Staff Prifysgol Caerdydd yn pleidleisio o blaid gweithredu diwydiannol

Fe fydd staff yn cwrdd yn ddiweddarach yr wythnos hon i drafod y gweithredu diwydiannol posib
- Cyhoeddwyd
Mae staff Prifysgol Caerdydd sy'n aelodau o undeb y Prifysgolion a'r Colegau (UCU) wedi pleidleisio o blaid gweithredu yn ddiwydiannol mewn ymateb i doriadau posib gafodd eu cyhoeddi yn gynharach eleni.
Ym mis Ionawr cyhoeddodd y brifysgol eu cynllun i ddod â swyddi i ben a rhoi'r gorau i ddysgu pynciau gan gynnwys cerddoriaeth a nyrsio er mwyn mynd i'r afael â bwlch o £31m yn y gyllideb.
Fe gyhoeddodd yr UCU ddydd Mawrth fod mwy na 64% o'u haelodau ym Mhrifysgol Caerdydd wedi pleidleisio, gyda 83% yn cefnogi streicio, ac 86% o blaid mathau eraill o weithredu.
Mae Prifysgol Caerdydd yn dweud bod yn rhaid gwneud penderfyniadau anodd yn sgil yr heriau ariannol, a bod canlyniad y bleidlais yn "siomedig".
- Cyhoeddwyd9 Mawrth
- Cyhoeddwyd28 Ionawr
- Cyhoeddwyd4 Chwefror
Mae canlyniad y bleidlais ymhlith aelodau'r UCU yn golygu ei bod hi'n debygol y bydd staff yn gweithredu yn ddiwydiannol, oni bai bod penaethiaid y sefydliad yn cytuno i ddiystyru diswyddiadau gorfodol.
Fe fydd staff yn cwrdd yn ddiweddarach yr wythnos hon i drafod y camau nesaf - gan gynnwys y posibilrwydd o streic.
Wedi'r cyfarfod hwnnw, fe fydd angen i staff roi pythefnos o rybudd i'r brifysgol cyn gweithredu.
Dywedodd llywydd yr UCU ym Mhrifysgol Caerdydd, Dr Joey Whitfield fod canlyniad y bleidlais yn dangos fod staff "yn llwyr yn erbyn y toriadau creulon a diangen".
Wrth ymateb, dywedodd Prifysgol Caerdydd y byddai gweithredu diwydiannol yn debygol o gael effaith ar fyfyrwyr, a'u bod am wneud popeth yn eu gallu i osgoi hynny.
"Mae'n bwysig nodi na fydd y gweithredu yma yn effeithio ar y brifysgol gyfan. Fe fydd y brifysgol yn parhau ar agor, a dyw addysgu, gwaith ymchwil na gwasanaethau yn debygol o gael eu heffeithio mewn sawl adran."
Ychwanegodd llefarydd ar ran Prifysgol Caerdydd ei bod hi'n "bwysig pwysleisio mai cynigion yn unig yw'r rhain" ac "nad oes unrhyw benderfyniadau terfynol wedi eu gwneud".