Gwahardd gwleidyddion rhag dweud celwydd 'erbyn 2026'
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud addewid i wneud hi'n drosedd cyn etholiad nesaf Senedd Cymru yn 2026 i wleidyddion ddweud celwydd.
Fe ddaeth addewid y Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw, ddydd Mawrth wrth i'r llywodraeth wynebu'r posibilrwydd o gael eu trechu mewn dadl ar y mater yn y siambr.
Cyn-arweinydd Plaid Cymru, Adam Price oedd wedi ychwanegu'r drosedd at ddeddfwriaeth sy’n mynd drwy’r Senedd ar hyn o bryd, gyda chymorth yr AS Llafur Lee Waters.
Mae BBC Cymru wedi cael gwybod bod y llywodraeth wedi dod i gytundeb gyda Phlaid Cymru a Mr Waters oriau cyn y bleidlais.
Enillodd y llywodraeth y bleidlais o 26 i 13, gyda 13 o ASau'n ymatal eu pleidlais.
Dywedodd Mr Price bod yr hyn sydd wedi ei gyhoeddi yn "wirioneddol hanesyddol".
- Cyhoeddwyd22 Mai 2024
Roedd Mr Waters a Mr Price wedi dadlau y byddai Cymru'n "arwain y byd" pe byddai aelodau yn pasio'r drosedd o dwyll.
Roedd Mr Antoniw, wedi rhybuddio ASau mewn llythyr y gallai'r gyfraith "wneud mwy o ddrwg nag o les".
Fe fynegodd bryder hefyd bod yn ddiffyg ymgynghori ar y mater gyda'r heddlu.
Ond roedd yn debygol o golli'r ddadl ddydd Mawrth wrth i'r holl wrthbleidiau uno i gefnogi cynnig Mr Price.
Dan y cynnig, fe fyddai gwleidyddion ac ymgeiswyr yn cael 14 diwrnod i dynnu datganiad anwireddus yn ôl.
Pe bydden nhw'n cael eu herlyn mewn llys fe fydden nhw'n cael eu gwahardd rhag bod yn AS am bedair blynedd.
Dydy hi ddim yn glir eto a fyddai dweud celwydd yn drosedd yn un gyfreithiol ynteu'n un sifil dan y ddeddf arfaethedig.
Roedd yna drafodaethau gyda'r gwrthbleidiau gydol ddydd Mawrth, ac mewn cam anarferol fe fynychodd Mr Antoniw - prif gynghorydd cyfreithiol y llywodraeth Lafur - gyfarfod o grŵp Ceidwadol y Senedd.
Dywedodd wrth y Senedd y byddai gweinidogion yn cyflwyno cyfraith a fyddai'n gwahardd gwleidyddion ac ymgeiswyr rhag bod yn Aelodau o'r Senedd sydd "yn cael eu canfod yn euog dwyll beriadol, trwy broses gyfreithiol annibynnol".
Fe fydd yna gais nawr i'r pwyllgor safonau "lunio cynigion i'r perwyl hynny".
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2024
Mae'r cyhoeddiad, medd Adam Price, yn "garreg filltir ac yn gydnabyddiaeth fod y trefniadau presennol i scirhau ymddiriedaeth a ffydd y cyhoedd mewn gwleidyddiaeth wedi methu".
Dywedodd Lee Waters, bod gwleidyddiaeth "wedi tywyllu" yn ddiweddar a bod hi'n "ofidus i weld y fath annifyrrwch yn cael ei normaleiddio yn dawel bach".
Mae "ceisio ailadeiladu'r ymddiriedaeth" mewn gwleidyddiaeth yn hanfodol, medd y Ceidwadwr Peter Fox yn y Senedd, ond mae'n pryderu na fydd digon o amser i drafod cynnig Mr Antoniw yn y siambr.
Dywedodd yr AS Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, bod twyll yn "ffynnu" ymhlith gwleidyddion "oherwydd dydyn ni ddim yn dioddef unrhyw wir ganlyniadau".