.
Cymru v Gogledd Macedonia
Mae Cymru a Gogledd Macedonia wedi chwarae ei gilydd ddwywaith, gyda'r ddwy gêm yn 2013.
Gogledd Macedonia oedd yn fuddugol 2-1 yn Skopje ar 6 Medi, gyda Chymru'n ennill 1-0 yng Nghaerdydd y mis canlynol - Simon Church yn sgorio unig gôl y gêm.

Aaron Ramsey'n chwarae yn y gêm yn Skopje yn 2013
Canlyniadau cofiadwy
Gêm gyntaf swyddogol Macedonia [fel y gelwir ar y pryd] oedd yn erbyn Slofenia ar 13 Hydref, 1993. Macedonia oedd yn fuddugol yn y gêm Kranj, Slofenia, a hynny o 4-1.
Mae Gogledd Macedonia wedi cael nifer o ganlyniadau cofiadwy dros y bum mlynedd ddiwethaf - curo'r Almaen mewn gêm ragbrofol ar gyfer Cwpan y Byd yn 2021 a chael gêm gyfartal yn erbyn Lloegr ym mis Tachwedd 2023.
Fe gurodd Gogledd Macedonia Yr Eidal 0-1 mewn gêm gynderfynol yn y gemau ailgyfle i gyrraedd Cwpan y Byd 2022, cyn colli i Bortiwgal yn y rownd derfynol.

Aleksandar Trajkovski yn dathlu sgorio yn erbyn Yr Eidal mewn buddugoliaeth gofiadwy yn Palermo ym mis Mawrth, 2022
Sêr pêl-droed
Ymysg chwaraewyr pwysicaf Gogledd Macedonia heddiw mae'r golwr Stole Dimitrievski, sy'n chwarae i Valencia, y chwaraewr ganol cae Eljif Elmas a enillodd Serie A Yr Eidal gyda Napoli ond sydd bellach efo Torino, ymosodwr Girona, Bojan Miovski, a'r capten, Enis Bardhi.
Ond chwaraewr enwocaf y wlad yw Goran Pandev, a enillodd 122 o gapiau rhyngwladol rhwng 2001 a 2021. Chwaraeodd Pandev dros nifer o dimau mwya'r Eidal - Inter Milan, Napoli, Parma, Lazio a Genoa - ac fe sgoriodd 38 gôl rhyngwladol.

Goran Pandev yn chwarae dros ei wlad ym Mhencampwiraethau Euro 2020
Y Stadiwm Cenedlaethol
Toše Proeski Arena yw cartref y tîm cenedlaethol, ac mae lle ynddo i 33,460 o gefnogwyr, sy'n hynod o debyg i faint Stadiwm Dinas Caerdydd [33,316].
Fel arfer mae Gogledd Macedonia'n cael rhwng 5,000 a 15,000 o gefnogwyr yn y stadiwm ar gyfer gemau rhyngwladol, ond mewn gemau diweddar yn erbyn Yr Eidal a Lloegr roedd tua 28,000 o gefnogwyr yno.

Stadiwm Toše Proeski ar yr Afon Vardar
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2024