Joe Rodon yn un o bedwar i dynnu allan o gêm Cymru yn erbyn Kazakhstan

Joe RodonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rodon yn un o bedwar sydd wedi tynnu allan o'r garfan

  • Cyhoeddwyd

Mae Joe Rodon, Nathan Broadhead, Danny Ward a Jay DaSilva wedi tynnu allan o garfan Cymru ar gyfer y gêm ragbrofol Cwpan y Byd yn erbyn Kazakhstan.

Bydd Tom King, Rhys Norrington-Davies a Joel Colwill yn cymryd eu lle yng ngharfan Craig Bellamy ar gyfer y gêm yn Astana ddydd Iau.

Mae gan Rodon o Leeds United, Broadhead a Ward o Wrecsam a DaSilva o Coventry City anafiadau.

Dyma'r tro cyntaf i Colwill, sy'n chwarae i Gaerdydd, gael ei alw i'r tîm cyntaf - ond ni fydd yn cael y cyfle i chwarae gyda'i frawd, Rubin, sydd wedi'i adael allan oherwydd anaf.

Fe wnaeth Rodon a DaSilva chwarae'r 90 munud cyfan yn eu gemau dros y penwythnos.

Cafodd Broadhead ei adael allan o dîm Wrecsam a chwaraeodd yn erbyn Millwall dros y penwythnos ac roedd rhaid i Danny Ward gael ei gario oddi ar y cae.

Bydd Ethan Ampadu a Connor Roberts hefyd yn colli'r gêm oherwydd anaf tra bod Aaron Ramsey wedi'i adael allan oherwydd nad yw wedi chwarae digon o gemau clwb.

Fe fydd Cymru yn wynebu Kazakhstan oddi cartref fel rhan o'r ymgyrch ragbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2026 am 15:00 brynhawn Iau, cyn wynebu Canada yn Abertawe nos Fawrth, 9 Medi.

Ennill o 3-1 oedd hanes tîm Craig Bellamy pan deithiodd Kazakhstan i Gaerdydd nôl ym mis Mawrth.

Mae Cymru yn ail yng Ngrŵp J gydag un golled yn eu pedair gêm yn yr ymgyrch ragbrofol hyd yn hyn - colled o 4-3 yng Ngwlad Belg ym mis Mehefin.

Maen nhw bwynt y tu ôl i Ogledd Macedonia a enillodd 1-0 yn Kazakhstan, tra bod Gwlad Belg yn drydydd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.