Addysg gerddorol yng Nghymru mewn 'argyfwng dybryd'
- Cyhoeddwyd
Mae addysg gerddorol yng Nghymru mewn "argyfwng dybryd", yn ôl cadeirydd Canolfan Gerdd boblogaidd yn y gogledd.
Mae nifer y disgyblion Safon Uwch sy'n astudio cerdd wedi bron a haneru mewn degawd.
Roedd yna ostyngiad hefyd yn nifer y bobl ifanc sy'n dilyn cwrs cerddoriaeth TGAU, gydag adrannau cerdd prifysgolion yn nodi llai o fyfyrwyr ar eu cyrsiau.
Mae yna alw felly am fwy o ganolfannau cerdd ledled Cymru.
Yn ôl Llywodraeth Cymru maen nhw wedi buddsoddi £13m mewn rhaglenni i gynnig cefnogaeth a chyfleoedd cerddoriaeth i bobl ifanc.
Yn ôl ffigyrau Llywodraeth Cymru, mae yna gwymp wedi bod yn y nifer sy’n astudio Cerddoriaeth Safon Uwch drwy’r Gymraeg hefyd - o 61 disgybl yn 2020/21, i 48 eleni.
I Pat Evans Jones, mam i blentyn 17 oed o Lanybydder yn Sir Gâr, mae ceisio cael mynediad at Lefel A Cerdd yn y Gymraeg yn “straen aruthrol yn feddyliol, yn emosiynol, [ac] yn ariannol” ar y teulu.
Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi gwrthod cais ynghyd ac apêl i’w merch allu cael trafnidiaeth o Lanybydder i Ysgol Bro Myrddin, yr ysgol agosaf sy’n cynnig Cerddoriaeth Safon Uwch yn Gymraeg.
“Ar hyn o bryd fi’n gwario tua £100 yr wythnos ar disel i fynd nôl ac ymlaen i’r ysgol a ni’n dilyn y bys ysgol mewn i’r ysgol a dilyn e nôl,” meddai.
“Mae’r argyfwng costau byw yn anodd i bawb ond ma' hwn yn gwasgu fi’n fwy. Fi hefyd yn rhiant sengl felly ma' hwn yn cwympo arno fi.
“Ma’r cyngor yn glynu i’w polisi yn rhy llythrennol i fod yn onest - ma' nhw’n cadw gweud nid dyna’r ysgol agosa ond mae moen addysg drwy gyfrwng y Gymraeg.”
Yn ôl Cyngor Sir Gâr maen nhw'n “darparu cludiant am ddim i ddysgwyr sy'n hŷn na'r oedran ysgol orfodol" ond dan 19 oed.
“Cyn belled â'u bod yn mynychu'r ysgol ddynodedig agosaf neu'n byw yn nalgylch yr ysgol ac yn byw ymhellach na'r pellter statudol o 3 milltir.”
Dydy’r sefyllfa ddim wedi ei chyfyngu i un iaith, un pwnc nag i ardal y gorllewin yn unig, yn ôl ymgyrchwyr iaith.
“Ma' nifer yn cysylltu â ni yn rheolaidd, mae’n gŵyn sy’n codi yn aml ond am bob un sy’n cysylltu â ni mae 'na 10 neu ddwsin sy' ddim yn cysylltu â ni ac yn rhoi fewn i’r drefn fel ag y mae,” meddai Cadeirydd Pwyllgor Addysg Cymdeithas Yr Iaith, Toni Schiavone.
“Dylai addysg Gymraeg fod ar gael i bob plentyn, ymhob cymuned yng Nghymru.
"Os nad yw e ar gael yn y gymuned honno wel yna ddyle’r cyngor hwyluso’r mynediad at addysg Gymraeg nid creu anawsterau.”
Bu Wyn Thomas yn Uwch-ddarlithydd Cerdd ym Mhrifysgol Bangor ac mae bellach yn Gadeirydd Canolfan Gerdd William Mathias.
Mae’n dweud bod y rhwystrau i bobl astudio cerddoriaeth TGAU a Lefel A yn cael effaith ar niferoedd sy’n astudio mewn prifysgolion.
“Ma' cyflwr addysg gerddorol yng Nghymru mewn argyfwng dybryd. Y tuedd yw mae Llywodraeth Cymru yn dibrisio gwerth cerddoriaeth,” meddai.
“Ond yn ogystal o fewn llywodraeth leol, sydd ddim yn dosrannu yn y modd cywir ond yn hytrach ond yn rhoi cyfraniad bach iawn i gerddoriaeth fel testun a maes astudio.
“Ac oherwydd y gostwng yma mewn nifer y bobl sy’n astudio mewn ysgolion a’r diffyg athrawon cerdd o fewn ysgolion mae hynny’n mynd i olygu y bydd llai yn mynd ymlaen i addysg uwch a bellach hefyd.
“Erbyn hyn mae dyn yn gweld bod cerddoriaeth o gael ei dynnu o ysgolion yn torri i fod yn grefft ac yn gelfyddyd i’r cyfoethog yn unig ac mae hynny’n mynd i gael effaith andwyol ar ein dyfodol ni fel cenedl."
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2024
Mae’n galw felly ar Lywodraeth Cymru i ddilyn ôl-troed Lloegr a chyflwyno mwy o ganolfannau neu hybiau cerddoriaeth.
“Ymhob un sir yng Nghymru, mae angen canolfannau cerdd fydd yn gyfrwng i hyrwyddo cerddoriaeth offerynnol, lleisiol, jazz a phoblogaidd.
"Mae yna bethau tebyg wedi digwydd yn Lloegr. Does yna ddim byd tebyg wedi digwydd yng Nghymru oni bai am yma yn y gogledd ac ambell un yn y de.”
Yn ôl Llywodraeth Cymru maen nhw “wedi ymrwymo i gefnogi addysg gerddorol ledled Cymru gan “fuddsoddi £13m yn y Gwasanaeth Cerddoriaeth Genedlaethol, sy'n darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc rhwng 3 ac 16 oed gymryd rhan mewn gweithgareddau a phrofiadau cerddoriaeth”.
"Mae'r gwasanaeth yn cynnwys rhaglenni ar gyfer ysgolion, gan gynnwys 'Profiadau Cyntaf' a 'Llwybrau Cerddoriaeth', gan helpu dysgwyr i adeiladu'r wybodaeth, y sgiliau a'r profiadau i danio angerdd am gerddoriaeth a chefnogi astudiaethau pellach."
'Arwyddion cynnar o adferiad'
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru: "Mae’r data diweddaraf yn dangos cynydd yn y nifer sydd yn ymwneud â cherdd ers i Wasanaeth Cerdd Cenedlaethol Cymru gael ei sefydlu ddwy flynedd a hanner yn ôl i weithredu amcanion Cynllun Cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer Addysg Cerddoriaeth.
“Mae cynydd yn y nifer sydd yn cymryd rhan mewn ensemblau – yn lleol ac yn rhanbarthol; mae mwy wedi ymgeisio i fod yn rhan o ensemblau Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, ac ry’n ni’n gweld mwy o ddisgyblion ysgol yn gofyn am wersi offerynnol ar draws y wlad.
“Felly, yn dilyn y pandemig a heriau ariannol, diolch i fuddsoddid Llywodraeth Cymru mewn Addysg Gerdd, mae’r arwyddion cynnar o adferiad yn dangos.
"Mae rhai heriau yn parhau – gan gynnwys heriau ariannol sy’n wynebu ysgolion o ran cyllidebau, a hefyd heriau daearyddol o ran gostyngiad yn niferoedd y boblogaeth mewn rhai ardaloedd gwledig.