Galw am wneud mwy i amddiffyn lleoliadau cerddorol Caerdydd

Owen Powell
Disgrifiad o’r llun,

Mae Owen Powell wedi bod yn perfformio yng Nghaerdydd ers yr 1980au

  • Cyhoeddwyd

Mae aelod un o fandiau enwocaf Cymru yn dweud bod angen gwneud mwy i amddiffyn rhai o leoliadau cerddoriaeth fyw y brifddinas.

"Dwi'n ofni bod Caerdydd yn mynd i'r cyfeiriad anghywir," meddai Owen Powell, cyn-aelod y band Catatonia.

Fe ddaw'r rhybudd wythnosau ar ôl i leoliad The Moon ar Stryd Womanby gau ei ddrysau am y tro olaf.

Yn ôl Cyngor Caerdydd mae strategaeth hir dymor yn ei lle i gefnogi, datblygu a hyrwyddo sector cerddorol y ddinas.

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth The Moon yng Nghaerdydd gau ddiwedd 2024

Ers 2017 mae Caerdydd wedi bod yn gweithio tuag at statws 'dinas gerdd' fel rhan o ymgyrch i amddiffyn lleoliadau cerddorol y ddinas.

Ar y pryd fe ddywedodd un o Aelodau Seneddol y ddinas, Jo Stevens bod angen "creu lleoliadau newydd" wrth hefyd "edrych ar y lleoliadau sydd gennym ni, gan eu hamddiffyn a'u gwella".

'Angen platfform i Stereophonics y dyfodol'

"Mae dinas Caerdydd wastad wedi bod yn lle ffantastig i fandiau ifanc," meddai Owen Powell, sydd wedi bod yn perfformio yno ers yr 1980au.

Ei bryder nawr, meddai, yw bod yna ormod o ffocws ar ddigwyddiadau mawr sy'n denu miloedd i'r ddinas.

"Mae rhaid i ni gofio bod hynny yn grêt achos mae'n dod ag arian i economi'r ddinas.

"Ond beth dyw e ddim yn 'neud ydy rhoi platfform i'r bandiau ifanc - cenhedlaeth nesaf sy'n mynd i droi mewn i'r Stereophonics, y Manics, y Super Furry Animals."

Yn ôl Mr Powell, mae colli lleoliadau eraill megis Gwdihŵ, Buffalo a Ten Feet Tall dros y blynyddoedd diwethaf wedi achosi pryder.

"Mae 'na ddyfodol i'r bandiau achos ar hyn o bryd dwi'n clywed mwy o fandiau da yn dod allan o Gaerdydd ac o Gymru gyfan na dwi wedi ers 20 mlynedd," meddai.

"Ond os nag oes yna lwyfan iddyn nhw berfformio, beth sy'n mynd i ddigwydd iddyn nhw?"

Disgrifiad o’r llun,

Mae lleoliadau llai yn hollbwysig i ddatblygu artistiaid, medd Aleighcia Scott

"Dwi'n teimlo bach yn drist, i fod yn onest," meddai'r cerddor a'r cyflwynydd Aleighcia Scott.

"Pan nes i ddechrau o'n i'n perfformio yn Gwdihŵ, sydd wedyn cau erbyn hyn, a'r Moon hefyd.

"Dwi'n credu bod e'n gwneud gymaint o les i artist allu brofi tyfu a dod yn gyfarwydd gyda lleoliadau, llwyfannau a chynulleidfaoedd."

Yn ôl Aleighcia, sydd wedi bod yn perfformio am dros ddegawd, mae lleoliadau bychan yn hollbwysig os ydy artist eisiau gweithio tuag at gynulleidfaoedd mwy.

Disgrifiad,

Mae Katie Hall a'i band CHROMA wedi perfformio yn The Moon dros y blynyddoedd

Artist arall sydd wedi mwynhau perfformio ar lwyfannau bach Caerdydd wrth feithrin ei chrefft ydy'r gantores Katie Hall o'r band CHROMA.

"Mae'n trend dros y Deyrnas Unedig bod gymaint o leoliadau byw yn cau a mae angen i ni wneud y gwaith i sefyll lan ar eu cyfer," meddai.

"Dwi ddim yn really gwybod yr atebion fel artist ond dwi'n meddwl bo' nhw mor, mor bwysig."

Yn ôl Cyngor Caerdydd, mae strategaeth hir dymor yn ei lle i gefnogi, datblygu a hyrwyddo sector cerddorol y ddinas.

"Mae'r cyngor yn credu bod lleoliadau cerddoriaeth ar lawr gwlad yn hanfodol ar gyfer datblygu talent newydd a chanolbwyntiau diwylliannol pwysig yn ein trefi a'n dinasoedd," meddai llefarydd.

"Dyna pam y gwnaethom lansio strategaeth Dinas Gerdd a pham rydym yn gwneud cymaint o waith yn ceisio helpu lleoliadau.

"Wrth gwrs, nid yw'n golygu bod gennym y pŵer na'r cyllid i achub pob lleoliad sy'n profi anawsterau."

Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod bod "lleoliadau cerddoriaeth, fel llawer o fusnesau ar draws y wlad" nawr yn wynebu "penderfyniadau anodd" yn sgil y sefyllfa economaidd.

Dywedodd llefarydd: "Mae Cymru Greadigol yn parhau i weithio'n agos gyda'r Music Venue Trust – yn ogystal â grŵp rhanddeiliaid o leoliadau, a stiwdios a gofodau ymarfer – i sicrhau bod y maes hwn o'r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru yn cael ei gefnogi yn y ffordd orau bosibl."