Plant yn cael hunllefau wrth fyw mewn tŷ sydd â llygod mawr

Llygoden fawrFfynhonnell y llun, Dienw
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r fam yn dweud bod llygod mawr ym mhob rhan o'r tŷ

  • Cyhoeddwyd

Mae mam i ddau o blant yn dweud bod y teulu wedi eu "trawmateiddio" ar ôl byw mewn cartref sydd "â phla o lygod mawr" am bron i ddegawd.

Mae'r fenyw - sydd am aros yn ddienw - yn byw mewn tŷ cyngor yn Wrecsam gyda dau o'i phlant, ac mae un yn awtistig.

"Dydw i ddim eisiau dod adref dim mwy," meddai'r fam. "Dyw'r plant ddim yn defnyddio'r tŷ bach dim mwy, maen nhw'n defnyddio bwced gan eu bod yn ofni y byddai'r llygod mawr yn dod allan."

Dywedodd y cyngor eu bod wedi anfon contractwr difa pla, wedi cynnig cyngor i'r teulu ac wedi cynnig tŷ arall ond cafodd y cynnig hwnnw ei wrthod.

Rhybudd: Gallai'r cynnwys isod beri gofid i rai

Rydym yn cadw'r eiddo'n lân a thaclus ond mae'r llygod mawr dal wedi bod yn dod "dro ar ôl tro am naw mlynedd", sy'n gwneud i'r ddynes feddwl bod nyth yn agos.

"Maen nhw wedi bod yn dod allan o gypyrddau'r gegin ac allan o dan y bath," meddai.

"Rydw i wedi siarad â'r tenant blaenorol hefyd a dywedodd hi ei bod wedi cael yr un broblem".

Ychwanegodd bod gwasanaeth difa pla wedi bod gyda nhw "bron bob wythnos am flynyddoedd".

Mae'n honni bod y llygod mawr wedi cnoi drwy eitemau yn y cartref ac eitemau gwerthfawr.

"Mae fy mhlentyn awtistig yn sensitif i bethau synhwyraidd a gyda'r arogl a'r sŵn, fi'n gallu gweld bod nhw dan straen."

Dywedodd fod y sŵn yn ystod y nos yn annioddefol a bod y plant yn cael hunllefau.

Twll mewn walFfynhonnell y llun, Dienw
Disgrifiad o’r llun,

Ar ôl i dyllau cael eu llenwi mae'r llygod mawr yn cnoi trwyddyn nhw meddai'r fam

"Weithiau bydd y cyngor yn llenwi twll yn y cwpwrdd ond mae'r llygod mawr yn cnoi twll arall drwy hwnna'n gyflym.

"Yna, pan maen nhw'n marw yn y waliau neu o dan gypyrddau'r gegin mae'n rhaid i ni ddelio ag arogl llygod mawr yn pydru.

"Mae 'di cyrraedd y pwynt nawr lle na allaf ddioddef hyn dim mwy."

Gofynnodd Cyngor Wrecsam i'r teulu a fydden nhw'n ystyried symud i Goedpoeth yn gynharach y mis hwn.

Ond, mae'n bellach o'u rhwydwaith cymorth ac o ysgol y plant, a dywedon nhw eu bod yn barod yn teithio'n ddigon pell yn enwedig o ystyried anghenion eu plentyn awtistig.

Dywedodd dirprwy arweinydd Cyngor Wrecsam, David Bithell: "Mae cynigion tai yn cael eu gwneud ar sail yr angen, y galw a'r cyflenwad.

"Ein nod yw cynnig yr eiddo mwyaf addas yn seiliedig ar y ffactorau hynny."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig