Gobeithio newid agweddau tuag at awtistiaeth drwy luniau

Oriel luniauNeidio heibio'r oriel luniauSleid 1 o 15, Merch fach mewn crys polo coch a gwyn. Mae ganddi rhubanau gwyn yn ei gwallt melyn. , Mae elusen Rewild Play yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd ag anableddau neu anableddau dysgu, ac yn cefnogi tua 300 o deuluoedd yn ne Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae plant a phobl ifanc awtistig o'r de wedi creu arddangosfa ffotograffiaeth er mwyn ceisio newid agweddau negyddol tuag at niwrowahaniaeth.

Mae arddangosfa 'But you don't look autistic' yn cynnwys lluniau o ddegau o bobl a phlant awtistig.

Yn ôl Jade West o elusen Rewild Play, mae plant niwrowahanol yn clywed negeseuon negyddol "yn dragywydd".

Codi ymwybyddiaeth a chreu positifrwydd yw bwriad yr arddangosfa, yn ôl yr elusen.

'Mae'n nawddoglyd'

"Balch" yw disgrifiad Liam, 15, o sut mae'n teimlo i fod yn rhan o'r arddangosfa.

Mae'n dweud iddo gael ei ysgogi oherwydd y ffordd mae rhai'n ymateb pan mae'n dweud ei fod yn awtistig.

"Llawer o'r amser, ma'n nhw'n siarad gyda ti fel nad wyt ti mor glyfar â nhw... neu ti ddim yn gallu gwneud y pethau maen nhw'n ei wneud.

"Fel arfer, ma' nhw fel 'o, dyna drist' - mae'n nawddoglyd."

Mae Liam yn dweud bod cael cefnogaeth gan elusen Rewild Play wedi ei helpu i "dderbyn" ei fod yn awtistig.

Mae ar restr aros ar hyn o bryd am ddiagnosis ffurfiol, ond eisoes wedi cael gwybod ei fod yn arddangos nodweddion awtistiaeth ac ADHD.

I Mackenzie, 16, roedd y profiad o gyfweld â'r rhai oedd yn y lluniau, wedi ei helpu i ddysgu am "agweddau gwahanol awtistiaeth".

Cafodd ddiagnosis yn wyth oed, ac mae yntau hefyd wedi dioddef oherwydd agweddau negyddol.

"Mae'n mynd dan fy nghroen i pan mae pobl yn eich trin chi fel eich bod chi ychydig yn llai [na nhw]".

'Elli di ddim bod yn awtistig'

Daeth y syniad am yr arddangosfa yn wreiddiol o sgwrs rhwng Jade West o elusen Rewild Play gyda'i merch, ble y daeth angen yn amlwg am "ddarlun positif [o niwrowahaniaeth]".

Cafodd Jade ddiagnosis ADHD yn 42 oed, ac mae'n aros am ddiagnosis awtistiaeth.

Gan ddisgrifio'i hun fel dynes 45 oed "siaradus", mae'n dweud bod cyffredinoli neu stereoteipiau yn golygu nad yw pobl yn deall, gan ddweud pethau fel "elli di ddim bod yn awtistig" wrthi hi.

Er bod llun o Jade West wedi ei gynnwys yn yr arddangosfa, mae'n dweud nad yw'n hynod agored am ei diagnosis oherwydd ei bod yn meddwl y caiff ei beirniadu.

"Efallai bod rhan ohona i sydd eisiau'r darlunio positif i fi fy hunan," ychwanegodd.

Er bod Liam a Mackenzie yn cydnabod bod y ddau ohonyn nhw'n teimlo'n chwithig drwy fod yn rhan o'r arddangosfa, maen nhw'n teimlo'n gryf bod angen i agweddau pobol newid.

"Mae'n anodd iawn delio gyda hynny, pan fydd pobl yn ein gweld ni [mewn ffordd] negyddol llawer o'r amser," meddai Liam.

Ychwanega Mackenzie: "Mae pobl yn tueddu i feddwl mai'r unig ffurf o awtistiaeth yw'r un lle ti'n stryglo'n ofnadwy.

"Mae e'n ddiflas achos mae pobl gydag awtistiaeth yn gallu gwneud pethe', ac mae lot o bobl sy'n gwneud pethau da iawn gydag awtistiaeth."

Pynciau cysylltiedig