Michael Sheen yn lansio cwmni theatr cenedlaethol newydd

Michael Sheen
Disgrifiad o’r llun,

Michael Sheen fydd cyfarwyddwr artistig cwmni newydd Welsh National Theatre

  • Cyhoeddwyd

Mae'r actor Michael Sheen wedi cyhoeddi ei fod yn sefydlu cwmni theatr newydd i lenwi'r bwlch ar ôl i National Theatre Wales ddod i ben.

Daeth gwaith y theatr Saesneg ei iaith i ben fis diwethaf ar ôl colli'i chefnogaeth ariannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Sheen fydd cyfarwyddwr artistig Welsh National Theatre, ac mae wedi addo ariannu'r cwmni newydd am "mor hir ag sydd angen".

Mae'r actor o Bort Talbot wedi datgan ei fod am i'r cwmni newydd gydweithio gyda Theatr Cymru (Theatr Genedlaethol Cymru gynt).

"Dwi am greu cwmni sy'n uchelgeisiol ac yn fentrus yn greadigol, sy'n mynd â straeon Cymreig at gynulleidfa eang," meddai Sheen.

"Mae'n rhaid adlewyrchu cyfoeth diwylliannol Cymru a dweud ein straeon mawr ar lwyfannau mawr i gynulleidfaoedd mawr."

Cyllido'r fenter ei hun

Mae'n bwriadu cyllido'r fenter ei hun a sicrhau buddsoddiad, gan gynnwys arian cyhoeddus, gan fynnu nad dyna fydd unig ffynhonnell ariannol y cwmni.

"Dwi mewn sefyllfa freintiedig i allu gwneud hyn - ac yn lle cwyno am y sefyllfa sydd ohoni, mae'n rhaid achub ar y cyfle presennol a chamu i mewn," meddai Sheen.

Mae'n cydnabod bod hanes diweddar theatr yng Nghymru wedi bod yn anodd a bod hyn yn gyfle i aildanio'r sector gyda pherthynas iachach.

"Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn fod yna gwmni theatr genedlaethol Cymraeg [ei hiaith], ac mae'n rhaid amddiffyn hynny," meddai.

"Maen nhw [Theatr Cymru] yn gwneud gwaith gwych a tydi be 'dan ni'n ceisio ei wneud gyda'r cwmni yma ddim yn ceisio tanseilio hynny o gwbl."

Ffynhonnell y llun, BEN STANSALL/AFP/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Un o lwyddiannau cynnar National Theatre Wales oedd The Passion gyda Michael Sheen ym Mhort Talbot yn 2011

Mae Welsh National Theatre wedi bod yn cynnal trafodaethau gyda Theatr Cymru ynglŷn â sut i gydweithio yn y dyfodol.

"Mi wnes i edrych yn ôl ar y llythyr y sgwennodd y dramodwyr ynglŷn â beth oedd yn digwydd yn National Theatre Wales," meddai Sheen.

"Un o'r pethau ddywedon nhw oedd bod yn rhaid, wrth ystyried theatr yn yr iaith Saesneg yng Nghymru, wneud hynny yng nghyd-destun theatr yn y Gymraeg."

Mae'n teimlo fod National Theatre Wales wedi methu â chreu gwaddol o gynhyrchwyr theatr ac arweinwyr artistig Cymreig, a'i fod am newid hynny a datblygu talent newydd.

Ffynhonnell y llun, Mefus Photography
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Steffan Donnelly fod y cwmni newydd yn "newyddion da i'r theatr yng Nghymru"

Mae Steffan Donnelly, cyfarwyddwr artistig Theatr Cymru, wedi croesawu'r cwmni newydd fel "newyddion da i'r theatr yng Nghymru" a'i fod yn gyffrous am y cyfleoedd i gydweithio.

"Mae'n rhywbeth sy'n dod â mwy o waith i'r gweithwyr llawrydd yng Nghymru, sy'n beth da, a fydd hi'n ddiddorol gweld sut mae'r cwmni 'ma'n esblygu dros y blynyddoedd nesa'," meddai.

"Mae cydweithio a chyd-gynhyrchu efo amryw gwmnïau yn rhan annatod o greu theatr, yn enwedig pan mae 'na gyfyngiadau ariannol fel 'da ni'n mynd trwodd fel sector ar hyn o bryd.

