Cymro yn arwain Pencampwriaeth Ralïo'r Byd gydag un ras yn weddill

- Cyhoeddwyd
Yn arwain Pencampwriaeth Ralïo'r Byd gydag un ras o'r tymor yn weddill, mae'r Cymro Elfyn Evans yn dweud ei fod yn "edrych ymlaen ond mae 'na ffordd bell i fynd cyn diwedd y penwythnos".
Mae rali olaf Pencampwriaeth y Byd 2025 yn cael ei chynnal yn ninas Jeddah yn Saudi Arabia a hynny am y tro cyntaf erioed.
Mae gan Elfyn Evans dri phwynt o fantais dros Sébastien Ogier sydd wedi ennill pencampwriaeth y gyrwyr wyth gwaith o'r blaen.
Yn syml, os yw Elfyn yn ennill y penwythnos hwn bydd yn cael ei goroni'n bencampwr byd a hynny am y tro cyntaf.
Ar ôl dod yn ail bedair gwaith yn y gorffennol ai ei flwyddyn e fydd hi eleni?

Mae Pencampwriaeth Ralïo'r Byd yn cael ei chynnal ar draws 14 cymal mewn 16 o wledydd gwahanol gan gynnwys Estonia
Mae'r gŵr o Ddolgellau'n cydnabod bod e "ddim yn hyderus iawn o gwbl".
"Dwi'n meddwl gall hi fynd unrhyw ffordd o edrych ar yr amodau s'gynnon ni - a wedyn bydd rhaid gwneud beth fedrwn ni a beth bynnag fydd, a fydd."
Bydd y rali'n dechrau gyda chymal arbennig ar gwrs pwrpasol yng nghanol y ddinas cyn symud allan i'r anialwch gydag un cymal wedi ei enwi'n "gymal y lleuad".
"Yr amodau ydy'r peth mwyaf," meddai, "mae'n rough i gychwyn, mae 'na gerrig ochr mewn ac allan ar bob cornel felly does dim lle i wneud camgymeriadau."

Fe ddaeth Elfyn Evans yn ail yn y ras yn Japan eleni, ychydig dros 11 eiliad y tu ôl i Sébastien Ogier
Gan mai dyma'r tro cyntaf i'r rali gael ei chynnal yn Saudi Arabia mae'r gwaith paratoi wedi bod yn heriol.
"Mae'r reckie wedi bod yn intense, sgwennu notes newydd i gyd.
"Mae'r ffyrdd yn ofnadwy o demanding a gawn ni weld sut fydd y gwaith cartref yn mynd.
"Mae gynnon ni'r shakedown fydd yn rhoi flavour bach i ni ond mae ffordd bell i fynd".
I hyrwyddo'r digwyddiad ymhlith pobl leol cafodd seremoni groesawu ei chynnal ar ffordd yr arfordir ar hyd lan y Môr Coch.
"Mae'n neis gweld, bob tro ni'n dod i wlad newydd - os oes croeso cynnes mae'n helpu'r awyrgylch ac mae'n neis bod pobl wedi gwneud cymaint o drafferth," meddai.
Bydd yn rhaid aros tan ddiwedd y rali ddydd Sadwrn cyn cael gwybod ai Cymro fydd pencampwr ralïo'r byd 2025.
Elfyn Evans yn arwain Pencampwriaeth y Byd gydag un ras yn weddill
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd
Ai nawr yw cyfle Elfyn Evans i ddod yn bencampwr rali'r byd?
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.