Teuluoedd pedwar fu farw yn beirniadu perchennog cwmni padlfyrddio

Nerys Bethan LloydFfynhonnell y llun, Athena Pictures
Disgrifiad o’r llun,

Nerys Bethan Lloyd y tu allan i'r llys yn ystod gwrandawiad blaenorol

  • Cyhoeddwyd

Mae perchennog cwmni padlfyrddio oedd yn gyfrifol am farwolaethau pedwar person ar Afon Cleddau wedi wynebu beirniadaeth hallt gan eu teuluoedd yn ei gwrandawiad dedfrydu.

Bu farw Paul O'Dwyer, 42, Andrea Powell, 41, Morgan Rogers, 24, a Nicola Wheatley, 40, yn y digwyddiad ar Afon Cleddau yn Sir Benfro.

Roedd Nerys Bethan Lloyd - cyn-swyddog heddlu 39 oed o Bort Talbot - eisoes wedi pledio'n euog i ddynladdiad ar sail esgeulustod difrifol yn dilyn y daith badlfyrddio yn 2021.

Lloyd oedd yn berchen ar gwmni padlfyrddio Salty Dog, ac fe blediodd yn euog hefyd i un drosedd dan y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith.

Ar ddiwrnod cyntaf ei gwrandawiad dedfrydu, clywodd Llys y Goron Abertawe fod Lloyd "yn berson twyllodrus ac anghymwys", yn ôl teulu un fu farw.

O'r chwith uchaf gyda'r cloc: Paul O'Dwyer, Morgan Rogers, Andrea Powell a Nicola WheatleyFfynhonnell y llun, Lluniau teulu
Disgrifiad o’r llun,

O'r chwith uchaf gyda'r cloc: Paul O'Dwyer, Morgan Rogers, Andrea Powell a Nicola Wheatley

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad toc wedi 09:00 ar fore Sadwrn 30 Hydref 2021, wedi i griw o bobl fynd i drafferthion yn y dŵr.

Bu farw Mr O'Dwyer, 42 o Aberafan, Ms Rogers, 24 o Ferthyr Tudful, a Ms Wheatley, 40 o Bontarddulais, yn yr afon.

Wythnos yn ddiweddarach, ar 5 Tachwedd, bu farw Andrea Powell, 41 o Ben-y-bont ar Ogwr, yn Ysbyty Llwynhelyg.

Yn 2022, fe wnaeth adroddiad swyddogol feirniadu'r ffordd y cafodd y daith ei threfnu.

Nid yw cwmni Nerys Bethan Lloyd, Salty Dog, yn weithredol ers mis Mawrth 2024.

Dywedodd arolygydd y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Morol (MAIB) fod y ddamwain yn "drasig ac y gellir fod wedi ei hosgoi".

Lleoliad y digwyddiad
Disgrifiad o’r llun,

Aeth y padlfyrddwyr i drafferthion ar y gored yma, y tu allan i neuadd y sir yn Hwlffordd

Roedd naw o bobl yn rhan o'r daith ar y diwrnod hwnnw.

Aeth pedwar ohonynt i drafferthion mewn cored ar Afon Cleddau Wen tu allan i neuadd y sir yn Hwlffordd.

Dywedodd yr adroddiad eu bod yn sownd yno, "gyda dim modd dianc".

Ychwanegodd, er bod yr arweinwyr yn badlfyrddwyr profiadol, doedd ganddyn nhw "ddim profiad o ddysgu pobl amhrofiadol ar afonydd sy'n llifo'n gyflym".

'Ddim yn gymwys o bell ffordd'

Rhybudd: Mae cynnwys isod all beri gofid.

Roedd y galeri gyhoeddus yn llawn emosiwn ddydd Mawrth, ac yn orlawn gyda theulu'r diffynnydd a theuluoedd y dioddefwyr.

Dywedodd yr erlynydd Mark Watson KC wrth y llys fod Lloyd a'i phartner busnes Paul O'Dwyer - fu farw yn y digwyddiad - "ddim yn gymwys o bell ffordd" i gynnal teithiau o'r fath.