"'Da ni wedi cael un cyfarfod diddorol am bosibiliad un cynhyrchiad, felly pwy a ŵyr [be' ddaw]?"

'Pwrpas gwahanol iawn i'r ddau gwmni'

Pan ofynnwyd iddo a fyddai perygl i Welsh National Theatre sathru ar draed Theatr Cymru, dywedodd Mr Donnelly eu bod yn "creu cynyrchiadau uchelgeisiol, award-winning yn yr iaith Gymraeg, sy'n teithio i gymunedau ar draws y wlad".

"Tra mae cwmni newydd Michael Sheen yn creu gwaith iaith Saesneg sydd, yn y tymor byr, ddim yn mynd i deithio.

"Felly mae pwrpas gwahanol iawn i'r ddau gwmni, ac mae hynny'n glir iawn."

Bydd manylion am gynhyrchiad cyntaf Welsh National Theatre yn cael ei gyhoeddi yn y misoedd nesaf ac mae disgwyl iddo gael ei lwyfannu'r flwyddyn nesaf, gyda Sheen yn perfformio.

Cyfeiriodd Michael Sheen at lythyr gan ddramodwyr at National Theatre Wales yn 2018 oedd yn cyhuddo'r cwmni o "danseilio" artistiaid Cymreig.

Un o'r rhai arwyddodd y llythyr oedd yr actores a'r dramodydd Sharon Morgan.

"Fe godon ni'n lleisiau gan nad oedd neb yn gwrando arnon ni," meddai.

"Doedden ni ddim wedi gweld ddim byd o werth mewn 10 mlynedd gan NTW."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Sharon Morgan yn credu y bydd Sheen yn "dod ag egni a hyder newydd" i fyd y theatr yng Nghymru

Mae hi'n dweud bod cyhoeddiad Michael Sheen i'w groesawu, gan ddweud bod yr actor yn "bywiocáu cymaint o wahanol elfennau o'n bywydau ni, o'r theatr i wleidyddiaeth".

"Dydw i ddim yn gwybod [sut] y bydd hyn yn ffitio i ecoleg y byd theatr, gan fod o'n gwbl newydd, ond wela' i ddim bai arno fe am ei ymroddiad," meddai.

Mae Ms Morgan yn dweud bod gormod o arian cyhoeddus yn mynd tuag at gefnogi'r diwydiant teledu a ffilm a bod dim digon ar gael ar gyfer byd y theatr.

"Mae cymaint o gwmnïau ganddon ni yn gwneud gwaith gwych cymunedol a gyda phobl ifanc fel Hijinx, Bara Caws a'r Frân Wen, ond ddyle fod 'na fwy o arian i'r theatr."

'Credu yng Nghymru fel cenedl'

Mae hi'n ffyddiog y bydd digon o arian a chynulleidfaoedd ar gael ar gyfer dau gwmni theatr cenedlaethol.

"Mae cwestiwn mawr, a ddyle fod yna un cwmni theatr cenedlaethol, wrth gwrs, ond maen nhw'n greaduriaid gwahanol iawn, iawn," meddai Ms Morgan.

"Mae Michael yn Gymro i'r carn sy'n credu yng Nghymru fel cenedl ac yn deall Cymru a'n diwylliant, yn wahanol i rai sydd wedi rhoi'r gorau iddi yma ar ôl rhyw dair blynedd.

"Mae'n dod ag egni a hyder newydd i ni ac yn ysgwyd petha' o gwmpas."

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi comisiynu adolygiad i theatr Saesneg ei hiaith yng Nghymru, fydd yn cael ei gyhoeddi yn y gwanwyn.

Fis diwethaf fe wnaeth Llywodraeth Cymru gynyddu cyllid y sector diwylliant yn ei chyllideb ddrafft ar gyfer 2025-2026 ac, ynghyd â Chyngor Celfyddydau Cymru, sefydlu cronfa swyddi gwerth £3.6m ar gyfer y sector.

Dywedodd Cyngor Celfyddydau Cymru eu bod wedi darparu cyllid pontio i National Theatre Wales i'w helpu i ailstrwythuro.

Pynciau cysylltiedig