Millar yn amddiffyn taith UDA i gyfarfod gweddi Trump

Darren MillarFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Darren Millar AS newydd ddychwelyd o'i daith i America

  • Cyhoeddwyd

Dywed arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd ei fod yn y "lle iawn ar yr amser iawn" pan fethodd bleidlais ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru oherwydd ei fod yn Washington DC.

Yn ei gyfweliad cyntaf ers dychwelyd dywedodd Darren Millar AS ei fod yn hyrwyddo buddiannau Cymru gyda gwleidyddion yr Unol Daleithiau pan aeth i'r Brecwast Gweddi Cenedlaethol gydag aelod Ceidwadol arall o'r Senedd, Russell George.

Yno hefyd roedd Arlywydd newydd America, Donald Trump.

Enillodd Llafur y bleidlais symbolaidd ond roedd nifer y gwrthwynebwyr yn is oherwydd absenoldeb Millar a George, ac fe wnaeth Jane Dodds o'r Democratiaid Rhyddfrydol ymatal.

Fe wnaeth Darren Millar amddiffyn ei absenoldeb o Senedd Cymru drwy ddweud nad y bleidlais ddrafft oedd y penderfyniad "mawr" ar y gyllideb.

Mae gan Lafur union hanner y seddi yn Senedd Cymru, felly yn methu ennill pleidleisiau os ydy'r gwrthbleidiau yn uno.

'Presenoldeb ar y llwyfan rhyngwladol'

Yn ystod ei gyfweliad fe wnaeth Darren Millar feirniadu ymdriniaeth y BBC ar y mater, gan honni fod y gorfforaeth ac eraill wedi "ceisio camarwain y cyhoedd i gredu bod y bleidlais yn un bwysig".

Roedd BBC Cymru wedi nodi fod y bleidlais yn un symbolaidd ac wedi dweud fod y bleidlais derfynol ar y gyllideb ym mis Mawrth.

"Cefais ymweliad gwych â Washington DC a chael cyfle i gwrdd â chynrychiolwyr etholedig o sawl gwlad ond yn bennaf rhai o'r Unol Daleithiau ac roeddwn i'n gallu siarad am fuddiannau Cymreig a hyrwyddo Cymru.

"Dwi ddim yn meddwl bod hynny wedi'i wneud [yn ddigon da] dramor, a dyna pam y gwnes i'r penderfyniad pwysig i fod yno.

"Rwy'n fodlon iawn fy mod yn y lle iawn ar yr amser iawn yr wythnos diwethaf."

Ychwanegodd Mr Millar ei fod yn cymryd ei rôl "o ddifrif fel arweinydd yr wrthblaid a phrif weinidog nesaf Cymru", a dywedodd fod angen i unrhyw un sydd eisiau bod yn brif weinidog gael "presenoldeb ar y llwyfan rhyngwladol".

"Rwy'n gwybod eich bod yn ceisio camarwain pobl drwy awgrymu mai'r wythnos diwethaf oedd y cyfle i bleidleisio yn erbyn y gyllideb," meddai wrth BBC Cymru, "ond nid dyna oedd y sefyllfa".

Cadarnhaodd y bydd yn bresennol ar gyfer y bleidlais derfynol ym mis Mawrth.

'Trafod twristiaeth a masnach'

Yn ystod ei ymweliad dywedodd Mr Millar iddo gyfarfod â siaradwr Tŷ Cynrychiolwyr yr Unol Daleithiau, Mike Johnson, a chadeirydd y Cawcws Cymreig yn y Gyngres.

"Fe wnaethon ni drafod yr angen i hyrwyddo twristiaeth Cymru, y gwaith sydd angen i ni ei wneud gyda'n gilydd i sicrhau bod mwy o gig oen a chig eidion Cymreig yn dod i mewn i farchnad yr Unol Daleithiau, a'r angen am rywfaint o sicrwydd ynni a threfniadau y gallwn, o bosib, gytuno gyda'r Unol Daleithiau."

Ychwanegodd Mr Millar ei fod wedi dweud wrth y Pocket Testament League, elusen fach sy'n dosbarthu pamffledi efengylaidd, y bydd yn rhoi'r gorau i fod yn brif weithredwr unwaith y byddant wedi dod o hyd i rywun arall yn ei le.

Mae hefyd wedi rhoi'r gorau i fod yn gadeirydd ar grwpiau trawsbleidiol.

Pynciau cysylltiedig