Dim ond "cymhwyster lefel mynediad sylfaenol" oedd ganddyn nhw, nad oedd yn addas ar gyfer y daith roedden nhw'n ei harwain.

Yn ei ddatganiad personol fe ddywedodd Mark Powell, gŵr Andrea Powell: "Roedd methiannau Nerys Lloyd yn aruthrol. Sut y gallai heddwas ganiatáu i hyn ddigwydd?"

Disgrifiodd Lloyd fel person "twyllodrus", "anghymwys" a "ddim yn ffit i gael bywyd fy ngwraig yn ei dwylo".

Roedd Lloyd yn ddi-emosiwn yn y doc wrth glywed datganiadau'r teuluoedd, gan edrych syth o'i blaen neu tua'r llawr.

Dywedodd Theresa Hall - mam Morgan Rodgers wrth Lloyd: "Nes di gymryd diwrnod priodas Morgan a phlant Morgan, nes di gymryd ei bywyd ar gyfer dy elw dy hun."

Ychwanegodd Ms Hall nad oedd gan Lloyd wybodaeth ddigonol o'r padlfyrddwyr.

"Roedd hi [Morgan] yn gorwedd mewn marwdy, gyda neb yn ei hadnabod tan y bore Sul.

"Wna i fyth dy faddau di am hynny."

Roedd gŵr Nicola Wheatley, Darren Wheatley, yn ddagreuol wrth ddarllen ei ddatganiad ef i'r llys.

Dywedodd fod ei wraig wedi gadael y tŷ y bore hwnnw yn "gyffrous" ar gyfer ei thaith padlfyrddio gyntaf.

Y tro nesaf iddo weld ei wraig oedd mewn marwdy, meddai.

"Roedd hi wedi'i churo, wedi chwyddo, yn gwaedu o'i phen, yn oer. Roedd ei llygaid yn rhannol agored, yn dal i syllu gydag ofn.

"Dyma'r wyneb rydw i'n ei weld bob dydd wrth ddeffro."

Dywedodd nad oedd y diffynnydd wedi dangos "unrhyw edifeirwch" wrth iddi rannu lluniau ar gyfryngau cymdeithasol yn gwenu mewn digwyddiad ym Mharc Margam adeg Nadolig 2021, ychydig wythnosau wedi'r digwyddiad.

"Roeddet ti'n sefyll yno o flaen y camera fel bod dim wedi digwydd," meddai.

'Dim arwyr yn yr hunllef yma'

Darllenwyd datganiad ar ran Ceri O'Dwyer, gwraig Paul O'Dwyer, hefyd. Roedd hi'n un o oroeswyr y daith y bore hwnnw.

"Dwi'n gwybod fy mod ond yn fyw achos bod Andrea wedi fy nghicio o'r ffordd. Dwi'n teimlo'n euog hyd heddiw," meddai.

Ychwanegodd bod ei gŵr wedi gwneud "camgymeriad dinistriol" y diwrnod hwnnw, ond y bu farw "yn ceisio achub eraill".

Dywedodd wrth Lloyd ei bod wedi ceisio "twistio'r gwir, gan roi mwy o gyfrifoldeb ar Paul".

"Dy fusnes di oedd hwn a dy gyfrifoldeb di," meddai.

Ychwanegodd Gemma Cox - ffrind gorau Lloyd oedd hefyd ar y daith y diwrnod hwnnw - yn ddagreuol: "Cafodd Paul ei bortreadu fel arwr heb unrhyw gydnabyddiaeth o'r rhan oedd ganddo i'w chwarae yn hyn.

"Does dim arwyr yn yr hunllef yma."

'Nerfus am y daith'

Clywodd y llys bod Ceri O'Dwyer, a oedd yn penlinio ar ei phadlbwrdd, wedi clywed ei gŵr yn gweiddi "ewch i flaen y bwrdd" ond roedd hi'n rhy hwyr ac roedd y gored wedi ei "sugno o dan ddŵr ar unwaith" fel "peiriant golchi".

Ychwanegodd byddai'r rhai wnaeth oroesi wedi gorfod "ymladd am eu bywydau" i ddianc o lif cryf y dŵr.

