Gallai'r gyllideb nesaf gael effaith 'trychinebus' ar wasanaethau

Mark Drakeford
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ysgrifennydd cyllid Cymru, Mark Drakeford wedi awgrymu na fydd unrhyw newidiadau mawr yn y gyllideb nesaf

  • Cyhoeddwyd

Mae cynghorau yn rhybuddio y gallai gwasanaethau gael eu torri, trethi eu codi a gweithwyr eu diswyddo heb ragor o gefnogaeth yn y gyllideb nesaf.

Mae ysgrifennydd cyllid Llywodraeth Cymru, Mark Drakeford, wedi awgrymu y byddai'r gyllideb nesaf yn un "busnes fel yr arfer" a fyddai ond yn codi yn unol â chwyddiant.

Ond awgrymodd llefarydd cyllid Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Anthony Hunt, y byddai cyllideb o'r fath yn cael effaith "trychinebus" ar wasanaethau lleol.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod y pwysau ar wasanaethau cyhoeddus, ond y byddai'r cynlluniau yn cynnig "sefydlogrwydd" i gynghorau ac yn rhoi rywfaint o "hyblygrwydd" i'r llywodraeth nesaf.

Ar raglen Politics Wales fore Sul, dywedodd Mr Hunt - arweinydd Cyngor Sir Torfaen - nad oedd cynghorau eisiau gwneud rhagor o doriadau, a'u bod am "weithio gyda Llywodraeth Cymru".

Ychwanegodd ei fod yn deall ei bod hi'n "anodd" i'r llywodraeth ar hyn o bryd, ond bod y pwysau ar wasanaethau cymdeithasol ac ysgolion yn "aruthrol".

"Rydyn ni'n gwybod y bydd rhaid i ni lenwi rhywfaint o'r bwlch ariannol ein hunain," meddai.

"Byddwn yn gweithio yn galed i wneud arbedion, i fod yn fwy effeithlon, ond mae'n rhaid gweithio gyda'n gilydd ar bob lefel o lywodraethu.

"Gallwn redeg y gwasanaethau ataliol hynny sy'n helpu lleihau'r pwysau ar y gwasanaeth iechyd. Gallwn adeiladu ein cymunedau a gwneud bywydau pobl yn well."

'Sefydlogrwydd a hyblygrwydd'

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni wedi dewis bwrw 'mlaen â chyllideb o'r fath ar gyfer 2026-27 er mwyn cynnig sefydlogrwydd i wasanaethau cyhoeddus wrth i ni agosáu at etholiadau'r Senedd.

"Bydd hefyd yn rhoi hyblygrwydd i'r llywodraeth nesaf allu gosod eu blaenoriaethau nhw o'r dechrau un.

"Rydyn ni'n deall ac yn cydnabod y pwysau ar wasanaethau cyhoeddus ac awdurdodau lleol.

"Mae gweinidogion a swyddogion yn cynnal trafodaethau cyson gydag awdurdodau lleol ynglŷn â'r ffordd orau i fynd i'r afael â'r heriau maen nhw'n eu hwynebu."