Holl swyddi academaidd Ysgol Gymraeg Prifysgol Caerdydd yn ddiogel

Prifysgol CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Prifysgol Caerdydd yn ymgynghori ar dorri 355 o swyddi yn hytrach na'r 400 a gyhoeddwyd yn wreiddiol ar ddiwedd mis Ionawr

  • Cyhoeddwyd

Mae Newyddion S4C yn deall y bydd holl swyddi academaidd Ysgol Gymraeg Prifysgol Caerdydd yn cael eu diogelu, er gwaethaf cynlluniau i dorri cannoedd o swyddi.

Daw'r cyhoeddiad fel rhan o ddiweddariad y prifysgolion i'w staff ar gynlluniau i dorri cannoedd o swyddi.

Mae Newyddion S4C hefyd yn deall bod holl swyddi'r adran gyfrifiadureg bellach wedi eu diogelu yn ogystal â rhyw 350 o swyddi yn yr ysgol feddygaeth.

Yn dilyn 45 cais llwyddiannus am ddiswyddiad gwirfoddol, bydd y brifysgol nawr yn ymgynghori ar dorri 355 o swyddi yn hytrach na'r 400 a gyhoeddwyd yn wreiddiol ddiwedd mis Ionawr.

Yr Athro Gruffydd Aled WilliamsFfynhonnell y llun, Marian Ifans
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Yr Athro Gruffydd Aled Williams bod y newyddion fel "llygedyn bach o newyddion da"

Disgrifiodd yr Athro Gruffydd Aled Williams, sydd yn gyn-bennaeth ar adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, y newyddion fel "llygedyn bach o newyddion da yng nghanol môr o newyddion heb fod mor dda â hynny".

Er gwaetha'r cyfnod anodd ariannol i brifysgolion Cymru a Phrydain, mae e'n croesawu diogelu adrannau Cymraeg, a'n pwysleisio eu pwysigrwydd.

"Yn sicr heb y gefnogaeth mae'r Gymraeg wedi'i chael gan yr adrannau Cymraeg yn y gwahanol brifysgolion, mi fyddai cyflwr y Gymraeg a'i diwylliant yn llawer gwaeth nag y mae hi ar hyn o bryd," meddai.

Dr Sion Llywelyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

"Pam bod nhw yn penderfynu trio neud pethau yn Kazakstan?" gofynna Dr Sion Llywelyn Jones

Ond roedd beirniadaeth heddiw eto gan undeb yr UCU wedi i Gyngor y Brifysgol gadarnhau cynlluniau'r wythnos hon i ddatblygu campws yn Kazakstan.

Dywedodd Sion Llywelyn Jones sydd yn cynrychioli'r undeb: "'Da ni'n teimlo eu bod nhw'n rhuthro fewn i hyn. Maen nhw wedi mynd amdani yn y misoedd diwethaf.

"Poeni ydan ni hefyd am drac record hawliau dynol Kazakstan.

"Dwi'n meddwl bod digon o broblemau o fewn Caerdydd ar hyn o bryd. Dwi'm yn dallt pam bod nhw wedyn yn penderfynu trio neud pethau yn Kazakstan?

"Byddai'n werth iddyn nhw ganolbwyntio ar Gaerdydd ar hyn o bryd."

Dywedodd llefarydd ar ran y Brifysgol nad ydyn nhw wedi buddsoddi unrhyw arian cyfalaf yn y campws yn Kazakstan a'u bod nhw wedi ymchwilio yn drylwyr i'r cynllun sydd yn cynnig cyfle i ehangu'n rhyngwladol.

Er eu bod nhw'n cydnabod gwahaniaethau mewn gwerthoedd, maen nhw'n hyderus y gallan nhw ddatblygu rhaglen yno sydd yn unol â'u gwerthoedd.

Pynciau cysylltiedig