Tua 90 o swyddi yn mynd wrth i ganolfan elusennol gau

Y ganolfan Blind Veterans UK yn Llandudno.
Disgrifiad o’r llun,

Roedd canolfan Blind Veterans UK wedi'i lleoli mewn adeilad mawr o'r enw Lady Foresters - sydd wedi'i restru

  • Cyhoeddwyd

Bydd canolfan Blind Veterans UK yn Llandudno yn cau ddiwedd yr wythnos, gyda thua 90 o swyddi yn mynd.

Bu'n darparu cefnogaeth a hyfforddiant arbenigol i gyn-filwyr sydd wedi dioddef o golli golwg - ar faes y gad neu'n ddiweddarach mewn bywyd - ers 2011.

Mae gan Blind Veterans UK ganolfan arall yn ne Lloegr, ond maen nhw'n cael trafferth cadw dau safle ar agor meddan nhw.

Dywedodd cyn-aelodau staff mewn seremoni gau yr wythnos hon, y buodd hi'n fraint cael gweithio gyda chyn-staff milwrol y lluoedd arfog.

Y seremoni gau.
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd rheolwr staff y ganolfan wrth y seremoni fod y tîm "wedi byw, caru a rhannu profiadau anhygoel gyda'i gilydd"

Cafodd y ganolfan yn Llandudno ei chau dros dro ym mis Chwefror, tra bod ymgynghoriad ffurfiol yn cael ei gynnal gyda staff dros ei dyfodol.

Yr wythnos hon clywodd nifer o bobl dros e-bost eu bod yn cau'r ganolfan yn barhaol, a'i bod yn cau'n swyddogol ddydd Gwener.

Cafodd seremoni gau ei chynnal ddydd Mawrth, lle cafodd baner y sefydliad ei dynnu i lawr y tu allan i'r ganolfan am y tro olaf.

Doedd y rhan fwyaf o staff y ganolfan ddim yn fodlon siarad am ei chau.

Ond dywedodd y rheolwr wrth y seremoni fod y tîm "wedi byw, caru a rhannu profiadau anhygoel gyda'i gilydd - a gyda'n haelodau".

'Gadael y lle yma gyda gobaith'

Un arall yn y seremoni oedd Billy Baxter, cyn-ringyll staff yn y Magnelwyr Brenhinol.

Collodd ei olwg yn 1997 ar ôl dal feirws llygaid prin tra ar wasanaeth ym Mosnia, ac aeth ymlaen i weithio yng nghanolfan Blind Veterans UK Llandudno, gan ymddeol yn ddiweddar.

Dywedodd bod cyn-filwyr o bob oedran yn cyrraedd yno, wedi torri ac wedi rhoi'r ffidil yn y to o ran eu bywyd oherwydd colli eu golwg.

"Byddent yn gadael y lle yma gyda gobaith yn eu calonnau, a hefo'r gallu i barhau i fyw," meddai.

Billy Baxter.
Disgrifiad o’r llun,

Collodd Billy Baxter ei olwg yn 1997 ar ôl dal feirws llygaid prin tra ar wasanaeth yng ngwlad Bosnia

Dywedodd Blind Veterans UK eu bod yn cau'r ganolfan oherwydd problemau ehangach ar draws yr elusen yn ei chyfanrwydd.

Maen nhw'n parhau i gwblhau'r broses ymgynghori, meddai'r elusen.

Dywedon nhw nad ydyn nhw'n gallu rhoi union nifer y swyddi fydd yn cael eu colli, ond y ffigwr terfynol fydd "tua 90".

Mae'r elusen yn dweud y bydden nhw'n parhau i gael presenoldeb yng Nghymru, a'u bod yn bwriadu gwneud mwy o hyfforddi a gofal yng nghymunedau eu haelodau.

Dyfodol yr elusen yn ansicr

Mewn datganiad yn gynharach eleni, dywedodd yr elusen os na fydd "gweithredu cyflym" yn digwydd, bydd Blind Veterans UK yn dod i ben.

"Rydym yn gweithio gyda'n haelodau staff a'n cyn-filwyr dall i sicrhau bod y cymorth angenrheidiol ar gael," meddai llefarydd.

Roedd y ganolfan wedi'i lleoli mewn adeilad mawr o'r enw Lady Foresters - sydd wedi'i restru - ac fe agorodd yn 1904 fel cartref ymadfer i lowyr oedd wedi'u hanafu.

Dywedodd yr elusen ei bod hi'n rhy gynnar i ddweud beth fyddai'n digwydd i'r adeilad yn y dyfodol.

Pynciau cysylltiedig