Fe aeth Paul O'Dwyer i fewn i'r dŵr i geisio achub rhai o'r rhai oedd yn sownd ond fe gafodd e yntau ei sugno o dan y gored.

Esboniodd Mark Watson KC fod lluniau camerâu cylch cyfyng o'r diwrnod hwnnw yn dangos byrddau padlo "yn cael eu taflu o gwmpas gan y dŵr, yn cylchdroi o dan wyneb y gored".

Dywedodd fod y lluniau yn "dangos grym y dŵr a fyddai yn y pen draw yn hawlio eu bywydau".

Clywodd y llys i Nerys Bethan Lloyd ddweud "Dwi wedi gorffen, dwi wedi gorffen" gyda'i phen yn ei dwylo, ar ôl ceisio gwneud CPR ar Nicola Wheatley.

Fe alwodd Ceri O'Dwyer y gwasanaethau brys am 09:13, ar ôl i'r diffynnydd geisio ffonio Paul O'Dwyer bedair gwaith rhwng 09:05 a 09:08.

Clywodd y llys fod Andrea Powell wedi'i hadfywio'n llwyddiannus yn y fan a'r lle a'i chludo i'r ysbyty gan staff ambiwlans, ond ei bod "wedi dioddef niwed trychinebus i'r ymennydd" a bu farw ar 5 Tachwedd 2021. Bu farw Paul O'Dwyer, Andrea Powell a Nicola Wheatley yn yr afon.

Dywedodd Nerys Bethan Lloyd mewn galwad ffôn i'w phartner, "Fy mai i yw e, 100%".

Dangoswyd lluniau o'r gored ar Afon Cleddau i'r llys a disgrifiodd yr erlynydd yr amodau "peryglus ac amlwg" ar 30 Hydref 2021.

Clywodd y llys fod Mr O'Dwyer wedi mynegi ei bryder am y tywydd y diwrnod hwnnw. Roedd rhybudd melyn am lifogydd mewn lle ar gyfer rhan o Afon Cleddau mewn grym ar y pryd.

Clywid bod Mr O'Dwyer wedi chwilio am opsiynau amgen am deithiau ar Afon Gwy ar-lein cyn y daith. "Mae hynny'n swnio'n ddiflas", oedd ymateb Nerys Bethan Lloyd.

Dywedodd Mr Watson KC doedd dim sgyrsiau diogelwch swyddogol cyn y daith nag asesiadau risg, a doedd y padlfyrddwyr ddim yn ymwybodol y byddan nhw'n dod ar draws cored.

Yn ôl Mr Watson KC roedd "digon o gyfleoedd" i'r diffynnydd gynnal briff diogelwch a rhybuddio'r padlfyrddwyr am y gored.

Doedd dim chwaith manylion perthnasau'r padlfyrddwyr wedi eu cofnodi, wnaeth hyn achosi oedi cyn cysylltu gyda theuluoedd y dioddefwyr, clywodd y llys.

Brynhawn ddydd Mawrth darllenwyd negeseuon o grŵp Whatsapp y padlfyrddwyr cyn y daith lle dywedodd y rhai fu farw yn ddiweddarach eu bod yn "nerfus" .

Er mai Mr O'Dwyer oedd yn gyfrifol am ddanfon negeseuon, fe ddywedodd yr erlynydd bod Nerys Bethan Lloyd "yn glir iawn" beth oedd hi eisiau ei wneud ar y daith, dywedodd Mr Watson KC.

Dywedodd Mr Watson KC fod y daith wedi ei hysbysebu ar Facebook ym Medi 2021 fel 'taith Calan Gaeaf dan arweiniad hyfforddwyr', a bod y neges wedi denu "cryn dipyn o ddiddordeb".

Disgrifiwyd gallu amrywiol y padlfyrddwyr, gyda rhai erioed wedi padlfyrddio ar afon o'r blaen. "Dylai hyn fod wedi bod yn amlwg i'r diffynnydd", meddai Mr Watson KC.

Bydd y gwrandawiad dedfrydu yn parhau ddydd Mercher.