'Pryder enfawr' am gynlluniau tollau dur yr Undeb Ewropeaidd

Mae tua 80% o allforion dur y DU yn mynd i Ewrop ar hyn o bryd, meddai undeb Community
- Cyhoeddwyd
Mae cynllun yr Undeb Ewropeaidd (UE) i godi tollau ar ddur sy'n cael ei fewnforio yn "bryder enfawr" i'r diwydiant yng Nghymru, meddai'r llywodraeth.
Mae'r comisiwn wedi cyhoeddi cynlluniau i haneru faint o ddur sy'n gallu cael ei fewnforio i wledydd yr undeb, a chyflwyno tollau newydd o 50% ar unrhyw ddur sydd dros y trothwy hwnnw.
Fe rybuddiodd Alisdair McDiarmid, ysgrifennydd cyffredinol undeb gweithwyr dur Community, fod tua 80% o allforion dur y DU yn mynd i Ewrop, a bod y newid yn peri "bygythiad dirfodol" i'r diwydiant a allai ddinistrio swyddi a chynhyrchiant.
Yn ôl undeb Unite, sydd hefyd yn cynrychioli gweithwyr dur, mae angen "gweithredu radical" a gweledigaeth fwy hir dymor er mwyn diogelu'r diwydiant".
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod am barhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i warchod y sector wrth i Tata ddatblygu ffwrnais drydan erbyn 2027.
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd30 Medi 2024
Yr Undeb Ewropeaidd yw marchnad fwyaf y DU ar gyfer allforio dur.
Mae'r farchnad honno werth tua £3bn i'r economi, gyda hyd at 78% o'r nwyddau dur sy'n cael eu creu yn y DU ar gyfer marchnadoedd tramor yn cael eu hallforio i'r UE.
Mae'r Comisiwn Ewropeaidd yn bwriadu torri 47% ar fewnforion dur heb dariff i 18.3m tunnell y flwyddyn, gyda'r mesurau newydd i ddod i rym yn gynnar y flwyddyn nesaf yn ddibynnol ar gymeradwyaeth gan fwyafrif aelodau'r undeb a Senedd Ewrop.
Daw hyn yn sgil pwysau gan rai gwledydd a'u diwydiannau dur, sydd wedi bod yn ei chael hi'n anodd cystadlu â mewnforion rhad o wledydd fel China a Thwrci.

Mae dros flwyddyn wedi bod bellach ers i gwmni Tata ddod â'r gwaith o greu dur i ben ym Mhort Talbot
Mae ychydig dros flwyddyn wedi bod ers i gwmni Tata ddod â'r gwaith o greu dur i ben ym Mhort Talbot - cam a arweiniodd at golli 2,000 o swyddi.
Er hyn, mae'r cwmni - gyda chymorth grant £500m gan Lywodraeth y DU - yn buddsoddi £1.25bn mewn cynhyrchu dur mwy gwyrdd ac yn dweud bod disgwyl gwaith fydd yn cael llai o effaith ar yr amgylchedd i ddechrau yno erbyn 2027.
Mae disgwyl i'r ffwrnais drydan leihau allyriadau carbon y safle o thua 90% yn ogystal â chefnogi 5,000 o swyddi.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn parhau i fod yn "falch" o ddiwydiant dur y wlad a'i fod yn "rhan annatod o ddyfodol y genedl".
Ychwanegodd y llefarydd y byddai'r llywodraeth yn parhau i gefnogi gweithwyr "ym mhob ffordd posib" wrth symud at broses gynhyrchu mwy gwyrdd.
Roedd y datganiad hefyd yn galw cyhoeddiad yr UE yn "bryder enfawr" ac yn addo gweithio gyda llywodraeth y DU i warchod "sgiliau" a "datblygiad economaidd".
Dywedodd Prif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer, y bydd "cefnogaeth gref" gan ei lywodraeth ar gyfer y diwydiant dur, allai gael ei effeithio yn sylweddol gan y tollau.
Dadansoddiad
Mae'n anodd dod i delerau a pha mor bwysig yw diwydiant dur Cymru i wleidyddion y wlad.
Mae wedi bod ar frig rhestr blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ers amser, ac mae llywodraethau Llafur a Cheidwadol y DU wedi ceisio gwneud cytundebau i sicrhau ei ddyfodol.
Mae ffynonellau yn y diwydiant yn dweud y gallai gweithredu cynllun yr UE arwain at ddiwedd cynhyrchu dur yn y DU, ond mae gobaith o hyd am gytundeb.
Unwaith eto mae swyddi dur Cymru yn nwylo gwleidyddion sydd yng ngofal materion o bwys byd-eang.
Ond mae'n fwy na gwleidyddiaeth yn unig: mae dur, fel glo o'i flaen, yn rhan annatod o hunaniaeth genedlaethol Cymru a'i meddylfryd.