Wyth dyn yn gwadu 'rhyfel tir rhwng barbwyr'

Chwith i dde: 
 
Shahab Husseini, Sardam Ebrahimi, Omed PIrot, Bave Hamed
Disgrifiad o’r llun,

O'r chwith i dde: Shahab Husseini, Sardam Ebrahimi, Omed PIrot, Bave Hamed

  • Cyhoeddwyd

Mae wyth dyn wedi gwadu bod yn gysylltiedig ag anhrefn dreisgar yn Sir Caerffili fis diwethaf.

Clywodd gwrandawiad llys blaenorol bod yr achos yn ymwneud â "rhyfel tir rhwng barbwyr" yn ardal y Coed-duon.

Roedd yr helynt wedi dechrau ar Stryd Fawr y Coed-duon brynhawn Iau, 13 Chwefror, oherwydd anghytuno ynglŷn ag agor siop farbwr newydd yn Nhrecelyn gerllaw.

Yn Llys y Goron Caerdydd fore Llun, fe wnaeth Alan Karimi, 30, o Gaerdydd, Shahab Husseini, 24, o Bont-y-pŵl, Bave Hamed, 30, o'r Coed-duon, Krmanj Sadiq, 29, o Gaerdydd, Bryar Muradi, 28, o Oakdale, Omed Pirot, 29 o Bentwynmawr, Caerffili, Adnan Mohamad, 29, o Gaerdydd a Sardam Ebrahimi, 25, o Oakdale - bledio'n ddieuog i gyhuddiad o anrhefn dreisgar.

Fe gafodd yr wyth eu rhyddhau ar fechnïaeth amodol ac mae disgwyl achos llys ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf.

Pynciau cysylltiedig