Neil Foden: Galwadau am ymchwiliad cyhoeddus

Sera Cracroft
Disgrifiad o’r llun,

Ddiwedd y llynedd, fe siaradodd Sera Cracroft yn gyhoeddus am y tro cyntaf am gael ei cham-drin yn rhywiol fel plentyn

  • Cyhoeddwyd

Mae'r galwadau'n cryfhau am ymchwiliad cyhoeddus i droseddau rhyw Neil Foden yn erbyn plant.

Ddydd Llun, cafodd y cyn-bennaeth yng Ngwynedd i ddedfrydu i 17 o flynyddoedd yn y carchar am gam-drin merched yn rhywiol.

Mewn cyfweliad â Newyddion S4C, mae'r actores Sera Cracroft, siaradodd yn ddiweddar am ei phrofiad hi o gael ei cham-drin yn rhywiol fel plentyn, yn galw am ymchwiliad cyhoeddus i weld beth aeth o'i le.

Ac ar lawr y Senedd, fe alwodd Aelod Arfon, Sian Gwenllian hefyd am ymchwiliad statudol fyddai'n gorfodi rhai i roi tystiolaeth.

Neil FodenFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd Neil Foden yn euog o 19 o gyhuddiadau o gam-drin pedair merch yn rhywiol

Ddiwedd y llynedd, fe siaradodd Sera Cracroft yn gyhoeddus am y tro cyntaf am gael ei cham-drin yn rhywiol fel plentyn.

Wrth ymateb i achos Foden, mae'n dweud ei bod yn poeni nad yw'r adolygiad ymarfer plant presennol yn ddigonol i roi cyfiawnder i'r dioddefwyr.

Dywedodd: "Be’ sydd wedi fy ngwylltio i ydy bod pobl wedi sôn bo' nhw’n poeni am y pŵer o’dd gynno fo – naill ai bod o’n bwlio pobl neu bod o’n bihafio’n anweddus – i mi di o’m fatha bod 'na neb 'di cymryd sylw."

'Rhaid i ni 'neud rhywbeth amdano fo'

Ychwanegodd Sera Cracroft bod yn "rhaid ni gael ymchwiliad cyhoeddus".

"Mae’n rhaid i bobl gael eu gorfodi i fod yno, ac mae’n rhaid i nhw ddweud ar lw beth o’dd ‘di digwydd achos ma’ hwnna’n mynd i helpu’r merched sydd wedi dioddef, a falle pobl eraill, i ddallt bod pobl yn gwrando arnon nhw a dyla’ fod pethau fel hyn ddim yn digwydd.

"Maen nhw’n mynd i ddigwydd yn y dyfodol - ond mae’n bwysig bod ni’n cydnabod bod rhaid ni 'neud rhywbeth amdano fo."

Wrth sôn am ei phrofiad hi o gael ei cham-drin mae'n dweud mai'r hyn sy'n digwydd "ydy bod rhywun ‘di cymryd eich pŵer chi oddi wrthych chi".

"Mewn ffordd, mae pob troseddwr rhywiol yn defnyddio’u pŵer dros rhywun – a mae’n bwysig cael hwnna nôl mewn ffordd, a mae 'na ffordd i gael o ‘nôl."

Sian GwenllianFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Siân Gwenllian AS yn siarad yn siambr y Senedd ddydd Mawrth

Ar lawr y Senedd brynhawn Mawrth, fe alwodd aelod Plaid Cymru dros Arfon hefyd am ymchwiliad cyhoeddus i droseddau Neil Foden.

“Rhaid i ni rŵan roi blaenoriaeth i sicrhau nad oes yna unrhyw blentyn - unrhyw blentyn - yn dioddef fel hyn byth eto,” meddai Siân Gwenllian AS yn siambr y Senedd ddydd Mawrth, yn sgil dedfryd Neil Foden.

Ym mis Mai cafwyd Foden yn euog o 19 o gyhuddiadau o gam-drin pedair merch yn rhywiol dros gyfnod o bedair blynedd.

Roedd Foden, 66, yn bennaeth yn Ysgol Friars, Bangor, ac yn bennaeth strategol Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes.

“'Dw i yn gobeithio y bydd yr adolygiad ymarfer plant sy'n cael ei gynnal gan fwrdd diogelu'r gogledd yn mynd peth o'r ffordd at gyrraedd y sefyllfa honno,” medd Siân Gwenllian AS.

“Ond mae yna alwadau cynyddol am ymchwiliad statudol. Yn fy marn i, dyna'r unig ffordd i ddysgu'r holl wersi er mwyn atal troseddau dychrynllyd rhag digwydd i'r dyfodol.

“Felly, a wnewch chi sicrhau datganiad gan y Llywodraeth cyn toriad yr haf yn amlinellu ymateb y Llywodraeth i'r alwad am ymchwiliad statudol? Dyma'r ail waith rŵan i fi godi'r mater yma yn y Siambr."

Mewn ymateb, fe ddywedodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol o'r Blaid Lafur fod achos Foden yn “syfrdanol a gofidus,” gan ganmol dewrder y dioddefwyr a roddodd dystiolaeth yn yr achos llys.

Dywedodd Jane Hutt AS: “Mae’n rhaid i ni gadw pawb gafodd eu heffeithio gan ymddygiad troseddol, rheolaethol a chreulon Neil Foden yn ein meddyliau.”

Esboniodd bod y corff diogelu rhanbarthol yn cynnal adolygiad ymarfer plant, a bod yn rhaid gadael i hwnnw gael ei gwblhau.

“Mae hwn yn adolygiad annibynnol, sy’n golygu y bydd rôl asiantaethau perthnasol yn cael eu hystyried a bydd yn awgrymu sut y gellir wella ymarferion diogelu yn y dyfodol.”

“Mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod yn gadael i'r broses honno ddigwydd, a gwrando ar beth sydd gan bobl sy’n rhoi tystiolaeth i'w ddweud, cyn gwneud unrhyw benderfyniadau am ba gamau eraill y gall fod eu hangen.”

Fe ddywedodd y Blaid Geidwadol nad oedden nhw am wneud sylw am y galwadau am ymchwiliad cyhoeddus.

'Ystyried pob opsiwn'

Rocio Cifuentes
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Rocío Cifuentes ei bod hi am gael ei 'darbwyllo' fod ystod yr adolygiad yn ddigonol

Hefyd yn ymateb i achos Foden ddydd Mawrth oedd Comisiynydd Plant Cymru, a ddywedodd nad oedd hi'n "diystyru unrhyw opsiwn".

“Gallwn ni ddim caniatáu i'r profiadau erchyll hyn ddigwydd heb ddysgu unrhyw wersi er mwyn diogelu plant yn well yn y dyfodol," medd Rocío Cifuentes.

“Rwyf wedi cwrdd ag uwch swyddogion o’r awdurdod lleol a byddaf yn cwrdd â chadeirydd y Bwrdd Diogelu yn fuan.

“Fy mhryderon presennol fel y Comisiynydd Plant ydy sicrhau bod y camau nesaf y mae’r bwrdd diogelu’n eu cymryd mor gryf a thrwyadl a sy'n bosib.

“Rwyf am gael fy narbwyllo fod ffiniau'r adolygiad ymarfer plant yn ddigon eang er mwyn dod o hyd i'r gwersi hyn.

“Tan hynny, 'dw i ddim yn diystyru unrhyw opsiynau.”

Pynciau cysylltiedig